Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn datgelu heriau iechyd meddwl cynyddol ymhlith plant dros gyfnod o amser

22 Hydref 2024

Mewn astudiaeth newydd gan Ganolfan Wolfson, daw i’r amlwg bod plant yn Lloegr ag anhwylderau seiciatrig yn wynebu anawsterau mwy difrifol y dyddiau hyn o gymharu â dau ddegawd yn ôl.

Roedd yr astudiaeth, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Jessica Armitage o Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a Dr Tamsin Newlove-Delgado o Gydweithrediad Ymchwil Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (ChYMe), yn dadansoddi data o arolygon cenedlaethol am iechyd meddwl plant a gynhaliwyd yn Lloegr ym 1999, 2004, a 2017. Mae’r canfyddiadau’n dangos cynnydd sylweddol yn nifrifoldeb ac effaith anhwylderau iechyd meddwl ymhlith plant rhwng pump a 15 oed yn 2017, ac mae’n amlygu’r heriau cynyddol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Cymharodd yr ymchwil blant ag anhwylderau emosiynol, ymddygiadol a gorginetig dros gyfnod o amser, gan ddefnyddio adroddiadau gan rieni, plant (11+ oed), ac athrawon. Yn ôl yr astudiaeth, roedd plant ag anhwylderau seiciatrig yn 2017 yn wynebu anawsterau mwy sylweddol yn yr ysgol, gartref, ac yn eu bywydau bob dydd o gymharu â'r rhai mewn degawdau cynharach. Er i rieni a phlant roi gwybod am heriau cynyddol, ni ddangosodd yr ymatebion gan athrawon yr un math o gynnydd mewn anawsterau.

Pwysleisiodd Dr Armitage, un o brif awduron yr astudiaeth, bod angen ymateb i’r canfyddiadau hyn ar frys: “Mae ein hastudiaeth yn datgelu tuedd sy’n peri cryn bryder: mae plant y dyddiad hyn yn wynebu baich llawer mwy o broblemau o gymharu â chenedlaethau blaenorol.”

Ar ben hynny, fe ystyriwyd ffactorau a allai olygu bod plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder seiciatrig. Elfen gyson ar draws y tri arolwg oedd y canfyddiad bod plant yn fwy tebygol o gael anhwylder iechyd meddwl os oeddent yn fechgyn, yn hŷn, yn byw mewn tai rhent, neu o deuluoedd incwm isel. Yn ogystal, roedd perthynas wael o fewn teuluoedd a phroblemau iechyd meddwl rhieni yn ffactorau risg sylweddol.

Yn ddiddorol, er bod y ffactorau hyn wedi parhau’n gyson, mae ethnigrwydd wedi datblygu i fod yn rhagfynegydd cynyddol bwysig. Yn 2017, roedd plant o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn llai tebygol o fod ag anhwylder o gymharu â phlant gwyn o’r un oedran, gan olygu bod y sefyllfa wedi newid o gymharu â degawdau cynharach.

Mae’r cynnydd mewn heriau iechyd meddwl a gyflwynwyd gan blant a rhieni yn 2017, ochr yn ochr â’r ymwybyddiaeth gynyddol o anawsterau iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19, yn dynodi bod angen brys am ymyrraeth. Mae awduron yr astudiaeth yn galw am ragor o ymchwil er mwyn deall achosion sylfaenol yr anawsterau cynyddol hyn.

Gan fod tystiolaeth sy’n dangos bod problemau iechyd meddwl ymhlith plant eisoes yn gwaethygu cyn y pandemig, mae’r canfyddiadau’n pwysleisio bod angen strategaethau atal effeithiol a gwneud yn siŵr bod cymorth iechyd meddwl ar gael yn haws i bobl ifanc. Mae’r astudiaeth yn pwysleisio hefyd bod angen i lunwyr polisïau ac ymchwilwyr ystyried y ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach a allai fod yn cyfrannu at yr heriau iechyd meddwl cynyddol y mae plant yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

"Mae'n hanfodol bod rhagor o ymchwil yn cael ei chynnal i edrych ar y rhesymau posibl dros yr heriau hyn fel ein bod yn gallu deall pa fath o gymorth, a’r lefelau ohono, sydd ei angen i atal tueddiadau negyddol pellach."
Jessica Armitage Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Mae'r papur, Nodweddion plant ag anhwylder seiciatrig ym 1999, 2004 a 2017: Dadansoddiad o arolygon iechyd meddwl plant cenedlaethol Lloegr wedi’i gyhoeddi yn JCPP ac ar gael i'w ddarllen ar-lein.

Rhannu’r stori hon