Cyrsiau datblygiad proffesiynol sero net
7 Hydref 2024
Sut mae mynd ati i uwchsgilio, ailsgilio, a dysgu sgiliau newydd er mwyn paratoi at drosglwyddo i Sero Net?
Dyma gyfle i glywed gan academyddion Prifysgol Caerdydd a fydd yn rhannu eu hymchwil i’ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod ym meysydd ynni, tai, trafnidiaeth, cynllunio a pholisi.
Mae’r rhaglen beilot hon yn eich galluogi i astudio modiwlau sydd eisoes yn cael eu haddysgu mewn rhaglenni sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y Brifysgol. Fe fyddwch chi’n astudio ochr yn ochr â myfyrwyr amser llawn, gan ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol gwerthfawr mewn maes penodol.
Cynigir y cyrsiau hyn am bris gostyngol, gan y bydd angen eich dealltwriaeth a'ch adborth arnon ni i asesu'r galw a mireinio ein darpariaeth dysgu parhaus yn y maes hollbwysig hwn.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â Dr Phil Swan o'r Uned DPP am sgwrs anffurfiol am y cwrs a'ch cyflogaeth/profiad. Mae’n bosibl y bydd Phil hefyd yn eich rhoi mewn cysylltiad â'r academydd fydd yn addysgu'r cwrs.
Bydd angen i chi roi manylion am eich cefndir academaidd, profiad proffesiynol ac unrhyw ddogfennaeth gofynnol, fel trawsysgrifiadau neu CV.
Wedi i’ch cais ddod i law, byddwn yn rhannu dolen archebu i chi, er mwyn i chi brynu’ch cwrs dewisol.
Os ydych chi’n gweithio i sefydliad fyddai â diddordeb mewn cael fersiwn bwrpasol o un o’r cyrsiau byr Sero Net, cysylltwch â ni i drafod sut gallwn gydweithio i greu rhaglen bwrpasol i’ch cwmni.
Y Manteision
Rydyn ni wedi cynllunio'r cyrsiau Sero Net hyn i helpu gweithwyr proffesiynol i uwchsgilio, ail-sgilio a dysgu sgiliau newydd mewn ystod o feysydd pwnc sero net.
Gallwch astudio'n hyblyg a dewis meysydd pwnc penodol sy'n addas i'ch gofynion datblygiad proffesiynol. Mae hyn yn golygu, yn hytrach na chofrestru ar gyfer rhaglen radd lawn yn y Brifysgol, y gallwch chi gael mynediad at wybodaeth lefel meistr mewn meysydd wedi'u targedu sydd fwyaf perthnasol i'ch gyrfa neu ofynion dysgu eich sefydliad.
- Gallwch chi gael mynediad at ddatblygiadau proffesiynol hyblyg a fforddiadwy yn un o brifysgolion y Grŵp Russell blaenllaw
- Gall unigolion ddatblygu eu gwybodaeth a hyrwyddo eu gyrfa tra'n cydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd
- Gall sefydliadau ddatblygu eu gweithlu gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ac arloesol mewn meysydd arfer cynaliadwy
- Datblygu cysylltiadau gyda'n harbenigwyr pwnc a'r Brifysgol ehangach.
Cyrsiau
Ynni
Astudiaethau Ynni
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn dysgu am fuddion a chymhlethdodau systemau ynni (adnewyddadwy a chonfensiynol) mewn ffyrdd sy’n grymuso defnydd posibl y cysyniadau hyn ar raddfa ddiwydiannol, academaidd neu’r llywodraeth. Bydd y cwrs hefyd yn addas i staff technegol profiadol, myfyrwyr BEng a Meistr sy’n gweithio yn y maes ynni ar hyn o bryd ac sydd â diddordeb mewn rheoli ynni ac Ymchwil a Datblygu.
Crynodeb y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno’r cysyniadau sy’n rhan o gynhyrchu a defnyddio ynni, gan ddisgrifio’r egwyddorion gwyddonol sy’n rhan o ystod eang o systemau ynni ymarferol, gan alluogi cyflawni gwerthusiadau system syml a dadansoddi. Byddwn yn cyflwyno adnoddau i ddyfeisio a dylunio platfformau ynni - yn enwedig er mwyn datblygu ymwybyddiaeth o’r problemau cyffredinol ynghlwm wrth allyriadau a llygredd, a sut i fynd i’r afael â’r problemau hyn yn gynaliadwy. Bydd y cwrs hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o bolisi ac economeg ynni.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- dylunio systemau ynni gan ddefnyddio cyfreithiau gwyddonol sylfaenol
- gwerthuso egwyddorion peirianneg sylfaenol i ddatrys problemau sy’n cynnwys systemau ymarferol
- gwerthuso effeithiolrwydd y teclynnau sydd ar gael ar gyfer cysyniadu a dylunio’r systemau hyn
- diffinio a thrafod y problemau llygredd ac allyriadau sylfaenol sy’n codi o systemau ynni
- gwerthuso’n feirniadol bolisïau ac economeg ynni mewn perthynas â datgarboneiddio
Dull cyflwyno
Cyflwynir y cwrs drwy addysgu wyneb yn wyneb a deunydd dysgu, astudio dan arweiniad, a dosbarthiadau bach ar y campws (tiwtorialau, sesiynau adborth).
Y sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu
- asesu'r mecanwaith sy'n gysylltiedig â systemau ynni adnewyddadwy a hylosgi
- dylunio ystod o systemau ynni ymarferol gan ddefnyddio egwyddorion peirianneg hanfodol
- fformiwleiddio’r perthnasau rhwng systemau ynni penodol ac allyriadau/llygryddion
- gweithredu’r egwyddorion a’r mecanweithiau a ddefnyddir i ddadansoddi ac i werthuso systemau ynni
- cymhwyso technegau dadansoddi beirniadol i systemau cymhleth
- cysyniadu systemau newydd gan ddefnyddio teclynnau newydd ar gyfer datblygu cymwysiadau ar sail ynni
Gwybodaeth arall
Semester yr Hydref
Pris £470
Modelu Systemau, Monitro Cyflwr a Rhagweld
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio i weithgynhyrchwyr offer gwreiddiol (e.e. Ørsted, Vestas), datblygwyr ynni adnewyddadwy (SSE, EDF, Scottish Power Renewables, Equinor), darparwyr gweithrediadau a chynnal a chadw/rheoli asedau (RES Group, DNV GL), ac yn ehangach, y rhai sy’n gweithio yn y sector ynni alltraeth neu sy’n gweithio ar ddadansoddi data gweithredol, gweithrediadau a chynnal a chadw neu gyfrifoldeb am reoli asedau yn eu swydd bresennol.
Crynodeb y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â monitro cyflwr asedau peirianneg, gan ganolbwyntio ar gymwysiadau fel systemau ynni. Trwy astudiaethau achos a theori, fe fyddwch yn archwilio monitro cyflwr, diagnosis o broblemau, asesu perfformiad, modelu systemau a rhagweld - elfennau craidd ar wella systemau peirianneg modern. Byddwch hefyd yn dysgu am brosesu signal, caffael data a dulliau modelu amrywiol gyda’r nod o wella gweithrediadau systemau.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- nodi cydrannau hanfodol mewn system peirianneg ac awgrymu dyluniadau system monitro cyflwr
- dadansoddi mesuriadau/signalau o gyflwr
- system fonitro i asesu dirywiad system
- prosesu signalau i echdynnu data a lleihau anghenion storio ar gyfer monitro’r system
- arfarnu anghenion storio data ac adolygu cyflwr
- monitro gweithrediadau astudiaethau achos
- categoreiddio ac asesu modelu systemau a dulliau rhagweld amrywiol ar gyfer rhaglenni gwahanol
- cysylltu allbynnau modelu â chyflwr y system a rhagweld amser methiant cydrannau
- cynnig gweithrediadau system monitro cyflwr, gan gynnwys offeryniaeth, mesuriadau, caffael data, a phrosesu signalau
Dull cyflwyno
Yflwynir y cwrs drwy gyfuniad o ddeunydd dysgu ar-lein, astudio dan arweiniad, a dosbarthiadau bach ar y campws (tiwtorialau, sesiynau adborth)
Y sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu
- dehongli gwybodaeth o ystod o synwyryddion a thechnegau
- rhoi dulliau arfarnu perfformiad a dosbarthu ar waith
- deall technegau prosesu signalau a dadansoddi data
Gwybodaeth arall
Semester yr Hydref
Pris £470
Systemau Ynni Amgen
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Gweithwyr proffesiynol a gweision sifil sy'n gweithio ym maes sero net a datgarboneiddio.
Crynodeb y cwrs
Bydd y cwrs hwn yn gwneud i chi werthfawrogi sawl gwahanol fath o ffynonellau ynni y mae eu hallbynnau’n addas ar gyfer eu trosi i ynni trydanol a thermol. Byddwch yn ymgyfarwyddo ag agweddau technegol, economaidd a pholisi perthnasol y sector trydan ac yn datblygu dull integredig ar gyfer gwerthuso systemau ynni amgen.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- llunio, dehongli a chrynhoi canfyddiadau cyhoeddiadau diweddar ym maes systemau ynni carbon isel
- asesu gofynion systemau ynni yn y dyfodol a sut y gellir eu bodloni
- datblygu datrysiadau i broblemau yn y sector systemau ynni carbon isel
- asesu'n feirniadol y ffactorau allyriadau CO2 a chostau cynhyrchu pŵer o wahanol dechnolegau
Dull cyflwyno
Cyflwynir y cwrs drwy addysgu wyneb yn wyneb a deunydd dysgu, astudio dan arweiniad, a dosbarthiadau bach ar y campws (tiwtorialau, sesiynau adborth)
Y sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu
- dadansoddi system bŵer Prydain gan ystyried cenedlaethau gwahanol i gyflawni targedau allyriadau CO2
- datrys problemau gan ddefnyddio dull systemau integredig, amlddisgyblaethol
- gweithio’n effeithiol mewn amgylchedd grŵp bach
- nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar y cyfuniad cynhyrchu o dan system ynni drydanol wedi’i datgarboneiddio
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £470
Buildings
Adeiladau Carbon Isel
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu fel penseiri a pheirianwyr, ac yn ehangach y rhai sy'n gweithio yn y sector adeiladu neu sy’n gyfrifol am ddylunio, ynni neu ddatgarboneiddio o fewn eu rôl.
Crynodeb y cwrs
Mae dyluniadau carbon isel yn gofyn am ddull gweithredu cyfannol ar gyfer defnydd ynni adeilad. Mae angen i'r dylunydd ddeall mewn egwyddor sut mae adeiladau'n defnyddio ynni ac ategu'r ddealltwriaeth hon â thystiolaeth o ddefnydd ynni o'r maes. Bydd angen iddo allu gweithio gyda nodau ar gyfer dylunio adeiladau, megis safonau di-garbon, a ffyrdd o wrthbwyso’r defnydd o ynni gyda thechnolegau adnewyddadwy.
Felly, amcanion y cwrs yw cyflwyno’r canlynol
- ffyrdd y mae adeiladau yn defnyddio ynni
- dulliau o ateb gofynion ynni adeiladau trwy ynni adnewyddadwy a systemau ynni isel
- technegau ar gyfer asesu ôl troed carbon a pherfformiad yr adeilad gan ddefnyddio meincnodi
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- esbonio sut mae adeiladau’n defnyddio ynni, gofynion a llwythi adeiladau ac effaith deiliadaeth ar y defnydd o ynni
- esbonio'r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy a thechnolegau oeri ynni isel o fewn adeiladau, gan ddangos gwybodaeth sylfaenol o'r cysyniad o ynni wedi'i ymgorffori
- dangos dealltwriaeth o ddulliau asesu ar gyfer dyluniad cynaliadwy
- gwerthuso pa mor dda mae adeilad yn cyflawni dyluniad carbon isel
- asesu effaith yr adeiladau amrywiol
- opsiynau gwasanaethau ar broblem dylunio adeilad
Dull cyflwyno
Bydd y prif bwnc yn cael ei esbonio mewn darlithoedd drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol. Bydd yr addysgu’n rhyngweithiol ac yn cynnwys arddangosiadau lle bo’n berthnasol. Bydd darlithoedd hefyd yn cynnwys enghreifftiau go iawn i ddangos sut mae'r theori sy’n cael ei hastudio’n rhan o’r cwrs wedi'i rhoi ar waith yn ymarferol. Byddwch yn cael y cyfle i gael profiad o ddefnyddio dulliau o fodelu meddalwedd a gyflwynir yn y cwrs.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £470
Gellir ei astudio wyneb yn wyneb (yng Nghaerdydd) neu fel cwrs dysgu o bell.
Cyd-destun Dylunio Adeiladau Amgylcheddol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer penseiri, peirianwyr, penseiri tirwedd, dylunwyr trefol a chynllunwyr.
Crynodeb y cwrs
Dyluniad amgylcheddol fel sy’n cael ei roi ar waith yn yr amgylchedd adeiledig, sy’n cynnwys y canlynol:
- Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM)
- strategaethau a systemau dylunio amgylcheddol drwy gydol y cylch bywyd adeiladu cyfan (cysyniad, dylunio, adeiladu, gweithredu)
- dylunio adeiladau ynni isel a charbon isel (adeilad newydd, adnewyddu)
- ynni wedi'i ymgorffori a'i gyfrifo
- perfformiad thermol adeiladau
- rhannu arferion dylunio cynaliadwy sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig a chynorthwyo wrth eu cymhwyso yn y diwydiant drwy DPP
Felly, amcanion y cwrs yw cyflwyno’r canlynol
- ffyrdd y mae adeiladau yn defnyddio ynni
- dulliau o ateb gofynion ynni adeiladau trwy ynni adnewyddadwy a systemau ynni isel
- technegau ar gyfer asesu ôl troed carbon a pherfformiad yr adeilad gan ddefnyddio meincnodi
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- esbonio sut mae adeiladau’n defnyddio ynni, gofynion a llwythi adeiladau ac effaith deiliadaeth ar y defnydd o ynni
- esbonio'r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy a thechnolegau oeri ynni isel o fewn adeiladau, gan ddangos gwybodaeth sylfaenol o'r cysyniad o ynni wedi'i ymgorffori
- dangos dealltwriaeth o ddulliau asesu ar gyfer dyluniad cynaliadwy
- gwerthuso pa mor dda mae adeilad yn cyflawni dyluniad carbon isel
- asesu effaith yr adeiladau amrywiol
- opsiynau gwasanaethau ar broblem dylunio adeilad
Dull cyflwyno
Bydd y prif bwnc yn cael ei esbonio mewn darlithoedd drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol. Bydd yr addysgu’n rhyngweithiol ac yn cynnwys arddangosiadau lle bo’n berthnasol. Bydd darlithoedd hefyd yn cynnwys enghreifftiau go iawn i ddangos sut mae'r theori sy’n cael ei hastudio’n rhan o’r cwrs wedi'i rhoi ar waith yn ymarferol. Byddwch yn cael y cyfle i gael profiad o ddefnyddio dulliau o fodelu meddalwedd a gyflwynir yn y cwrs.
Gwybodaeth arall
Semester yr Hydref
Pris £680
Gellir ei astudio wyneb yn wyneb (yng Nghaerdydd) neu fel cwrs dysgu o bell.
Ymchwilio i’r Amgylchedd Adeiledig
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes tai cymdeithasol (e.e. cynghorau, landlordiaid cymdeithasol, Cymdeithasau Tai), contractwyr adeiladu (e.e. penseiri, cydlynwyr ôl-ffitio, peirianwyr gwasanaethau adeiladu, syrfewyr). Mae hefyd yn addas yn ehangach i’r rhai sy'n gweithio yn y sector adeiladu ac ynni sy'n ymwneud ag adeiladau newydd neu ôl-ffitiadau ar bob cam (e.e. cynllunio, dylunio, caffael, adeiladu a chynnal a chadw/gweithredu).
Crynodeb y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno'r dulliau a'r technegau y gall dylunwyr, perchnogion a gweithredwyr adeiladau eu defnyddio i bennu p’un a yw eu hadeiladau'n perfformio yn ôl y disgwyl. Ei nod yw cyflwyno mesur, a gwerthuso ôl-feddiannaeth.
Mae angen i adeiladau berfformio yn ôl y disgwyl er mwyn datblygu'r amgylchedd adeiledig yn gynaliadwy. Mae profiad wedi dangos i ni y bydd adeiladau sy'n anghyfforddus, yn cael eu gweithredu'n wael, neu wedi'u cynnal a'u cadw'n wael, yn defnyddio llawer mwy o adnoddau nag y cawsant eu cynllunio ar eu cyfer.
Mae'r cwrs yn seiliedig ar y gred bod gwerthuso, adborth a beirniadaeth yn elfennau hanfodol i gynnydd dylunio. Dim ond pan fydd yr asesiad hwn yn cael ei gwblhau gan ddefnyddio dulliau credadwy a phriodol y gellir gwneud cynnydd.
Nod y cwrs yw atgyfnerthu'r neges hon a’ch cyflwyno i nifer o ddulliau a thechnegau ymchwilio a dadansoddol, gan gynnwys efelychu, mesur ac arolygu.
Byddwn yn ystyried safbwyntiau ffisegol a dynol yr amgylchedd adeiledig ac yn defnyddio dulliau sy'n briodol i ymchwiliadau academaidd a rhai sy'n seiliedig ar ymarfer.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- nodi ffactorau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at berfformiad cynaliadwy adeiladau sy'n cael eu defnyddio
- nodi technegau monitro ac ymchwil priodol i werthuso perfformiad adeiladu a datblygu sydd ar waith
- esbonio sut y gellir monitro ac ymchwilio i helpu i wella perfformiad adeiladu.
- gwerthuso perfformiad adeilad neu stoc adeilad a chymharu yn erbyn meincnodau, targedau dylunio neu efelychu
Dull cyflwyno
Gellir dewis astudio’r cwrs ar ffurf wyneb yn wyneb neu o bell. Ry’n ni wedi datblygu adnoddau dysgu o bell drwy Matterport, fel y gallwch archwilio adeiladau o unrhyw le.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £470
Gellir ei astudio wyneb yn wyneb (yng Nghaerdydd) neu fel cwrs dysgu o bell.
Planning and policy
Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes peirianneg sifil a mecanyddol, sy’n awyddus i gael trosolwg diwydiannol o reoli gwastraff. Mae'n addas ar gyfer y rhai sydd heb fawr o gefndir cyfredol neu wybodaeth mewn gwastraff.
Crynodeb y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn eich cyflwyno i faterion rheoli a thrin gwastraff solet gyda phwyslais ar egwyddorion gwaredu gwastraff trefol drwy safleoedd tirlenwi, ac asesu a datrys problemau ynghylch tir halogedig
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- disgrifio natur a gwaredu tirlenwi MSW yng nghyd-destun opsiynau rheoli gwastraff eraill yn Ewrop
- dangos dealltwriaeth o nodweddion gwastraff mewn perthynas â'r prosesau a ddefnyddir ar gyfer gwaredu
Dull cyflwyno
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a darllen dan gyfarwyddyd. Bydd angen dod i’r safle am ddwy awr yn ystod bob wythnos o addysgu bloc.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £470
Polisi a Rheoleiddio Amgylcheddol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes peirianneg sifil, fel peirianwyr a rheolwyr prosiect, sydd fel arfer yn gweithio ar y safle ac sydd angen lefel dda o wybodaeth ymarferol ym maes rheoli gwastraff a rheoleiddio gwastraff y DU/UE. Er ei fod yn addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio i gwmnïau peirianneg o bob maint, byddai'r cwrs yn arbennig o fuddiol i'r rhai sy'n gweithio i gontractwyr bach a chanolig.
Crynodeb y cwrs
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i bolisi amgylcheddol, a’r egwyddorion a’r mathau o offerynnau polisi a ddefnyddir ar wahanol raddfeydd, gan ddarparu enghreifftiau o astudiaethau lleol i rai rhyngwladol.
Mae’r cwrs hefyd yn adolygu agweddau ar reoleiddio amgylcheddol a datgarboneiddio yn yr UE a’r DU fel y mae’n berthnasol i ddatblygu prosiectau dilys y bydd peirianwyr yn eu hwynebu yn eu gyrfaoedd.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- gwerthuso’r mathau o egwyddorion ac offerynnau polisi a ddefnyddir ym maes polisi amgylcheddol a gwerthuso opsiynau polisi amgylcheddol ar gyfer cymdeithas wedi’i datgarboneiddio
- gwerthuso gofynion System Reoli Amgylcheddol (EMS), a beirniadu dogfennau EMS allweddol
- gwerthuso effaith deddfwriaeth allweddol yr UE a’r DU, gan gynnwys prosiect datblygu sy’n ymwneud ag ystod o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd, gan gynnwys ansawdd dŵr, llygredd dŵr, halogiad tir, llwch, allyriadau, sŵn, niwsans ac arogleuon, rheoli gwastraff, defnydd o adnoddau a chadwraeth
Dull cyflwyno
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a darllen dan gyfarwyddyd. Bydd angen dod i’r safle am ddwy awr yn ystod bob wythnos o addysgu bloc.
Gwybodaeth arall
Semester yr Hydref
Pris £470
Rheoli Amgylcheddol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Cynulleidfa ddelfrydol y cwrs hwn fyddai unigolion o’r sector cyhoeddus a phreifat sydd eisiau dwysáu eu dealltwriaeth o heriau a chyfleoedd amgylcheddol cyfoes, gofynion rheoliadol ac arferion yng nghyd-destun cyd-gysylltiedig datblygiadau technolegol, perfformiad busnesau a llunio polisïau.
Crynodeb y cwrs
Bydd y cwrs hwn yn archwilio’n feirniadol y materion a'r syniadau allweddol sy'n gyffredin ym maes rheoli amgylcheddol ar hyn o bryd, megis y rhyngweithio rhwng ffurfiau rheoleiddio gwirfoddol a chyhoeddus.
Bydd yn rhoi’r syniadau hyn yng nghyd-destun gyrwyr newid mewn diwydiant, newidiadau technolegol ac ymatebion gan y gymuned fusnes drwy fentrau i hyrwyddo rheoli amgylcheddol mwy integredig.
Mae'r cwrs yn cyflwyno dadleuon ar: y potensial a'r cyfyngiadau i sefydliadau ddod yn fwy amgylcheddol ymwybodol yn eu gweithgareddau; yr economi werdd a rhannu, y rhyngweithio rhwng perfformiad amgylcheddol neu gynaliadwyedd ehangach sefydliadau a'u perfformiad economaidd; a'r cyfyngiadau sy'n wynebu sefydliadau masnachol, cyhoeddus a chymunedol, rheoleiddwyr a llunwyr polisi amgylcheddol yn eu hymdrechion i wella cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- nodi damcaniaethau gwyddorau cymdeithasol allweddol o reoli a newid amgylcheddol
- nodi gyrwyr ar gyfer rheoli amgylcheddol
- deall natur rheoliadau amgylcheddol a sut y maent yn ymwneud ag arferion sefydliadol
- deall y ffordd amrywiol y gall prosesau wella'r amgylchedd
- bod yn gysylltiedig â chwmnïau ac arddulliau rheoleiddio
- deall ymatebion unigolion a sefydliadau i ofynion deddfwriaeth amgylcheddol
- mabwysiadu safbwynt busnes o ran manteision economaidd ac amgylcheddol rheoli amgylcheddol
Dull cyflwyno
Cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a darllen cyfeiriedig. Yn ystod seminarau, efallai y bydd gofyn i chi arwain neu gyfrannu at ddadleuon/trafodaethau.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £680
Cynllunio ar gyfer Cynaliadwyedd
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus (cynghorau), y sector preifat (busnesau, maes adeiladu a datblygu) a’r trydydd sector (elusennau, mentrau cymdeithasol ac ati). Yn gyffredinol, mae’n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sut mae egwyddorion cynaliadwyedd yn cael eu hymarfer wrth gynllunio, gwneud penderfyniadau a gweithredu.
Crynodeb y cwrs
Sut allwn ni ddefnyddio'r system gynllunio i hyrwyddo datblygu cynaliadwy? Dyna'r cwestiwn y mae'r cwrs hwn yn ceisio ei ateb. Byddwch yn cael eich cyflwyno i nodweddion allweddol systemau cynllunio defnydd tir a chynllunio gofodol, gyda phwyslais arbennig ar y DU, ond mae'r cwrs hefyd yn archwilio i brofiadau rhyngwladol perthnasol.
O’r safbwynt hwn, byddwch yn archwilio i ba raddau y gallwn ddisgwyl i gynllunio helpu i arwain cymdeithas tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Thema allweddol i’r cwrs yw’r berthynas gymhleth rhwng gwybodaeth a gwneud penderfyniadau, a dadleuon ynghylch y gred y gallwch ddod i benderfyniadau ‘mwy cynaliadwy’ gyda ‘gwybodaeth well’.
Yn groes i hyn mae syniadau am bwysigrwydd ymgysylltiad cyhoeddus a’r cyd-destun gwleidyddol o ran llywio sut mae cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd yn cael ei roi ar waith yn ymarferol. Bydd ail hanner y cwrs yn crybwyll y themâu hyn ymhellach ac yn cyflwyno dau adnodd allweddol ar gyfer cymhwyso gwybodaeth amgylcheddol wrth wneud penderfyniadau: Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA). Byddwch yn dysgu am y gweithdrefnau hyn wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o’r graddau y mae’r adnoddau hyn yn gallu helpu wrth greu dulliau datblygu mwy cynaliadwy.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- cymryd rhan mewn dadleuon damcaniaethol, ymarferol a moesegol sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a chynllunio
- gwerthuso strategaethau a pholisïau cynllunio, o ran eu cyfraniad at ddatblygu cynaliadwy
- arddangos sgiliau mewn dadansoddi a gwerthuso polisïau, gan roi sylw arbennig i ddarllen testunau yn feirniadol
- gwerthfawrogi'r ffyrdd y dylanwadir ar gynllunio gan syniadau cymdeithasol ehangach am yr amgylchedd, natur, yr economi a'r maes cyhoeddus
- esbonio'r gwahanol ddamcaniaethau y credir bod gwybodaeth yn dylanwadu ar benderfyniadau, a nodi tystiolaeth o ymarfer cynllunio i asesu'r damcaniaethau hyn
- deall y ffyrdd y mae AEAau a’r AASau yn cael eu cyflawni, eu dehongli a'u gwerthuso
Dull cyflwyno
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a grwpiau trafod yn y dosbarth. Bydd disgwyl i chi gymryd rhan ym mhob sesiwn, naill ai’n unigol, neu mewn ymarferion gwaith grŵp ar ôl y dosbarth.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £680
Systemau Bwyd Cynaliadwy
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a llunwyr polisi cysylltiedig. Bydd ymarferwyr sy’n gweithio i newid systemau bwyd yn elwa o’r fframiau dadansoddi a’r safbwyntiau beirniadol.
Crynodeb y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn archwilio i’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer cyfiawnder a chynaliadwyedd amgylcheddol drwy edrych yn feirniadol ar berthnasoedd cyfansoddiadol, arferion, gwleidyddiaeth a syniadau systemau bwyd byd-eang.
Mae bwyd yn cynnig dull beirniadol a rennir o ddadansoddi cwestiynau allweddol ar wydnwch, dosraniad adnoddau a phennu niferoedd adnoddau, archwilio pwysau amgylcheddol a datblygiad.
Gan fanteisio ar safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol mewn systemau bwyd, o gynhyrchwyr i ddosbarthwyr, manwerthwyr, prynwyr, rheoleiddwyr ac ymgyrchwyr, mae’r cwrs yn archwilio cwmpas a chyfyngiadau cynnal systemau bwyd cynaliadwy a chyfiawn, yng nghyd-destun sawl argyfwng economaidd-gymdeithasol sy’n berthnasol i’w gilydd. Yn ogystal â deall cymhlethdodau systemau bwyd, mae'r rhain yn cynnig mewnwelediadau i heriau mwy cyffredinol wrth geisio llunio dyfodol cynaliadwy.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- dangos gwybodaeth fanwl am sut a pham mae systemau cymdeithasol-ecolegol cymhleth yn berthnasol o ran cynhyrchu bwyd, ei fwyta a gwastraff
- dangos dealltwriaeth feirniadol o’r rheswm y mae tarddiad bwyd, dulliau cynhyrchu a phatrymau bwyta ar flaen y gad mewn dadleuon ar ddatblygiad cynaliadwy
- gwerthfawrogi rôl gwahanol randdeiliaid wrth drawsnewid systemau bwyd, ac ystyried yn feirniadol effaith llwybrau a chamau amrywiol sy'n gweithio ar gynaliadwyedd bwyd
- arfarnu effaith bosibl newidiadau mewn systemau bwyd cyfoes ar ddadleuon academaidd ac asesu rhagolygon systemau bwyd cynaliadwy yn ymarferol
Dull cyflwyno
- Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o:
- ddarlithoedd ar ffurf seminarau i gyflwyno'r materion canolog a'r dadleuon cyfredol perthnasol, tra'n rhoi cyfle i fyfyrwyr holi cwestiynau a cael trafodaeth agored
- siaradwyr gwadd, wedi eu gwahodd i rannu eu harbenigedd gan gynnwys mewnwelediadau o ymarfer a chymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol gyda'r myfyrwyr, gyda'r bwriad o wella eu dealltwriaeth o ddadleuon a arweinir gan bolisi/ymarfer ar systemau bwyd cynaliadwy
- 'gwaith prosiect grwp' gofynnol, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau datrys problemau a sgiliau cyflwyno
- ymweliadau astudiaeth maes dibreswyl i ryngweithio â rhanddeiliaid a chael golwg ar weithgarwch y system fwyd lleol
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £680
Datblygu a Chynllunio Ynni Adnewyddadwy
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes polisi, cynllunio ac ymgynghori sy’n ceisio gwella eu gwybodaeth am fanteision ynni adnewyddadwy, heriau a phrofiadau. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector adeiladu ac ynni sy’n ymwneud â chynllunio, dylunio, caffael, adeiladu, a chynnal a chadw/gweithredu ar gyfer adeiladau newydd neu ôl-ffitiadau.
Crynodeb y cwrs
Her fawr yn y cyfnod cyfoes yw cyflawni newid tuag at systemau mwy cynaliadwy wrth ddarparu ynni. Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn elfen allweddol o bontio i systemau o’r fath, ond mae ehangu cwmpas ynni adnewyddadwy yn codi materion pwysig o ran y berthynas rhwng cymdeithas, ynni, llywodraeth a thirlun. Mae hyn yn gosod cynllunio mewn safle canolog, a rôl y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth uwch o’r rolau y gall cynllunio eu cyflawni.
Ar ôl cyflwyno technolegau, tueddiadau a phatrymau allweddol yn natblygiad ynni adnewyddadwy - a drefnir yn ôl damcaniaethau ‘llwybrau pontio’ - mae’r cwrs yn cynnwys y canlynol:
- amlinelliad a dadansoddiad o rôl gonfensiynol cynllunio wrth wneud penderfyniadau ynghylch ynni adnewyddadwy
- rôl creu parthau
- strategaethau a chyfundrefnau gwneud penderfyniadau ar seilwaith newydd
- rôl cynllunio a chamau gweithredu eraill (megis meithrin perchnogaeth gymunedol dros ynni adnewyddadwy) wrth feithrin cefnogaeth gymdeithasol ehangach
- syniadau cynllunio ynni mwy radical, megis ceisio sicrhau rhanbarthau ynni adnewyddadwy 100%
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- deall y ffactorau amrywiol sy’n llywio dyfodiad ac ehangiad technolegau ynni adnewyddadwy amrywiol, gan gynnwys faint o adnoddau sydd ar gael a strwythurau’r farchnad
- arfarnu effeithiolrwydd strategaethau cynllunio allweddol ar gyfer hyrwyddo ynni adnewyddadwy (creu parthau, canoli, a strategaethau o'r gwaelod i fyny fel mapio cyfleoedd)
- datblygu dealltwriaeth graff am y berthynas rhwng cymdeithas ac ynni, fel sydd wedi dod i’r amlwg ac wedi’i lunio gan gynllunio, gan gynnwys cyfyngiadau cysyniadau ‘NIMBY’, a ffyrdd o ennyn mwy o ymgysylltiad gan gymdeithas
- arfarnu rhinweddau llwybrau ynni adnewyddadwy amrywiol, megis rhai ar seilweithiau canolog ar raddfa fawr a systemau nad ydynt yn rhai canolog
Dull cyflwyno
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a darllen dan gyfarwyddyd. Mewn rhai darlithoedd, cynhelir ymarferion gwaith grŵp bach lle byddwch yn adrodd yn ôl i'r dosbarth i gyd.
Gwybodaeth arall
Semester yr Hydref
Pris £680
Polisïau Trafnidiaeth Gynaliadwy
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol ym maes cynllunio, arweinwyr cynaliadwyedd ym maes llywodraeth leol ac unrhyw un sy’n ymwneud â dylunio a datblygu cynlluniau trafnidiaeth leol. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer cynllunwyr sydd am gael dealltwriaeth gynhwysfawr o heriau trafnidiaeth a pholisi cyfredol, ac mae’n arbennig o werthfawr i gynllunwyr trafnidiaeth sydd am ehangu eu harbenigedd mewn cyfiawnder cymdeithasol, sut le mae rhywle i fyw ynddo a chynaliadwyedd. Byddai’r cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n gweithio i gynghorau lleol neu ymgyngoriaethau sy’n canolbwyntio ar symudedd, hygyrchedd, ac effeithiau amgylcheddol trafnidiaeth.
Crynodeb y cwrs
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
Mae’r cwrs hwn yn ystyried y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag ymateb i anghenion symudedd cymdeithas ochr yn ochr â lleihau’r effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar yr wyneb.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:
- deall effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gwahanol ddulliau o drafnidiaeth
- nodi a gwerthuso effeithiolrwydd gwahanol ddulliau, mecanweithiau a methodolegau i ddatrys problemau hygyrchedd
- edrych ar oblygiadau cymdeithasol, amgylcheddol a dosraniadol gwahanol atebion ymddygiadol, gofodol a thechnolegol ar gyfer cyflawni trafnidiaeth fwy cynaliadwy
- cyflwyno’r broses o arfarnu trafnidiaeth a datblygu cynlluniau
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- diffinio ac asesu’n feirniadol prif effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ystod o ddulliau trafnidiaeth a threfniadau gofodol o fewn materion ehangach twf a chronni economaidd
- nodi a gweithredu elfennau allweddol arfarnu prosiect trafnidiaeth mewn perthynas â chyflawni cynaliadwyedd, gallu byw a hygyrchedd
- asesu effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol a dosraniadol ystod o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy
- polisïau a dewisiadau modd
- archwilio’n feirniadol i effeithiolrwydd atebion cyfoes mewn ystod o gyd-destunau
Dull cyflwyno
Yn wythnos 3, bydd ymweliad safle ag ardal Cogan. Mae hyn yn rhan allweddol o’r cwrs, gan fod yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru sy’n cael ei drafod yn ystod y cwrs yn cael ei roi mewn cyd-destun gan ddefnyddio arsylwadau o’r ymweliad ag ardal Cogan.
Gwybodaeth arall
Semester yr Hydref
Pris £680
Sustainable business
Adeiladu Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Unrhyw fusnesau sy'n delio â chadwyni cyflenwi.
Crynodeb y cwrs
Bydd y cwrs hwn yn rhoi trosolwg i gyfranogwyr o sut mae Rheoli Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy yn berthnasol i gyd-destunau ehangach wrth ddylunio modelau busnes. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r berthynas rhwng SSCM a themâu perthnasol, megis dyfodol a senarios cynaliadwy; dylunio prosiectau ac arloesedd; defnydd a chynhyrchu cynaliadwy o’r cwsmer i’r sefyllfa wedi diwedd oes y cynnyrch; a systemau gwasanaethau cynnyrch.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- dangos dealltwriaeth ddamcaniaethol o sut mae SSCM yn cyd-fynd â phensaernïaeth a strategaeth gyffredinol sefydliad
- dangos ymwybyddiaeth feirniadol o gyfraniad SSCM at greu a darparu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy
- dangos dealltwriaeth o effaith cadwyni cyflenwi ar gynaliadwyedd corfforaethol
- gwerthuso dyluniadau SSC yn feirniadol yng nghyd-destun perfformiad cynaliadwyedd corfforaethol
Dull cyflwyno
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, darlithoedd gan siaradwyr gwadd, trafodaethau a darllen dan gyfarwyddyd.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £590
Rheoli Prynu a Chyflenwi yn Gyfrifol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda chyflenwyr, is-gontractwyr a/neu fuddsoddwyr ar draws sectorau amrywiol neu sy’n gyfrifol am gydymffurfio, buddsoddi neu reoli o fewn eu rôl.
Crynodeb y cwrs
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar rôl strategol prynu a rheoli cyflenwad mewn sefydliad. Mae hi’n rôl bwysig sy’n ychwanegu gwerth. Bydd y cwrs yn rhoi cipolwg cynhwysfawr i chi ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r swyddogaeth brynu a gweithwyr proffesiynol prynu heddiw.
Rhoddir pwyslais arbennig ar y syniad o brynu cyfrifol. Mae gan brynu cyfrifol agweddau mewnol ac allanol amrywiol, gan gynnwys: cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cwmni, cynnwys defnyddwyr mewn penderfyniadau prynu, mesur perfformiad, rheoli costau, trin cyflenwyr yn deg, hybu cynaliadwyedd amgylcheddol a chynnal diwydrwydd dyladwy trwy gydol y gadwyn gyflenwi.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech chi allu gwneud y canlynol
- dangos gwybodaeth am gysyniadau, modelau a fframweithiau allweddol sy'n berthnasol i brynu cyfrifol a rheoli cyflenwad
- trafod y prif heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â phrynu cyfrifol
- asesu'n feirniadol sut y gall prynu cyfrifol gyfrannu at berfformiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sefydliadau
- dadansoddi strategaethau, polisïau ac arferion prynu o fewn sefydliadau
Dull cyflwyno
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a darllen dan gyfarwyddyd, gyda ffocws cryf ar gymhwyso theori yn ymarferol.
Gwybodaeth arall
Semester y Gwanwyn
Pris £590
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, i drafod manylion cwrs, ac i wneud cais, cysylltwch â Dr Phil Swan: