Gallai cynllun gweithredu cymunedol ddangos y ffordd ymlaen ym maes cynhyrchu ar y cyd
26 Medi 2024
Gallai cynllun gweithredu a gafodd ei greu mewn partneriaeth â chymuned roedd aflonyddwch sifil yn effeithio arni fod yn sail i fentrau’r dyfodol, yn ôl adroddiad.
Dilynodd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd y broses o gyd-gynhyrchu Cynllun Datblygu Trelái a Chaerau, a oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol a fu’n gweithio “mewn partneriaeth go iawn â phobl Trelái a Chaerau”.
Yn rhan o’r cynllun gorffenedig, a ddatblygwyd mewn ymateb i’r aflonyddwch sifil a ddigwyddodd ym mis Mai 2023, roedd 40 o gamau gweithredu i helpu’r gymuned i adfer yn yr hirdymor, ac mae gan bob un o’r camau gefnogaeth ac ymrwymiad y gwasanaethau cyhoeddus lleol, sefydliadau’r sector gwirfoddol a’r trigolion eu hunain yn hyn o beth.
Rhwng Awst 2023 a Mai 2024, bu Gweithredu dros Gaerau a Threlái (ACE) yn arwain y gwaith o ddatblygu’r cynllun. Mae academyddion yn dweud bod gofalu bod sefydliad lleol ynghlwm, a oedd â hanes hir o gefnogi cymunedau yn Nhrelái a Chaerau, yn hollbwysig o ran argyhoeddi’r trigolion i ymgysylltu â’r broses.
Dyma a ddywedodd yr Athro Martin Kitchener o Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae ein dadansoddiad yn dangos bod datblygu a chynnal ymddiriedaeth rhwng gweithwyr proffesiynol ac aelodau’r gymuned yn elfen gychwynnol sylfaenol yn y broses o gynhyrchu ar y cyd go iawn. Dyma dasg arbennig o heriol yng nghyd-destun Trelái a Chaerau yn dilyn digwyddiadau trasig 2023. Yn y sefyllfa honno pan roedd yr ymddiriedaeth yn isel, roedd yn ymddangos yn arbennig o bwysig bod cyd-gynhyrchu’r cynllun yn cael ei arwain gan gorff annibynnol a oedd eisoes wedi ennill ei blwyf yn y cymunedau hynny. Roedd ACE, gan ei bod yn elusen datblygu cymunedol leol, mewn sefyllfa dda i wneud y gwaith hwnnw.
“Nid yw’n glir a fyddai gan y sector statudol y gallu neu’r arbenigedd penodol i gyflawni’r rôl honno yr un mor effeithiol mewn sefyllfaoedd eraill.”
Nodwyd bod chwe sgil allweddol i weithwyr proffesiynol feddu arnyn nhw yn rhai hollbwysig er mwyn i'r cynllun gael ei gyflawni'n effeithiol – a meithrin a chynnal ymddiriedaeth oedd y cyntaf o’r rhain. Gallu gosod ffiniau; rheoli sgyrsiau anodd; dangos empathi; grymuso'r gymuned; ac roedd y gallu i gasglu ynghyd a chyflwyno lleisiau cymunedol hefyd yn bwysig er mwyn cydweithio’n effeithiol.
Ychwanegodd yr Athro Kitchener: “Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos yr angen i roi sylw difrifol i hyfforddiant a dod o hyd i’r gweithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau cywir i wneud y math hwn o waith.
“Gan i’r cyfranogwyr cymunedol roi gwybod eu bod yn arbennig o fodlon ar y broses yn Nhrelái a Chaerau, mae’n bosibl y bydd y sgiliau cyd-gynhyrchu y daethpwyd o hyd iddyn nhw yma yn sail i ymdrechion yn y dyfodol i rymuso cymunedau drwy gyd-gynhyrchu.”
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wedi cadarnhau eu hymrwymiad i sicrhau bod y cynllun cymunedol yn cael ei gyflawni er budd yr holl drigolion.