Cynaliadwyedd amgylcheddol ym myd rygbi
24 Medi 2024
Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cychwyn ymchwil newydd ym maes cynaliadwyedd chwaraeon drwy geisio barn cefnogwyr Clwb Rygbi'r Dreigiau.
Gofynnwyd i gefnogwyr a aeth i gemau cartref y tymor diwethaf a'r gêm gartref yn ddiweddar yn erbyn y Gweilch gwblhau arolwg ar-lein am sut maen nhw’n cyrraedd y stadiwm.
Bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol hefyd yn cynnwys gweithdai i’r rhanddeiliaid gyda phartneriaid allanol i helpu ymchwilwyr a Chlwb Rygbi’r Dreigiau i ddeall yn well effaith gwaith y clwb ar wella cynaliadwyedd.
Dyma a ddywedodd Dr Andrea Collins o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Gan fod strategaethau cynaliadwyedd arloesol wrth galon ‘Eco-ymgyrch’ y clwb, mae’r Dreigiau yn arwain y gwaith o leihau ôl troed carbon y gamp, gan annog y cefnogwyr i ymuno â nhw yn eu hymdrechion i ysgogi newidiadau amgylcheddol cadarnhaol.”
Bydd ein hymchwil yn galluogi Clwb Rygbi’r Dreigiau i fesur dewisiadau teithio cefnogwyr, megis a ydyn nhw bellach yn defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy megis trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol fel cerdded neu feicio, yn ogystal â deall yr heriau lleol y mae cefnogwyr yn eu hwynebu pan fyddan nhw’n teithio pan fydd gêm ymlaen.”
Dyma a ddywedodd yr Athro Nicole Koenig-Lewis o Ysgol Busnes Caerdydd: “Yn y pen draw, bydd yr wybodaeth sylfaenol bwysig hon yn ein helpu i ymchwilio i’r graddau y mae ymdrechion y Dreigiau yn troi’n gamau ar y cyd ac yn annog newidiadau cynaliadwy yn ymddygiad y cefnogwyr, tra hefyd yn cefnogi’r clwb i greu mentrau a phrosiectau cyfathrebu o ran cynaliadwyedd amgylcheddol.”
Yn 2023, cyhoeddodd Dreigiau bartneriaeth newydd â Pledgeball, gan anfon neges gryf i'r gymuned rygbi ehangach a chefnogwyr fel ei gilydd am bwysigrwydd mesurau gweithredu uchelgeisiol a chynhwysol i amddiffyn y lleoedd maen nhw’n chwarae ynddyn nhw.
Gan ymrwymo’n gryf i gyfrifoldeb amgylcheddol, ynghyd â chefnogaeth Pledgeball, mae Clwb Rygbi’r Dreigiau wedi rhoi nifer o gynlluniau ar waith gyda busnesau ac elusennau lleol gan gynnwys Stagecoach De Cymru, Trafnidiaeth Casnewydd, Trafnidiaeth Cymru a Momentwm, gyda’r nod o leihau effaith amgylcheddol teithiau gan gefnogwyr i’r gemau yn ogystal ag annog cefnogwyr i addo gweithredu ar y cyd ar newidiadau yn yr hinsawdd.
Dyma a ddywedodd Rhys Blumberg, Prif Weithredwr Clwb Rygbi’r Dreigiau: “Roedd prosiect Dreigiau Eco, a oedd wedi ennill sawl gwobr, yn amlwg iawn yn ein gemau y tymor diwethaf, ac felly rydyn ni wrth reswm wrth ein boddau i gael parhau â’r gwaith hwnnw gyda Phrifysgol Caerdydd a Pledgeball.
“Bydd y bartneriaeth hon a’r ymchwil sy’n cael ei gwneud am gynaliadwyedd ym myd chwaraeon yn ein galluogi i ysgogi newidiadau a pharhau i wneud penderfyniadau allweddol a fydd yn gwella ein gwaith yn y maes allweddol hwn.”
Dyma a ddywedodd Katie Cross, Prif Swyddog Gweithredol Pledgeball: “Dyma gam nesaf cyffrous iawn yn y bartneriaeth rhwng y Dreigiau a Pledgeball. A ninnau’n elusen a gefnogir gan ymchwil sy’n annog byd chwaraeon i gymryd camau i ‘Amddiffyn Ble Rydyn ni’n Chwarae’ drwy wneud dewisiadau sy’n lleihau ein heffeithiau amgylcheddol ond hefyd drwy ddatgan ein bod eisiau gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, rydyn ni wrth ein boddau i gael bod yn rhan o’r prosiect hwn.
“Mae cefnogwyr y Dreigiau eisoes wedi dangos ymrwymiad anhygoel ac yn hyn o beth, arloeswyr ydyn nhw. Mae’r prosiect hwn yn cryfhau’r bartneriaeth drwy gefnogi datblygiad offeryn y gellir ei ddefnyddio’n eang ac a fydd hefyd yn llywio strategaethau er mwyn cael rhagor o effaith.”
Mae'r prosiect cyfnewid gwybodaeth hwn wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Gyfrif Sbarduno Effaith (IAA) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Caerdydd (ESRC).