Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Gymunedol Myfyrwyr newydd Aberconwy i gyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd

11 Medi 2024

Room with pink sofa seating area with work booths behind

Mae Canolfan Gymunedol Myfyrwyr Aberconwy sydd newydd ei lansio yn fan bywiog a gynlluniwyd i wella'r profiad astudio a phrofiad cymdeithasol myfyrwyr.

Mae'r datblygiad hwn yn dod â chyfleusterau newydd ac arloesol i adeilad Aberconwy yn Ysgol Busnes Caerdydd, gan ddangos ymrwymiad y brifysgol i feithrin cymuned fyfyrwyr ffyniannus yng ngogledd campws Cathays.

Wedi'i greu mewn ymateb i adborth myfyrwyr, mae'r ganolfan yn cynnig amgylchedd sy'n diwallu anghenion myfyrwyr ymchwil israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal ag addysg weithredol a dysgwyr Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd staff hefyd yn elwa o'r cyfleusterau addysgu modern sydd ar gael yn y ganolfan.

Pedwar parth, un gymuned

Mae'r ganolfan wedi'i rannu'n bedwar parth:

  • Canolfan Entrepreneuriaeth Aberconwy: Amgylchedd anffurfiol a chreadigol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â gweithgareddau entrepreneuriaeth yn rhan o'u hastudiaethau neu drwy ddigwyddiadau allgyrsiol ac ysgolion haf.
  • Ystafell Addysgu Weithredol Rithwir: Ystafell ddosbarth rithwir o'r radd flaenaf sy'n defnyddio technoleg X20 OneRoom sy'n galluogi dulliau newydd, creadigol o ddysgu ac addysgu ar-lein.
  • Parth Astudio Myfyrwyr: Mannau astudio unigol ac anffurfiol i fyfyrwyr y gellir eu cadw ymlaen llaw ac ardal benodol i ddod o hyd i staff llyfrgell a chymorth.
  • Stiwdio Ymchwil Ddoethurol: Parth astudio myfyrwyr doethuriaeth modern a phwrpasol sy'n dod â 120 o fyfyrwyr doethuriaeth yr Ysgol Busnes at ei gilydd mewn un man.

Mae Canolfan Entrepreneuriaeth Aberconwy a'r Parth Astudio Myfyrwyr ar agor i bob myfyriwr, tra bod y Stiwdio Ymchwil Ddoethurol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd yn unig.

Mae'r Ystafell Addysgu Weithredol Rithwir wedi cael cyfleusterau addysgu digidol o'r radd flaenaf. Y nod yw gallu cynnig cyfle i fyfyrwyr ôl-brofiad, gweithredol a chyn-fyfyrwyr o bob cwr o'r byd gymryd rhan mewn dysgu gydol oes ar-lein o ansawdd uchel gyda'r ysgol fusnes.

Lleoedd ymlacio a chymdeithasol

Y tu hwnt i'r pedwar parth, mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys Y Cwrt, Gardd Aberconwy, a Choffi’r Cwrt. Bydd y mannau dan do ac awyr agored croesawgar hyn yn rhoi rhywle i fyfyrwyr ymlacio, cymdeithasu a chael seibiant rhwng darlithoedd.

Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon cyn ymadael a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd:

“Ar ôl pum mlynedd o gynllunio ac aflonyddwch anochel yn ystod y pandemig, mae'n hyfryd gweld cyfleuster Canolfan Gymunedol Myfyrwyr Aberconwy yn agor i fyfyrwyr israddedig, ôl-raddedig, gweithredol a doethuriaeth. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r tîm cyflawni, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dathlu Rhagoriaeth ar gyfer Arloesedd a Menter oherwydd y ffordd ddychmygus, sy’n canolbwyntio ar y dyfodol a chynaliadwy maen nhw wedi dylunio a pharatoi’r man newydd gwych yma. Rwy'n gobeithio bod ein myfyrwyr yn ei fwynhau!”

Dywedodd yr Athro Tim Edwards, sy'n olynu’r Athro Ashworth fel Deon newydd a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd:

“Mae Canolfan Gymunedol Myfyrwyr Aberconwy yn dangos ein hymrwymiad i wella profiad dysgu ein myfyrwyr ar bob lefel o ddarpariaeth addysg. Bydd yr adnoddau pwrpasol yn creu cyfleoedd dysgu newydd a fydd yn darparu cyd-destun cyfforddus i weithio, cydweithio a chymdeithasu. Rwy'n arbennig o falch am y ffordd y mae'r parthau hyn wedi'u cynllunio i annog adeiladu cymuned myfyrwyr newydd o amgylch entrepreneuriaeth wrth wella'r gofod gweithio i fyfyrwyr doethurol, a all hefyd ddod â'n myfyrwyr yn agosach at staff llyfrgell a chymorth yn yr Ysgol Busnes.”

Rhannu’r stori hon