Ewch i’r prif gynnwys

Maniffesto yn amlinellu rôl plancton wrth fynd i'r afael ag argyfwng triphlyg y blaned

24 Medi 2024

Argraff arlunydd o mixoplancton o dan wyneb y dŵr.
Cafodd Dr Aditee Mitra ei dewis yn un o gyfranwyr y maniffesto am ei gwaith arloesol ar mixoplancton – microbau morol ungellog, sy’n ffotosyntheseiddio fel planhigion ac yn hela fel anifeiliaid mewn proses sy’n gysylltiedig ac sy’n cael ei hecsbloetio er mwyn tyfu.

Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith y cyfranwyr arbenigol i ddogfen bwysig sy’n amlygu rôl hollbwysig plancton wrth fynd i’r afael ag argyfyngau byd-eang cydgysylltiedig newid yn yr hinsawdd, llygredd, a cholli bioamrywiaeth.

Mae Dr Aditee Mitra, uwch gymrawd ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, yn un o 30 o arbenigwyr rhyngwladol o sefydliadau a diwydiannau blaenllaw ledled y byd a fu’n datblygu a chyfleu’r Maniffesto Plancton.

Dan arweiniad yr Ocean Stewardship Coalition, menter Global Compact y Cenhedloedd Unedig, mae’r ddogfen yn cyflwyno cyfres o argymhellion strategol i lywio ymdrechion byd-eang i ddiogelu plancton a harneisio eu potensial i fynd i’r afael ag argyfwng triphlyg y blaned, fel y’i gelwir.

Nod y ddogfen yw bod yn gatalydd ar gyfer gweithredu ac mae'n ceisio cyfleu neges gryno, gynhwysfawr sydd â sail wyddonol iddi ar gyfer llywodraethau, asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, sefydliadau’r cefnforoedd, cyrff anllywodraethol, a'r sector preifat.

Dywedodd Dr Aditee Mitra, sef yr unig gyfrannwr o Gymru: “Cymerodd hi sawl mis i ddatblygu’r maniffesto gyda chydweithwyr o wahanol sectorau o ymchwil i blancton, wrth i ni geisio canfod tir cyffredin.

Mae cymunedau plancton yn cwmpasu sbectrwm o organebau amrywiol, o ficrobau o ryw ganfed o led blewyn dynol i anifeiliaid gelatinaidd o fetrau o faint. Nid tasg hawdd oedd llunio maniffesto i adlewyrchu’r cymhlethdodau o fewn yr holl ffurfiau bywyd plancton hyn.

Dr Aditee Mitra Research Fellow

Mae plancton, gan gynnwys organebau o ficrobau ungellog i anifeiliaid amlgellog, wedi bod yn sylfaen i fywyd ar y Ddaear ers dros 3.5 biliwn o flynyddoedd ac yn cyflawni swyddogaethau hanfodol sy'n cynnal iechyd y blaned.

Er gwaethaf eu pwysigrwydd aruthrol, mae plancton dan fygythiad a does dim llawer o ddealltwriaeth ohonyn nhw o hyd.

Mae'r maniffesto yn galw am gydnabyddiaeth fyd-eang ar unwaith a chamau gweithredu i amddiffyn yr organebau hanfodol hyn.

Cafodd Dr Mitra ei dewis yn un o gyfranwyr y maniffesto ar ôl ei gwaith ar brosiect MSCA MixlTiN Horizon 2020 a gafodd ei ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Arweiniodd y gwaith a gafodd ei gynnal yn rhan o’r prosiect at ganfod patrwm newydd mewn ecoleg forol yn seiliedig ar mixoplancton - microbau morol ungellog, sy'n ffotosyntheseiddio fel planhigion ac yn hela fel anifeiliaid mewn proses sy'n gysylltiedig ac sy’n cael ei hecsbloetio er mwyn tyfu.

Ychwanegodd Dr Mitra: “Rydyn ni wrth ein bodd bod pwysigrwydd mixoplancton mewn ecoleg forol wedi’i gydnabod yn y Maniffesto.

Yn rhan o’r newid yn yr hinsawdd, rydyn ni’n darganfod ffyrdd amrywiol o sut mae mixoplancton yn sbarduno amrywiaeth gweoedd bwyd morol gyda goblygiadau i bysgodfeydd a gweithgareddau hamdden. Rydyn ni’n gobeithio y bydd cymeradwyo’r Maniffesto yn allweddol i helpu i hyrwyddo dealltwriaeth ynghylch plancton.

Dr Aditee Mitra

Ymhlith ei argymhellion allweddol, mae galwadau am well gwybodaeth i fonitro plancton yn well, codi ymwybyddiaeth o blancton i bawb a chynnwys plancton yn rhan o drafodaethau rhyngwladol ar yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Dywedodd Sanda Ojiambo, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol a Phrif Swyddog Gweithredol Global Compact y Cenhedloedd Unedig: “Mae’r Maniffesto Plancton yn gam hanfodol ymlaen yn ein hymateb ar y cyd i argyfwng triphlyg y blaned.

“Mae plancton nid yn unig yn sylfaen i ecosystemau morol ond hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a llygredd.”

Mae plancton nid yn unig yn sylfaen i ecosystemau morol ond hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a llygredd. Trwy ddiogelu plancton, rydyn ni’n amddiffyn rhan hanfodol o’r system sy’n cynnal bywyd ein planed, gan sicrhau gwytnwch ein cefnforoedd a’n hecosystemau dŵr croyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Sanda Ojiambo Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol a Phrif Swyddog Gweithredol Global Compact y Cenhedloedd Unedig

Yn dilyn lansio’r maniffesto yn 79fed sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, bydd yr Ocean Stewardship Coalition yn ceisio cymeradwyaeth mewn cynadleddau amgylcheddol byd-eang allweddol, gan gynnwys COP29 ar yr Hinsawdd, COP16 ar Fioamrywiaeth, a Chynhadledd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig.

Dysgwch ragor am y Maniffesto Plancton.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.