Astudiaeth newydd yng Nghymru yn annog cefnogaeth iechyd meddwl sydd wedi'i theilwra i fyfyrwyr prifysgol
19 Medi 2024
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr Canolfan Wolfson ym Mhrifysgol Abertawe yn galw am wasanaethau iechyd meddwl sydd wedi'u haddasu i fynd i'r afael ag anghenion penodol myfyrwyr prifysgol yng Nghymru.
Mae'r astudiaeth hon sydd newydd ei chyhoeddi, a arweiniwyd gan yr Athro Ann John a Dr Olivier Y. Rouquette, yn dwyn y teitl "Trends in Incidence of Self-Harm, Neurodevelopmental, and Mental Health Conditions Among University Students Compared to the General Population: A Nationwide Electronic Data Linkage Study in Wales."
Mae'r astudiaeth yn edrych ar dueddiadau iechyd meddwl myfyrwyr prifysgol ac yn eu cymharu â'u cyfoedion nad ydyn nhw’n fyfyrwyr yng Nghymru, gan gynnig cipolwg gwerthfawr ar bryderon cynyddol am hunan-niweidio, anhwylderau iechyd meddwl, a chyflyrau niwroddatblygiadol mewn poblogaethau myfyrwyr.
Gan ddefnyddio cofnodion iechyd electronig a chysylltu data gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) â banc data SAIL, canolbwyntiodd yr ymchwil ar bron i 97,000 o fyfyrwyr israddedig a gofrestrwyd rhwng 2012 a 2018, a oedd rhwng 18 a 24 oed pan ddechreuon nhw. Cafodd y myfyrwyr hyn eu cymharu â dros 151,000 o bobl o oedran, rhyw a chefndir economaidd-gymdeithasol tebyg, nad oedd yn fyfyrwyr.
Er gwaethaf y canfyddiad bod myfyrwyr prifysgol yn cael mwy o drafferth gydag iechyd meddwl, mae canfyddiadau'r astudiaeth yn datgelu bod myfyrwyr yn ymdopi'n well yn gyffredinol na'u cyfoedion nad ydyn nhw’n fyfyrwyr o ran iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae rhai materion fel anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), anhwylderau bwyta, anhwylder deubegynol, a chamddefnyddio alcohol yn bresennol ar lefelau tebyg yn y ddau grŵp. Mae cynnydd brawychus mwy amlwg wedi bod yng nghyfraddau hunan-niweidio, iselder, cyflyrau niwroddatblygiadol, sgitsoffrenia, a chamddefnyddio alcohol ymhlith myfyrwyr.
Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at ystod o ffactorau a allai gyfrannu at y cynnydd mewn pryderon ynghylch iechyd meddwl, gan gynnwys pwysau bywyd yn y brifysgol, straen ariannol, a'r heriau o bontio i addysg uwch. Roedd y risg o gamddefnyddio alcohol yn ddwysach ymhlith myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf. Yn ogystal â hynny, roedd myfyrwyr a oedd eisoes â chyflyrau iechyd meddwl, megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), gorbryder, neu oedd â hanes o hunan-niweidio, yn fwy tebygol o adael y brifysgol yn fuan. Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod myfyrwyr hŷn sy'n mynd i'r brifysgol mewn mwy o berygl o hunan-niweidio a datblygu cyflyrau iechyd meddwl o gymharu â'u cymheiriaid iau.
Dywedodd yr Athro Ann John: "Mae'r canfyddiadau hyn yn amlygu cymhlethdod ac amrywiaeth anghenion iechyd meddwl mewn prifysgolion, gan bwysleisio'r angen am wasanaethau cymorth sydd wedi'u teilwra. Mae datblygu rhaglenni iechyd meddwl integredig, amlddisgyblaethol o fewn prifysgolion yn hanfodol, gan ymgorffori popeth o sgrinio cychwynnol a chymorth lles i gwnsela ac atgyfeiriadau iechyd meddwl proffesiynol."
Mae'r astudiaeth hon yn gosod y sylfaen ar gyfer ymchwilio ymhellach a chynllunio mentrau iechyd meddwl sydd wedi'u hanelu at fyfyrwyr yn benodol, yn enwedig wrth i'r galw am addysg uwch yng Nghymru barhau i dyfu.
Mae’r astudiaeth “Trends in incidence of self-harm, neurodevelopmental and mental health conditions among university students compared with the general population: nationwide electronic data linkage study in Wales” wedi’i chyhoeddi ar-lein gan Wasg Prifysgol Caergrawnt dan Feddygaeth Seicoleg.