Creu hanes: llwyddiant dwbl i fyfyrwyr
24 Medi 2024
Cyn-fyfyrwyr yn ennill gwobr fawreddog a Gwobr Harriet Tubman sydd â’r nod o gefnogi cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr BAME i ffynnu yn y ddisgyblaeth
Mae dau o raddedigion Hanes Dosbarth 2024 wedi ennill gwobrau mawreddog yr haf hwn.
Mae Rhian Davies (BA 2024, Hanes) wedi ennill lle i barhau â’i hastudiaethau yn UDA trwy Gymrodoriaeth hynod gystadleuol Kinder-BrANCH, a gefnogir gan Sefydliad Kinder ar gyfer Democratiaeth Gyfansoddiadol ym Mhrifysgol Missouri, a British American American Nineteenth Century Historians (BrANCH). Mae'r wobr yn cynnwys lle wedi'i ariannu'n llawn ar y cynllun MA Hanes a Gwleidyddiaeth Atlantig yn y flwyddyn academaidd newydd hon ynghyd ag ariantal hael am y flwyddyn a hediadau dwyffordd.
Dywedodd Rhian:
“Rydw i mor ddiolchgar o ennill Cymrodoriaeth Kinder-BrANCH 2024/25 i wneud MA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Atlantig ym Mhrifysgol Missouri. Mae hyn yn golygu cymaint i mi, gan fy mod i wedi gallu fforddio parhau â’m hastudiaethau, ac mae wedi rhoi’r pleser i mi o astudio mewn prifysgol gyhoeddus flaenllaw yn yr Unol Daleithiau. Mae profi bywyd coleg yn yr Unol Daleithiau mewn sefydliad o safon fyd-eang fel Sefydliad Kinder ar gyfer Democratiaeth Gyfansoddiadol, ehangu fy set sgiliau ymhellach, a mynd i ddigwyddiadau fel gemau Pêl-droed Americanaidd wedi fy ngalluogi i ymgolli mewn ffordd wahanol o fyw, gan gymryd rhan yn nhraddodiadau’r brifysgol. Mae’r cyfle amhrisiadwy hwn wedi fy ngalluogi i gamu allan o’m cornel gyfforddus, darganfod llefydd newydd a chwrdd â phobl newydd.”
Mewn llwyddiant dwbl i fyfyrwyr hanes y Brifysgol, mae Alisha Stephenson (BA 2024, Hanes) hefyd wedi ennill gwobr BrANCH fawreddog. Mae Alisha wedi ennill Gwobr Harriet Tubman, a ddyfernir am y traethawd hir neu brosiect ymchwil israddedig gorau ar hanes Americanaidd yn y 19eg ganrif gan fyfyrwyr Du, Asiaidd, neu Ethnig Leiafrifol sydd wedi'u lleoli yn y DU, gyda’i gwaith yn cael ei ddisgrifio fel trawiadol, sensitif, ystyriol, ac wedi'i ddadlau'n fedrus gan y panel beirniadu.
Dywedodd Alisha:
“Roeddwn i wrth fy modd o glywed bod arweinydd y modiwl, Dr David Doddington, wedi fy enwebu am Wobr fawreddog Harriet Tubman. Ces i fy synnu’n llwyr oherwydd roeddwn i bant yn gweithio yn UDA dros wyliau’r haf. Drwy gydol fy astudiaethau israddedig, rydw i wedi canolbwyntio fy narllen yn gyson o amgylch fy niddordebau personol, yn enwedig hanes Du Prydeinig, Affricanaidd-Americanaidd, a phan-Affricanaidd. Penllanw hyn oedd fy nhraethawd hir israddedig yn dwyn y teitl Navigating Oppression: The Gendered Resistance of Enslaved Women in the Antebellum South. Fel rhywun o dras Jamaicaidd, roeddwn i wedi fy siomi na chefais gyfle i astudio hanes pobl ddu nes i mi gyrraedd y brifysgol. Mae cymaint yr hoffwn ymchwilio iddo o hyd ynghylch fy nhreftadaeth ddiwylliannol fy hun. Rwy’n awyddus i barhau i ddyfnhau fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth academaidd yn y maes hwn. Mae derbyn y wobr hon wir yn anrhydedd, a bydd yn caniatáu i mi archwilio ymhellach frwydrau dyngarol fy nghyndeidiau wrth ehangu fy ymchwil yn y maes hanfodol hwn o hanes.”
Mae’r ddwy wobr yn adlewyrchu ymdrechion i fynd i’r afael â rhwystrau i amrywiaeth a chynhwysiant hiliol ac ethnig mewn adrannau hanes ym mhrifysgolion y DU gan gynnwys y dilyniant o lefel israddedig i ôl-raddedig ar gyfer aelodau o’r cymunedau Du, Asiaidd, Ethnig Leiafrifol (neu BAME) yn dilyn arolygon ac adroddiadau disgyblaeth a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Astudiaethau Americanaidd Prydain (BAAS) a'r Gymdeithas Hanes Frenhinol.
Gan anrhydeddu’r ffoadures gaeth, y diddymydd, a’r gweithredydd Harriet Tubman, dyluniwyd y wobr sy’n dwyn ei henw i annog mwy o fyfyrwyr BAME i ystyried gwaith ôl-raddedig ym maes hanes Americanaidd y 19eg ganrif.
Gydag arbenigedd cyfunol eang yn rhychwantu meysydd sy'n dod i'r amlwg fel hanes digidol ac amgylcheddol ochr yn ochr â meysydd hynod boblogaidd gan gynnwys diwylliant, rhyw, hanes gwleidyddol a chymdeithasol, mae hanes yn y Brifysgol hefyd yn rhychwantu Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia, a Chyfandiroedd America ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.