Ewch i’r prif gynnwys

Sut y gall WhatsApp helpu o ran canfod canser y prostad a’i ddiagnosio

12 Medi 2024

Ffôn yn dangos WhatsApp

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r ffordd y gall y defnydd o WhatsApp ymgysylltu â dynion du yn Butetown a Grangetown drwy roi wybodaeth iddyn nhw am y risg o ganser y prostad yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth o ganser y prostad.

Mewn ymchwil newydd a ariennir gan Ymchwil Canser y DU bydd prosiect ar y cyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i effeithiolrwydd defnyddio WhatsApp yn offeryn rhoi gwybodaeth am y risg o ganser ymhlith dynion yn y gymuned ddu.

Dyma a ddywedodd Dr Sarah Fry o Ysgol Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd: "Mae gan ddynion du risg uchel o ganser y prostad ac mae risg o 1 o bob 4 o ddatblygu'r clefyd ac ar hyn o bryd mae cyfraddau diagnosis isel ymhlith y gymuned honno.

"Rydyn ni eisiau datblygu ffordd gynaliadwy o gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y prostad yn y cymunedau hyn gan fod hyn yn hollbwysig er mwyn ei ganfod a’i ddiagnosio’n gynnar."

Mewn partneriaeth â dau gyd-ymchwilydd lleyg yn y cymunedau Affricanaidd-Garibïaidd a Somalïaidd yng Nghaerdydd, bydd ymchwilwyr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Ysgol Meddygaeth ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd yn cynnal astudiaeth beilot i brofi a all defnyddio grwpiau WhatsApp dan arweiniad cyfoedion wella ymwybyddiaeth o’r clefyd ymhlith dynion du ac o bosibl gynyddu diagnosis cynnar ohono.

"Penderfynon ni ddefnyddio platfform WhatsApp yn y prosiect hwn gan fod fy ngwaith blaenorol, gyda cymorth Arweinwyr Ymchwil Canser Prifysgol Caerdydd, yn awgrymu y byddai'n well gan ddynion yn y gymuned ddu gael gwybodaeth am iechyd gan ffrindiau mewn grwpiau WhatsApp. Yn fy ngwaith, rwy wedi canfod bod gan gymunedau Affricanaidd ac Affricanaidd-Garibïaidd ddiwylliant gwirioneddol o ddysgu oddi wrth ei gilydd." ychwanegodd Dr Fry.

Drwy ddefnyddio Whatsapp, gallwn ni ddeall y graddau y mae WhatsApp, dan arweiniad cyfoedion i roi gwybodaeth am y risg o ganser y prostad, yn cael ei ddefnyddio a’i dderbyn.
Dr Sarah Fry Uwch Ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Butetown Mile Runners
Runners of all ages and abilities participated in this year's Butetown Mile, raising over £800 for charity

Mae'r ymchwil hon wedi datblygu o waith parhaus Dr Sarah Fry gyda chymunedau yn Nhrebiwt a Grangetown.

Cafodd Dr Sarah Fry ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd pan oedd yn 27 oed, a hyn oedd wedi'i hysbrydoli i ddechrau gyrfa mewn ymchwil canser ac ymdrechu i sicrhau bod cymunedau heb wasanaeth digonol yn teimlo eu bod yn gallu cael yr un gwasanaethau gofal iechyd ag y cafodd hi. Yn sgil ei gwaith, ail-lansiodd Sarah Filltir Butetown yn 2013 i helpu’r broses o ymgysylltu â'r gymuned o ran ymchwil ar ganser a chynyddu ymwybyddiaeth o’r risgiau o ganser y prostad a’r symptomau.

Dyma a ddywedodd Dr Fry: "Yn fy rôl flaenorol yn nyrs ymchwil yng Nghanolfan Ganser Felindre, sylwais i nad oeddwn i’n gweld dynion Affricanaidd neu Affricanaidd-Garibïaidd yn fy nghlinig, sef grŵp sydd â risg uchel o ddatblygu canser y prostad.

Mae’n rhaid inni, academyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gysylltu â chymunedau a deall sut y gall gofal iechyd eu cefnogi, a hynny i allu rhoi'r dulliau gorau o atal a thrin canser sydd wedi'u teilwra iddyn nhw.
Dr Sarah Fry Uwch Ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Yn y prosiect peilot hwn, bydd y tîm yn creu grŵp WhatsApp sy'n benodol i’r ymchwil dan arweiniad dau aelod lleyg yn y grŵp a fydd yn gwahodd 50 o'u cyfoedion i gymryd rhan. Bydd yr ymchwilwyr yn asesu’r graddau y mae WhatsApp yn cael ei ddefnyddio a’i dderbyn, yn ogystal â gweld faint o ddynion a wahoddir i'r grŵp WhatsApp sy'n mynd ymlaen i wirio eu risg o ganser y prostad drwy ddefnyddio gwiriwr risg prostad Prostate Cancer UK.

Yn y dyfodol, bydd yr ymchwil hon yn llywio datblygiad model sy'n amlinellu strategaethau effeithiol i ddefnyddio WhatsApp yn offeryn rhoi gwybod am y risg o ganser, creu strategaeth gyfathrebu gadarn i wella’r ffordd y mae’r cyhoedd yn cael ei gynnwys yn ogystal â meithrin prosiectau academaidd ar y cyd.

Bydd yr ymchwil yn cael ei harwain gan Dr Sarah Fry o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Bydd y tîm ymchwil yn cynnwys Dr Nicholas Courtier o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Dr Harriet Quinn-Scoggins o'r Ysgol Meddygaeth a Dr Shancang Li a Dr Georgios Theodorakopoulos o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.