A Very Vexing Murder
17 Medi 2024
Mae nofel gyntaf cyn-fyfyrwraig yn cynnig addasiad ditectif difyr o waith Austen yn y gyfres dditectif glyd hon.
Mae Lucy Andrew, a fu’n un o’n myfyrwyr ddwy waith, hefyd yn dathlu ddwy waith wrth gyhoeddi ei nofel dditectif glyd a chyffrous gyntaf o gyfnod y Rhaglywiaeth.
Yn ei nofel gyntaf, A Very Vexing Murder, mae hi'n ail-ddychmygu cymeriad Harriet Smith o nofel Jane Austen, Emma, yn droseddwraig fedrus sy’n troi'n dditectif.
Nid yw’r academydd ym maes llenyddiaeth Saesneg a drodd yn awdur yn ddieithr i ffuglen dditectif. A hithau’n arbenigo mewn sawl genre, boed yn ffuglen ar gyfer oedolion ifanc, ffuglen dditectif, nofelau graffig neu’n astudiaethau dilynwyr, mae hi'n cyfrannu’n rheolaidd at bodlediadau, radio a theledu, gan gynnwys Murder Maps ar gyfer podlediad Rippercast: The Jack the Ripper Podcast.
Ar ôl dod yn ail yng Ngwobr Ysgrifennu Trosedd A M Heath eleni, fe ddaliodd ei chreadigaeth chwareus ddychymyg y byd cyhoeddi.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, fe gyrhaeddodd A Very Vexing Murder rownd derfynol gwobr Pitch Perfect 2023 yng ngŵyl nofelau ditectif Bloody Scotland. Cafodd ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth Case Closed First Chapter Spread the Word ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer yng Ngwobr Awduron sydd heb eu Darganfod Michael Joseph gan gyhoeddwr Penguin (categori nofelau ditectif a nofelau cyffrous).
Dywedodd Lucy: “Rwy’n falch iawn o gael gweithio ar fy nofel gyda Sarah a Corvus. Fe wnaeth eu brwdfrydedd dros y prosiect a thros Jane Austen fy syfrdanu a byddan nhw’n gartref perffaith ar gyfer gwaith ditectif Harriet."
Ychwanegodd Sarah, cyfarwyddwr cyhoeddi Corvus, a oedd wrth ei bodd wrth arwyddo:
"Dydw i ddim wedi cael cymaint o hwyl gyda nofel ers tro! Tra bydd y rheiny sy’n hoff o waith Austen wrth eu boddau gyda phlethiad clyfar y plot â digwyddiadau’r nofel, Emma, mae Lucy wedi gwneud gwaith rhagorol wrth sicrhau bod A Very Vexing Murder yn argyhoeddi yn nofel dditectif ynddi’i hun. Rwy’n hapus iawn ei bod hi wedi dewis Corvus i fod yn gartref ar gyfer y straeon rhyfeddol o ffraeth hyn."
Mae'r awdur creadigol a’r academydd Dr Lucy Andrew (BA Athroniaeth a Chymdeithaseg 2007 a PhD Llenyddiaeth Saesneg 2017) yn addysgu ac yn ymchwilio i ffuglen dditectif, ffuglen plant ac oedolion ifanc, ac ysgrifennu creadigol. Yn ail lyfr y gyfres hon bydd yr arwres Harriet Smith yn datrys llofruddiaeth arall ym mydysawd Jane Austen.