Ewch i’r prif gynnwys

Deon a Phennaeth newydd Ysgol Busnes Caerdydd

17 Medi 2024

Professor Tim Edwards

Penodwyd yr Athro Tim Edwards yn Ddeon a Phennaeth newydd Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’r Athro Edwards wedi bod yn aelod o staff yn Ysgol Busnes Caerdydd ers 25 mlynedd, ac mae ganddo ddegawdau o ragoriaeth academaidd a phrofiad helaeth o arwain. Dechreuodd weithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn Gynorthwyydd Ymchwil ym 1999 ac mae ganddo PhD mewn Rheoli Arloesedd.

Dros y blynyddoedd, roedd ganddo sawl rôl allweddol , gan gynnwys Rhag-Ddeon Ymchwil, Effaith ac Arloesi, Pennaeth yr Adran Reoli, Cyflogaeth a Sefydliadau, a Chyd-Gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Trawsnewid Digidol. Mae’r Athro Edwards yn arbenigwr ym maes theori sefydliadol, ac mae wedi cyfrannu at gyfnodolion o safon fyd-eang ac mae'n angerddol am arloesi ac entrepreneuriaeth yn y gwyddorau cymdeithasol.

Beth sy'n bwysig i chi yn eich rôl fel Pennaeth Ysgol, a beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni?

Rwy’n credu bod Ysgol Busnes Caerdydd yn gwneud datblygiadau pwysig o ran meithrin amgylchedd mwy cynhwysol, gwrth-hiliol a theg ar gyfer gweithio ac astudio. Wedi dweud hynny, mae angen gwneud rhagor i wneud yn siŵr bod yr ysgol yn creu cyfleoedd a rennir i bawb. Rwyf am i’n cymuned barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud i hyn ddigwydd.

Beth sy'n eich cyffroi fwyaf am y rôl o’ch blaen?

Drwy adeiladu ar waith caled cydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol dros nifer o flynyddoedd, mae cyfle i symud o Ddau i Dri Achrediad yng Nghoron Driphlyg yr Achrediadau. Mae cael cydnabyddiaeth o’r fath yn bwysig oherwydd bydd yn dangos ymhellach pa mor gryf yw cenhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol, a’n rhagoriaeth o ran ymchwil, addysgu ac ymgysylltu.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ymrwymo i gyflwyno gwerth cyhoeddus drwy ein gwaith ymchwil, addysgu ac ymgysylltu. Beth mae gwerth cyhoeddus yn ei olygu i chi?

I mi, mae gwerth cyhoeddus yn cyfleu ymrwymiad i greu cymdeithas fwy cynhwysol a thecach sy'n defnyddio gwybodaeth ddisgyblaethol i egluro anghydraddoldebau cymdeithasol a dod o hyd i ffyrdd newydd o’u lliniaru. I’r perwyl hwn, hoffwn annog cydweithwyr i barhau i gymhwyso eu harbenigedd disgyblaethol sylweddol mewn modd a fydd yn ysgogi ffyrdd newydd o gynnal a chynorthwyo gwaith ymchwil, addysgu ac ymgysylltu. Er bod heriau ac elfennau dadleuol yn gysylltiedig â’r syniadau hyn, bydd ymrwymiad i werth cyhoeddus yn llywio’r ffordd yr ydym yn rhoi pwrpas i’n gwaith.

Yn gysylltiedig â gwerth cyhoeddus, rydych chi wedi chwarae rhan amlwg mewn gweithgareddau allgymorth academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Beth sy’n gyrru eich ymrwymiad i’r cynlluniau hyn, a pham maen nhw’n bwysig i chi?

Rwyf wedi bod yn hynod ffodus i weithio gydag academyddion, plant ac athrawon, mewn cymuned wledig dlawd yng Nghoedwig yr Iwerydd, Brasil - gan ddatblygu prosiect ers 2017 sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu hawliau fel dinasyddion. Ein nod yw creu'r adnoddau addysgol i alluogi'r myfyrwyr hyn i gael gwell dealltwriaeth o sut i ymateb i'r heriau amgylcheddol a ddaw yn sgîl y newid yn yr hinsawdd.

Mae fy modiwl allgymorth ar fenter gymunedol gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd yn ddull gwahanol o roi hawliau cynhwysiant i’r aelodau hyn o'n cymuned leol sy’n agored i niwed. Gan weithio gyda'n myfyrwyr ein hunain sy'n cyfeillio'r dysgwyr sy'n oedolion, y nod yw creu prosiectau sy'n mynd i'r afael â phroblemau cymunedol.

Yr oedolion hyn sydd â’r rôl ganolog wrth adeiladu eu rhwydwaith ac adnoddau dysgu yn seiliedig ar ymdrechion i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Mae’r ddau brosiect yn dangos y potensial i gyd-greu ymatebion gyda phobl leol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth bach i’r ffordd y maent yn gweld ac yn profi’r byd o’u cwmpas.

A oes gennych chi unrhyw negeseuon yr hoffech eu rhannu â chymuned Ysgol Busnes Caerdydd?

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod yn aelod o gymuned Ysgol Busnes Caerdydd ers 25 mlynedd. Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â'r rôl newydd hon a mynd ati i gyflwyno'r cynllun arloesedd a thwf. Rwy’n edrych ymlaen hefyd at ddysgu rhagor am waith cydweithwyr, sut maen nhw’n gweithio gydag ymchwilwyr eraill, ein myfyrwyr a phartneriaid ar faterion gwerth cyhoeddus. Yn olaf, er ein bod i gyd yn gwybod bod heriau o’n blaenau, rwy’n ffyddiog bod gan yr Ysgol gyfan y ddawn a’r gallu i liniaru’r rhain.

Rhannu’r stori hon