Prifysgol Caerdydd yn cynnal XXVain Symposiwm Rhyngwladol Maes Golwg a Delweddu IPS
19 Medi 2024
Croesawodd Prifysgol Caerdydd arweinwyr byd-eang mewn ymchwil diagnosteg gofal llygaid wrth iddynt gyfarfod ar gyfer XXVain Symposiwm Rhyngwladol Maes Golwg a Delweddu’r Gymdeithas Delweddu a Pherimetreg (IPS) rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst 2024.
Delweddu’r Gymdeithas Delweddu a Pherimetreg (IPS) rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst 2024. Daeth arbenigwyr rhyngwladol ac ymchwilwyr gyrfa gynnar mewn ymchwil delweddu a maes golwg ynghyd i gyflwyno a thrafod eu hymchwil arloesol, yn ogystal â ffyrdd o ddefnyddio technegau cyfoes i oresgyn yr heriau sy'n gysylltiedig â diagnosis a rheoli colli golwg.
Roedd arweinwyr diwydiant byd-eang mewn offer diagnostig hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, yn arddangos eu technoleg ddiweddaraf a datblygu perthnasoedd gwaith newydd a phresennol gydag ymchwilwyr.
Roedd y darlithoedd, cyflwyniadau llafar, a chyflwyniadau poster yn amlinellu'r ymchwil ddiweddaraf mewn seicoffiseg sylfaenol, archwiliadau gweledol clinigol, pathoffisioleg y retina, delweddu llygadol, delweddu'r ymennydd, yn ogystal â pherfformiad a gwelliant mewn technegau clinigol a chyfrifiannol i gynorthwyo diagnosis a rheolaeth o glefyd llygaid.
Ym mhob symposiwm IPS, mae dau ymchwilydd yn cael eu hanrhydeddu â darlithoedd gwobrwyo i gydnabod statws rhyngwladol nodedig mewn perimetreg a delweddu, a’u cyfraniad sylweddol tuag at y meysydd hyn. Yn symposiwm Caerdydd 2024, traddodwyd Darlith Gwobr IPS gan yr Athro Chota Matsumoto, MD, PhD, o Brifysgol Kindai, Japan. Traddodwyd Darlith Gwobr Aulhorn (er cof am Elfriede Aulhorn, arloeswr mewn ymchwil golwg clinigol) gan yr Athro Dr. Nomdo M. Jansonius, MD, PhD o Ganolfan Feddygol Prifysgol Groningen a Phrifysgol Groningen, Yr Iseldiroedd. Traddodwyd prif ddarlithoedd gan ymchwilwyr lleol gan yr Athro Derek Jones (CUBRIC) a'r Athro James Morgan (OPTOM/MEDIC).
Dyfarnwyd Gwobr fawreddog IPS-Heidelberg i ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Ulster ac UCL (a ariennir gan grant DPFS MRC) yn y symposiwm. Rhoddir y wobr am ymchwil gan ymchwilwyr gyrfa gynnar ar sut mae strwythur y retina yn sylfaenol berthnasol i fesuriadau o’r golwg. Roedd y prosiect buddugol, yn dwyn y teitl “Investigating the number of retinal ganglion cells underlying novel perimetric area-modulation stimuli exhibiting complete spatial and spatiotemporal summation at threshold in glaucoma”, yn amlinellu rhai o’r canfyddiadau o’r Astudiaeth REVAMP. Ceir rhagor o fanylion am yr astudiaeth ar dudalen we yr Astudiaeth REVAMP.
Yn ogystal â’r sesiynau gwyddonol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, roedd y digwyddiad pedwar diwrnod yn cynnwys derbyniad croeso yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gwledd Gymreig draddodiadol yng Nghastell Caerdydd, yn ogystal â thaith gwch a thaith gerdded o Fae Caerdydd.
Etholwyd Dr Tony Redmond, Darllenydd mewn Gwyddorau’r Golwg yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, yn Ysgrifennydd nesaf IPS gan aelodau IPS yn y cyfarfod diweddar, gan gymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Allison M McKendrick (Prifysgol Gorllewin Awstralia, Perth).
Noddwyd y digwyddiad drwy haelioni Topcon Healthcare Inc., Optopol Technology, Heidelberg Engineering GmbH, CREWT Medical Systems, Haag-Streit, Konan Medical, Johnson & Johnson, a Carl Zeiss Meditec.
Cynhelir symposia IPS bob dwy flynedd, gan symud rhwng pob cyfandir. Cânt eu mynychu’n rheolaidd gan gynrychiolwyr o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Japan, UDA, Canada, Awstralia, Brasil, India, a llawer o wledydd Ewropeaidd. Cyn cyfarfod Caerdydd 2024, cynhaliwyd y symposiwm mewn dinasoedd fel Berkeley, UDA (2022), Kanazawa, Japan (2018), Udine, yr Eidal (2016), Efrog Newydd, UDA (2014), a Melbourne, Awstralia (2012). Mae eleni’n nodi 50 mlynedd ers symposiwm cyntaf yr IPS, a gynhaliwyd ym Marseille, Ffrainc (1974). Bydd y symposiwm nesaf yn cael ei gynnal yn Bern, y Swistir, yn 2026.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfarfod Caerdydd 2024 IPS ar wefan y gynhadledd, a cheir rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas Delweddu a Pherimetreg ar wefan y gymdeithas.