Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Rachel Ashworth yn myfyrio ar ei chyfnod yn Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd

16 Medi 2024

Professor Rachel Ashworth

Wrth i’r Athro Rachel Ashworth orffen ei chyfnod yn Ddeon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, byddwn ni’n myfyrio ar ei harweinyddiaeth ddylanwadol dros y chwe blynedd diwethaf yn y sesiwn holi ac ateb hwn.

Hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi’n Ddeon yr Ysgol, ac ers iddi ddechrau’r swydd yn 2018, mae’r Athro Ashworth wedi cryfhau ei hymrwymiad i werth cyhoeddus mewn ymchwil, addysgu ac ymgysylltu.

Fe wnaeth hi arwain yr Ysgol drwy heriau pandemig COVID-19 ac fe wnaeth hi arwain adolygiad clodwiw o’r rhaglen addysgu ôl-raddedig. Fe wnaeth yr Ysgol ennill dau achrediad mawreddog gan AACSB ac AMBA, yn ystod ei chyfnod yn Ddeon, gan gadarnhau enw da Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydliad sy'n arwain y byd.

Hoffai Ysgol Busnes Caerdydd ddiolch i’r Athro Ashworth am ein harwain ni dros y chwe blynedd diwethaf. Bydd yn rhoi’r gorau i’r swydd yng nghanol mis Medi 2024, pan fydd yr Athro Tim Edwards yn dechrau’r swydd.

Beth fu rhai o’r uchafbwyntiau neu gyflawniadau o bwys yn ystod eich amser wrth y llyw yn Ysgol Busnes Caerdydd?

Wel, mae wedi bod yn daith a hanner, rhaid dweud! Fe gefais fy mhenodi ar gyfer y rôl ar adeg heriol. Fel i lawer o sefydliadau, roedd llwyth gwaith a lles eisoes yn heriau enfawr, ac roeddem yn ceisio mynd i’r afael â’r rhain pan ddaeth yn amlwg bod COVID-19 am fod yn bryder o bwys i ni. Roedd yn gyfnod anodd dros ben i gydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd, ac roedd yn rhaid i ni fel Ysgol geisio ymateb yn gyflym, cadw mewn cysylltiad â phawb, a gwneud y penderfyniadau gorau posibl, heb allu rhagweld beth fyddai’n digwydd nesaf.

Roedd pwyslais amlwg ar werth cyhoeddus o hyd, ac fe wnaeth hyn ein helpu i wneud penderfyniadau ac ysgogi mentrau fel ein Diwrnodau Lles. Er gwaethaf y pandemig, fe lwyddon ni i ymgorffori gwerth cyhoeddus, cyflwyno ein haddysg, lansio rhaglenni newydd, ennill yr ail achrediad yng nghoron driphlyg yr achrediadau, yn ogystal â chadw ein statws amgylchedd ymchwil 4* yn REF2021. Fe ddangoswyd cymaint o amynedd a dealltwriaeth i mi drwy gydol y cyfnod hwn, ac rwy’n ddiolchgar i bawb am hynny.  Fe wnaeth yr Ysgol gyfan ymdrech arbennig, ac rwy’n credu ein bod yn teimlo effaith hynny o hyd i ryw raddau.

O ran cyflawniadau, dyma'r hyn y mae academyddion a chydweithwyr gwasanaethau proffesiynol ar draws yr Ysgol yn llwyddo i’w wneud yn rhan o’u gwaith bob dydd. Fe gefais y fraint o fod yn y fan a’r lle i weld ansawdd ein hymdrech ar y cyd, ac ar ba raddfa, ac mae'n syfrdanol. Ac mae’n eithriadol ein bod yn gallu gwneud y cyfan mewn modd sy’n cynnal ein cyfeillgarwch a’n colegoldeb. Y peth gorau am fod yn Ddeon yw gallu cael dealltwriaeth ddyfnach o waith pawb, a’i ganmol i’r cymylau.

Drwy gydol eich cyfnod y buoch yn Ddeon a Phennaeth Ysgol, fe wnaethoch chi amlygu pwysigrwydd gwerth cyhoeddus yn ein hymchwil, ein dulliau addysgu, ac wrth ymgysylltu â'r gymuned. Allech chi ddweud rhagor am yr hyn y mae gwerth cyhoeddus yn ei olygu i chi a sut ydych chi wedi gallu helpu'r Ysgol i ddatblygu ei diben o ran gwerth cyhoeddus?

Mae gwerth cyhoeddus yn seiliedig ar greu gwerth er budd pawb. Mae angen i ni wneud cyfraniadau deallusol a chyflawni deilliannau addysgol, ond y prawf o ran gwerth cyhoeddus yw effaith hyn ar gymunedau, ac i ba raddau y mae’n bwysig neu'n berthnasol iddynt. Gall y cymunedau hyn fod yn agos neu ar ochr arall y byd, heb lais neu’n bwerus, ond os nad ydym yn effeithio arnyn nhw mewn rhyw ffordd, nid ydym yn rhoi gwerth cyhoeddus.

Yn fy mis cyntaf yn rôl y Deon, fe wnes i gwrdd â Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, ac fe siaradodd â mi am fwlch o 13 mlynedd mewn disgwyliad oes rhwng gogledd a de Caerdydd. Dylai'r ffaith fod eich bywyd yn fyrrach am eich bod yn byw filltir i gyfeiriad arall yn ein dinas beri syndod a thristwch bob amser. Mae gan addysg a chyflogaeth rôl allweddol er mwyn mynd i'r afael â hyn. Rwyf wedi gallu gwneud cyfraniad bach o ran y Cyflog Byw ac yn y sector gofal cymdeithasol ond ar draws yr Ysgol, mae cydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol yn cydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol, gwaith teilwng, lles, llywodraethu da, cynhyrchiant, a chynaliadwyedd, a hir oes i hynny!

Beth ydych chi'n meddwl fydd eich gwaddol fel y fenyw gyntaf i fod yn Ddeon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd?

Pan wnes i gais am swydd y Deon, nes i ddim meddwl y byddwn yn cael fy mhenodi gan nad oeddwn i erioed wedi gweld menyw yn y rôl, felly mae'r ymadrodd 'os na allwch ei weld, ni allwch ei wneud' yn bendant yn berthnasol. Felly, rwy’n deall yn llwyr pa mor bwysig yw modelau rôl ac roeddwn yn falch o allu dangos y gallai menyw gael ei phenodi’n Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd. Pan ddechreuais i, fi oedd yr unig fenyw oedd yn Bennaeth Ysgol yng Nghaerdydd ac yn aml dim ond dynion oedd o fy nghwmpas mewn cyfarfodydd. Erbyn hyn mae deg menyw yn Benaethiaid yma, felly mae pethau’n gwella’n araf, ac wrth gwrs, mae gennym Wendy Larner, y fenyw gyntaf i fod yn Is-ganghellor ar y brifysgol. Er, fel y dywedodd hi, fe gymerodd hi 140 o flynyddoedd cyn i hynny ddigwydd.

Mae cydraddoldeb yn brosiect di-ben-draw. Rydym yn hynod benderfynol ac uchelgeisiol, ond mae newid yn broses araf. Mae’r ffaith fod gennym Bwyllgor Cydraddoldeb Hiliol yn rhywbeth positif, ond mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud yn hynny o beth. Felly hefyd o ran rhywedd, fel y mae’r data diweddaraf am drais yn erbyn menywod a merched wedi’i ddangos. Rydym wedi gwneud rhai newidiadau yn yr ysgol busnes mewn perthynas â phobl, ond yn aml y cyfan y gallwn ni ei wneud yw dylanwadu ar ran o broses pan, mewn gwirionedd, mae angen edrych ar y system gyfan a’i gweddnewid. Felly, hoffwn i sefydliadau, gan gynnwys ein sefydliad ni, fod yn fwy dewr ac yn fwy beiddgar o ran materion cydraddoldeb.

Wrth i’ch cyfnod wrth y llyw ddirwyn i ben, beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol? A oes heriau neu brosiectau newydd yr ydych yn edrych ymlaen atyn nhw?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld Tim yn cymryd swydd y Deon ac at ei wylio ef, aelodau ein tîm rheoli newydd, a chydweithwyr ar draws yr Ysgol, yn parhau i symud yr Ysgol ymlaen dros y cyfnod nesaf. Mi fydda i’n cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallaf.

Rwy’n dechrau cyfnod o absenoldeb ymchwil ym mis Hydref, sy’n mynd i fod yn gyffrous iawn ar ôl arwain mewn gwahanol rolau ers sawl blwyddyn. Rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan fwy sylweddol mewn partneriaethau ymchwil parhaus a datblygu rhai astudiaethau newydd dros y flwyddyn nesaf.

Mi fydda i hefyd yn chwarae rhan fach yn helpu i ddatblygu strategaeth newydd y Brifysgol dros y misoedd nesaf. Yn benodol, mi fydda i’n helpu i ddatblygu ein huchelgais 'Dinesig Fyd-eang' newydd a sut allai edrych. Mi fydda i’n rhannu llawer o'n meddylfryd o ran gwerth cyhoeddus a'r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu yn rhan o'r gwaith hwn.

Pe byddai’n rhaid i chi ddisgrifio Ysgol Busnes Caerdydd mewn tri gair, beth fydden nhw?

Cynnes, cryf a phwrpasol.

A oes gennych chi unrhyw negeseuon yr hoffech eu rhannu â chymuned Ysgol Busnes Caerdydd?

Yr unig neges sydd gen i yw un i ddiolch o waelod calon i’m cydweithwyr, ein myfyrwyr a’n holl bartneriaid am yr holl gefnogaeth yr wyf wedi'i chael dros y chwe blynedd diwethaf.  Braint oedd bod yn Ddeon Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus, ac anrhydedd oedd cynrychioli cymuned mor wych o gydweithwyr a myfyrwyr ysbrydoledig.

Rhannu’r stori hon