Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu Annibyniaeth India

12 Medi 2024

Hanesydd yn cyfrannu at ddigwyddiad cenedlaethol wrth gofio adeg allweddol yn hanes y byd

Mae Darllenydd y Brifysgol ym maes Hanes India Fodern Dr Padma Anagol wedi chwarae rhan allweddol mewn digwyddiad cymunedol arbennig yn y brifddinas i nodi 77 mlynedd o annibyniaeth i India.

Caiff Diwrnod Annibyniaeth India ei ddathlu’n flynyddol ar 15 Awst, sy’n nodi pan ddaeth darpariaethau Deddf Annibyniaeth India - hynny yw, trosglwyddo sofraniaeth ddeddfwriaethol o lywodraeth Prydain i Gynulliad Cyfansoddol India - i rym ym 1947.

Daeth India yn annibynnol ar ôl y mudiad annibyniaeth a nodwyd am wrthwynebiad ac anufudd-dod sifil di-drais a arweiniwyd gan Gyngres Genedlaethol India dan arweiniad Mahatma Gandhi.

Gwelodd annibyniaeth hefyd India yn rhannu yn genhedloedd gwahanol sef India a Phacistan yng nghanol terfysgoedd treisgar a chleifion lu.

Anerchodd Dr Padma Anagol y digwyddiad cymunedol a gafodd ei drefnu gan gangen Caerdydd Canolfan Treftadaeth India gyda'i darlith  Making the Nation: Gandhi and Indian people's Participation in the Freedom Struggle.

Yn y ddarlith, heriodd Dr Anagol gred imperialaidd gyffredin ymysg gwladweinwyr Prydeinig nad oedd India erioed yn genedl ac na allai fod yn un, trwy ddadansoddi cryfderau mudiad cenedlaetholgar India dan arweiniad Gandhi a oedd yn hynod garismatig. Myfyriodd hi  ynghylch perthnasedd cryf a chadarn Gandhi heddiw fel neges i fyd sy'n llawn stŵr trwy ei bwyslais ar sut mae dulliau o wrthwynebu heddychlon yn fwy effeithiol na thrais.

Hwn oedd y digwyddiad cyntaf o'i fath yng Nghymru ac roedd yn cynnwys arddangosfa o baentiadau a sylwebaeth ar Straeon y mae paentiadau'n eu dweud: Portreadau o Fenywod India Cyn ac Ar Ôl Annibyniaeth gan yr artist cyfoes Prith .B a pherfformiad o ganeuon gwladgarol Indiaidd rhyfeddol gan Dr Girish.

Hefyd yn cymryd rhan oedd Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Treftadaeth India, Mrs Tripti Megeri a Ms Shivani Kothegal, gyda Dr Girish Kothegal   yn cydnabod cyfraniadau'r holl wirfoddolwyr, y rheiny a ddaeth yno a'r trefnwyr ac fe ddiolchodd iddyn nhw.

Ynghyd ag aelodau o gymuned Asiaidd Cymru o broffesiynau amrywiol oedd cynrychiolwyr o’r gwasanaethau Prydeinig gan gynnwys yr Is-gomander Suzanne   Lynch o'r Llynges Frenhinol ac un o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Paulina Karcocha o Heddlu De Cymru.

Mae’r arbenigwr ym maes hanes India, Dr Padma Anagol yn awdur i nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys Emergence of Feminism in India, 1850-1920, the co-edited critical collection, Rethinking Gender and Justice in South Asia, 1772-2013 a’i gwaith diweddaraf Mapping Women’s History: Recovery, Resistance and Activism in Colonial and Postcolonial India.

Nod Canolfan Treftadaeth India a lansiodd ei gangen yng Nghaerdydd y llynedd, nod yw hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol a chynhwysiant drwy feithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol ar lawr gwlad yn ogystal â chefnogi cynllun gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon