A all ychwanegu testosteron at Therapi Adfer Hormonau (HRT) safonol leihau symptomau’r menopos y tu hwnt i ysfa rywiol well?
25 Medi 2024
Nod astudiaeth newydd yw dangos a oes gan destosteron fanteision iechyd, cymdeithasol ac ariannol mewn menywod menoposaidd.
Nod ymchwilwyr yng Nghymru yw pennu am y tro cyntaf effaith testosteron ar wybyddiaeth, ymarfer corff, cymhelliant a lefelau egni mewn menywod menoposaidd. Gallai manteision pellach i fenywod gynnwys gwell hwyliau a mwy o ffocws yn y gweithle.
Mae’r astudiaeth ESTEEM yn hap-dreial rheoledig (RCT) a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Gall dros 400 o fenywod menoposaidd hunan-atgyfeirio i'r astudiaeth neu gofrestru trwy eu meddygfa. Bydd yr holl fenywod a gaiff eu recriwtio yn cael eu haseinio i dderbyn testosteron neu blasebo.
Amcangyfrifir bod tua 13 miliwn o bobl amfenoposaidd neu fenoposaidd yn y DU. I’r rhan fwyaf o fenywod, mae’r menopos yn broses a all, i rai, achosi gorbryder a gofid oherwydd ystod eang o symptomau. Ar hyn o bryd, HRT yw'r driniaeth feddygol fwyaf effeithiol a ddefnyddir ehangaf ar gyfer symptomau’r menopos, ond i lawer o fenywod mae symptomau'n parhau i effeithio ar eu bywydau er gwaethaf ei ddefnydd.
Bydd menywod yn yr astudiaeth ESTEEM yn adrodd ar eu symptomau presennol pan fyddant yn ymuno â'r astudiaeth, ac yna ar 3, 6, a 12 mis. Bydd tîm ESTEEM yn mesur a yw’r symptomau sy'n bwysig i fenywod yn gwella neu'n gwaethygu gan ddefnyddio holiadur. Bydd y symptomau hyn yn cynnwys pyliau poeth, chwysu yn y nos, hwyliau, gwybyddiaeth, perthnasoedd, a hyder. Bydd tîm ESTEEM hefyd yn edrych ar weithrediad corfforol gan gynnwys poenau yn y cyhyrau a'r cymalau, meddwl pŵl, eglurder meddyliol, a lefelau egni. Bydd tîm ESTEEM yn mesur cost symptomau i fenywod, megis yr amser a gymerir i ffwrdd o'r gwaith, a chostau i wasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Mae’r astudiaeth ESTEEM yn cael ei rhedeg o’r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cael ei harwain gan yr Athro Mike Robling a Dr Helen Munro. Mae’r Athro Mike Robling yn gyd-gyfarwyddwr CTR, uned treialon clinigol sydd wedi’i chofrestru gydag UKCRC. Mae Dr Helen Munro wedi derbyn Gwobr Amser Ymchwil gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae’n ymgynghorydd sy’n arbenigo mewn gofal Rhywiol ac Atgenhedlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Gobeithiwn mai hon fydd yr astudiaeth a fydd yn dangos a all testosteron ddod â manteision pwysig i fenywod, neu fel arall, gyda hap-dreial rheoledig cadarn. Pe bai manteision clir yn dod i’r amlwg yn yr astudiaeth, bydd yn helpu i gyfrannu at leihau anghydraddoldebau gofal iechyd ledled y DU a gwella lles llawer o fenywod.”
- Yr Athro Mike Robling, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil
“Fel Ymgynghorydd mewn Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol sy’n arbenigo yn y Menopos, rydw i wrth fy modd i gyd-arwain yr astudiaeth hon. Gobeithiwn y bydd ESTEEM yn llywio dulliau gofal iechyd yn fyd-eang yn y maes allweddol hwn. Gwyddom fod gan destosteron fanteision i fenywod o ran gweithrediad rhywiol, ac mae angen i ni ddeall ar fyrder y manteision posibl eraill ac unrhyw risgiau i driniaeth.”
- Dr Helen Munro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae partneriaid cydweithredol ar yr astudiaeth yn cynnwys academyddion o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe. Mae tîm yr astudiaeth hefyd yn gweithio gyda dau sefydliad cyhoeddus – y bartneriaeth gymunedol Talking Trials a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru. Ariennir yr astudiaeth gan raglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA) y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac mae’n rhedeg am bedair blynedd. Disgwylir canlyniadau yn 2028. Ariennir y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Am ymholiadau am yr astudiaeth, e-bostiwch ESTEEM@caerdydd.ac.uk
Ynglŷn â Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR)
Cenhadaeth y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yw gwella iechyd a chyfoeth y genedl drwy ymchwil. Byddwn ni’n gwneud hyn drwy:
* Ariannu ymchwil amserol o safon uchel sydd o fudd i’r GIG, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol
* Buddsoddi mewn arbenigedd a chyfleusterau o safon fyd-eang a gweithlu medrus i droi darganfyddiadau’n driniaethau ac yn wasanaethau gwell
* Gweithio mewn partneriaeth â chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a chymunedau, gan wella perthnasedd, safon ac effaith ein hymchwil
* Denu, hyfforddi a helpu'r ymchwilwyr gorau i fynd i'r afael â heriau cymhleth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
* Cydweithio â chyllidwyr cyhoeddus eraill, elusennau a’r diwydiant i helpu i ddatblygu system ymchwil gydlynol sy’n cystadlu’n fyd-eang
* Cyllido ymchwil a hyfforddiant iechyd byd-eang a chymhwysol i ddiwallu anghenion y bobl dlotaf mewn gwledydd incwm isel a chanolig
Ariennir yr NIHR gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU. Ariennir ei waith mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn bennaf drwy UK Aid, gan Lywodraeth y DU.