Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cyn-fyfyrwyr (tua)30 2024

18 Medi 2024

Mae aelodau o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau (tua)30 eleni.

Mae Gwobrau (tua)30 y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau cyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua)30 oed.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y Gwobrau yn agored i gyn-fyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua)30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 200 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno.

Cafodd cyn-fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac o ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gyn-fyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Ar ôl llawer o ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua)30 mewn categorïau gan gynnwys Entrepreneuriaeth, Arloesi, Effaith Gymdeithasol, Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau, ac Iechyd a Lles.

Gweld y rhestr lawn o enillwyr.

Bydd yr enillwyr yn casglu eu gwobrau mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Iau 10 Hydref a gynhelir yn Adeilad sbarc | spark. Bydd y noson yn cael ei gynnal gan Lywydd a'r Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner a'i chyflwyno gan y gohebydd a’r angor CNN, y cyn-fyfyriwr Max Foster (BSc 1994).

Ar y noson, bydd Gwobr yr Is-ganghellor newydd yn cael ei chyflwyno i un enillydd arbennig, a bydd Gwobr Dewis y Bobl yn cael ei chyhoeddi, ar ôl i enillwyr y gorffennol a'r presennol bleidleisio drostyn nhw.

Gan ehangu ar lwyddiant ein Gwobrau 30(ish) yn 2022 a 2023 rydyn ni wedi ein llethu gan ansawdd rhagorol yr enwebiadau eleni. Mae'n bleser dathlu a rhannu straeon am gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig Prifysgol Caerdydd o bob cwr o'r byd, sy'n gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau.Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a wnaeth enwebiad eleni ac rwy'n edrych ymlaen at ein noson wobrwyo. Mae'n ddigwyddiad gwych sy'n dod â chyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ynghyd. Rwy’n edrych ymlaen i weld hen ffrindiau yn aduno, a rhwydweithiau newydd yn cael eu ffurfio. Hanfod y gymuned gydol oes hon yw bod yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd.
Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr