Ewch i’r prif gynnwys

Consortiwm byd-eang sy'n cynnwys ymchwilwyr y Brifysgol i geisio atal methiannau mewn triniaethau cyffuriau ar gyfer iechyd meddwl

10 Medi 2024

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymuno â sefydliadau ledled Ewrop yn rhan o brosiect i ddatblygu dulliau newydd o bersonoli triniaethau iechyd meddwl.

Menter ymchwil a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd yw Psych-STRATA, ac mae’n canolbwyntio ar ymwrthedd i driniaethau. Nid yw’r bobl sy'n dioddef afiechyd meddwl ac sy’n ymgyflwyno â’r cyflwr clinigol hwn yn ymateb i gyffuriau a ragnodir fel arfer ar gyfer eu symptomau.

Mae ymwrthedd i driniaeth yn effeithio ar draean o gleifion ag anhwylderau iechyd meddwl difrifol, ac mae'n adnabyddus mewn perthynas â sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac anhwylder pruddglwyfus difrifol.

Mae'r prosiect wedi'i rannu'n saith pecyn gwaith. Mae pob un o’r rhain yn mynd i'r afael â maes ymchwil gwahanol mewn perthynas ag ymwrthedd i driniaeth, ac mae'n cynnwys cynnal treial rheoledig ar hap o strategaethau triniaeth ddwys cynnar.

Mae un o nodau'r prosiect yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o'r sail fiolegol ar gyfer ymwrthedd i driniaeth ar draws diagnosis seiciatrig. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro James Walters a'r Athro Ian Jones, yn gobeithio datgelu ffyrdd newydd o wella sut y cyflwynir triniaethau iechyd meddwl drwy ddefnyddio gwybodaeth, fel data genetig, nad yw ar gael i glinigwyr ar hyn o bryd.

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan yn arwain pecyn gwaith un Psych-STRATA, sy'n ceisio asesu a oes modd defnyddio ffactorau genetig i nodi'r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu ymwrthedd i driniaeth mewn cysylltiad â sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, ac anhwylder pruddglwyfus difrifol.

Dyma sylwadau’r ymchwilydd Dr Antonio Pardiñas, sy’n gweithio ar becyn gwaith un:

“Mae'r gwaith trawsddiagnostig hwn yn canolbwyntio'n benodol ar pam nad yw cynifer o bobl, gan gynnwys dros hanner y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ymwrthedd i driniaeth mewn rhai astudiaethau, yn ymateb i driniaeth gonfensiynol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl difrifol.”

"Fel academyddion, ac i lawer o'm cydweithwyr sydd hefyd yn glinigwyr, rydym am wneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau prin sydd gennym. Am resymau ymarferol, mae dadansoddiadau yn aml yn cael eu cyfyngu i un diagnosis yn unig, neu ar sail rhagnodi meddyginiaeth benodol i bobl (ai peidio)."

Dr Antonio Pardiñas Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

“Fodd bynnag, nid yw hyn yn adlewyrchu profiad pobl o fewn systemau gofal iechyd meddwl, gan fod diagnosis a chyffuriau yn gallu newid sawl gwaith cyn i ymwrthedd i driniaeth ddod i'r amlwg yn glinigol.

“Mae Psych-STRATA wedi rhoi’r cyfle i ni gydweithio â sefydliadau eraill o'r radd flaenaf i ddefnyddio setiau data enfawr o bobl sydd â chofnodion clinigol o ansawdd uchel a data genomig.

“Nawr, gallwn dorri ffiniau diagnostig o leiaf, a chwilio am achosion o ymwrthedd i driniaeth ar draws cyflyrau iechyd meddwl a hynny, gyda lwc, ar lefel symptomau penodol ac ymgyflwyniadau clinigol”.

Dywedodd y Cydymaith Ymchwil Isabella Willcocks, sy’n gyfrifol am waith biowybodeg ar y prosiect:

“Nid ar chwarae bach y mae dod â'r holl wybodaeth yma ynghyd, ond mae'n gam hanfodol tuag at ateb cwestiynau pwysig ynghylch sut mae ffactorau genetig yn dylanwadu ar ymwrthedd i driniaeth a deilliannau eraill mewn salwch meddwl difrifol.”

Isabella Willcocks Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

“Drwy baratoi a chyfuno'r setiau data hyn yn ofalus, bydd yn bosibl nodi amrywiad genetig cyffredin sy'n gysylltiedig ag ymwrthedd i driniaeth, a hynny o fewn pob anhwylder yn benodol, ac ar draws y tri gyda’i gilydd.”

“Mae'r prosiectau hyn yn cynnig cyfle i ddod â samplau o wahanol faint nad ydym wedi’u gweld o’r blaen ynghyd i ateb y cwestiynau hyn. Mae hyn o ganlyniad i gydweithio rhwng ymchwilwyr ar raddfa fyd-eang, a dyma sy’n ei wneud yn brosiect gwirioneddol gyffrous i fod yn rhan ohono.”

Rhyddhaodd Psych-STRATA gyfres o gyfweliadau yn ddiweddar gydag aelodau rhyngwladol o bob un o becynnau gwaith y prosiect. Yn y cyfweliadau hyn, arddangosodd yr aelodau y gwaith cyffrous sy'n mynd rhagddo, ac fe gyflwynwyd y rhain yn Iseldireg, Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg, a Saesneg. 

Gwyliwch Dr Pardiñas yn trafod y gwaith yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig sy'n cyfrannu at obeithion Psych-STRATA o chwyldroi triniaeth iechyd meddwl.

https://www.youtube.com/watch?v=Nh2Ry5IgLfY

Rhannu’r stori hon