Absenoldeb Rhiant a Rennir wedi methu yn achos tadau
12 Medi 2024
Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon, mae Absenoldeb Rhiant a Rennir wedi methu ag annog mwy o dadau i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.
Nod Absenoldeb Rhiant a Rennir, a gafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill 2015, oedd galluogi rhieni i rannu’r baich o ran gofalu am eu plant, gan roi mwy o rôl i dadau gartref ac annog mamau i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt.
Er hynny, mae ymchwil newydd gan economegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon yn dangos nad yw’r polisi wedi cyflawni’r nod hwnnw.
Yn ystod yr astudiaeth, lle defnyddiwyd data o 40,000 o aelwydydd ledled y DU, cymharodd yr economegwyr deuluoedd â phlant a anwyd cyn ac ar ôl i Absenoldeb Rhiant a Rennir gael ei gyflwyno. Daeth i’r amlwg nad oedd nifer y tadau sy’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith wedi cynyddu ac nad yw’r amser sy’n cael ei gymryd i ffwrdd o’r gwaith yn hirach.
Mae academyddion wedi cyhoeddi briff polisi sy’n cynnwys tri argymhelliad allweddol a allai gwella Absenoldeb Rhiant a Rennir. Yr argymhellion yw:
- Gwella'r telerau ariannol: O ran Absenoldeb Mamolaeth, mae’r DU ymhlith y gwaethaf o’i chymharu â llawer o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ac mae tâl Absenoldeb Rhiant a Rennir hyd yn oed yn llai.
- Symleiddio'r system a rhoi cymorth cyfreithiol: Mae'r system bresennol yn rhy gymhleth ac yn anodd ei llywio.
- Llacio’r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys: Mae’r rheolau o ran pa mor hir y mae’n rhaid i rieni fod wedi gweithio i’r un cyflogwr, a faint maen nhw’n ei ennill, yn llym ac yn ei gwneud hi’n anodd i rai rhieni fod yn gymwys.
Mae tri o blant gan Leo Montague, cynghorydd Llafur o Milton Keynes, a’i wraig, Flo. Wrth ystyried ei brofiad, dywedodd Leo: “Byddwn i wedi hoffi cael mwy na phythefnos i ffwrdd o’r gwaith i’w dreulio gyda fy mhlant, ond y gwir amdani yw nad oedden ni’n gallu fforddio i mi wneud hynny. Gan mai fi sy’n ennill y mwyaf yn y teulu, byddai cael tâl statudol yn unig ar ôl pythefnos wedi golygu cael trafferth talu’r morgais. Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir ond yn gweithio os yw cyflogwyr y ddau riant yn cynnig cyflog hael, ac nid felly y mae hi yn achos y rhan fwyaf o deuluoedd.
“Dydy’r polisi ddim yn addas at y diben. Mae angen cyfraith absenoldeb tadolaeth arnon ni sy’n gwarantu o leiaf dri mis o gyflog llawn er mwyn rhoi cyfle go iawn i dadau fod yno ar gyfer eu teuluoedd.”
Ychwanegodd yr Athro Melanie Jones o Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae ein tystiolaeth yn glir. Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir wedi bod yn gwbl aneffeithiol o ran annog tadau i gymryd mwy o amser i ffwrdd o’r gwaith adeg genedigaeth eu plant.”
Dywedodd Dr Joanna Clifton-Sprigg o Brifysgol Caerfaddon: “Mae ein gwaith yn dangos nad yw’r polisi hwn, er ei fod yn un deniadol o ran cysyniad, wedi newid penderfyniad aelwyd gyffredin o ran pwy yw prif ofalwr y plentyn yn ei flwyddyn gyntaf o fywyd. Dyma ganfyddiad pwysig, yn enwedig mewn cymdeithas sy’n ceisio lleihau anghydraddoldebau rhywedd yn y gwaith a lle mae rhieni fwy a mwy am chwarae rhan weithredol ym mywyd eu plant o’r cychwyn cyntaf.”
Ychwanegodd yr Athro Eleonora Fichera o Brifysgol Caerfaddon: “Er bod cyflwyno Absenoldeb Rhiant a Rennir yn rhywbeth i’w groesawu, mae ein hastudiaeth yn awgrymu nad yw pethau mor syml â hynny. Dydy’r polisi fel y mae ddim yn newid rolau gofalu mewn aelwyd gyffredin yn y DU.”
Yn ôl Dr Jeremy Davies, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Sefydliad y Tadau, sef elusen yn y DU sy’n ceisio gwella’r cymorth sydd ar gael i dadau, mae’r ymchwil yn agoriad llygad i’r llywodraeth: “Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir wedi methu’n llwyr. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos yn glir, os ydyn ni am i dadau wneud cyfran fwy o’r gofalu, bod angen i ni roi eu habsenoldeb eu hunain iddyn nhw, lle mae’r tâl ar gyfradd sy’n golygu y gallan nhw fforddio cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.”