Ewch i’r prif gynnwys

Bacteria yn sbarduno diabetes math 1

18 Medi 2024

Doctor administring diabetes needle

Gallai heintiau bacteriol fod yn sbardun ar gyfer diabetes math-1, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Am y tro cyntaf, mae gwyddonwyr wedi darganfod y gall proteinau sy'n dod o facteria sbarduno'r system imiwnedd i ymosod ar gelloedd sy'n cynhyrchu inswlin, gan arwain at ddatblygu diabetes math-1.

Dangosodd yr ymchwil newydd y gall celloedd T sy'n lladd - math o gelloedd gwaed gwyn sy'n mynd i'r afael â heintiau bacteriol - achosi diabetes math-1 pan gânt eu hactifadu gan facteria. Dangosodd yr ymchwilwyr y gallai proteinau o rywogaethau bacteriol y gwyddys eu bod yn heintio bodau dynol gynhyrchu celloedd T sy'n lladd ac a allai ladd celloedd sy'n cynhyrchu inswlin.

Mae’r ymchwil, a arweinir gan yr Athro Andrew Sewell yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn ymhelaethu ar astudiaethau blaenorol a ddangosodd bod celloedd T sy'n lladd yn chwarae rhan fawr wrth ysgogi diabetes math-1 drwy ladd celloedd sy’n cynhyrchu inswlin.

Dywedodd yr Athro Sewell: “Mae diabetes math-1 yn glefyd hunanimiwn sydd fel arfer yn effeithio ar blant ac oedolion ifanc, lle mae system imiwnedd y claf ei hun yn ymosod ar y celloedd sy’n cynhyrchu inswlin. Mae hyn yn arwain at ddiffyg inswlin, sy'n golygu bod angen i bobl sy'n byw gyda diabetes math 1 chwistrellu inswlin sawl gwaith y dydd i reoli’r lefelau siwgr yn eu gwaed.

Ar hyn o bryd does dim iachâd i diabetes math 1 ac mae angen triniaeth gydol oes ar gleifion. Mae diabetes Math-1 hefyd yn gysylltiedig â disgwyliad oes is, felly mae gwir angen deall achosion sylfaenol y clefyd i’n helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell.
Yr Athro Andrew Sewell Professor

Mewn arbrofion labordy, cyflwynodd yr ymchwilwyr broteinau bacteriol i linellau celloedd gan roddwyr iach gan fonitro adwaith y celloedd T sy'n lladd o’r rhoddwyr hyn. Canfuwyd bod rhyngweithio cryf gyda'r proteinau bacteriol yn sbarduno'r celloedd T sy'n lladd i ymosod ar gelloedd sy'n gwneud inswlin.

Dywedodd arweinydd clinigol yr astudiaeth hon, Dr Lucy Jones: "Fe wnaethom arsylwi hyn mewn perthynas â HLA penodol - antigen leukocyte dynol - genyn sy'n codio ar gyfer proteinau sy'n helpu'r system imiwnedd i wahaniaethu rhwng ein celloedd ein hunain a chelloedd goresgynnol."

Mae'r HLA penodol sy'n gysylltiedig â'r haint bacteriol sy'n sbarduno diabetes ond yn bresennol mewn tua 3% o'r boblogaeth yn y DU. Felly mae'r pathogenau bacteriol sy'n gallu cynhyrchu celloedd-T gwrth-inswlin yn cael eu hachosi gan haint prin mewn lleiafrif bach o bobl."

Mae celloedd-T sytotocsig yn gallu targedu ac ymosod ar gelloedd yn y corff sy'n cynhyrchu protein penodol. Ar ôl dod ar draws bacteria heintus, canfuwyd y gallai celloedd T sytotocsig hefyd ladd, ar gam, gelloedd sy'n cynhyrchu'r protein inswlin. Gwelwyd celloedd-T wedi'u hactifadu gyda'r un 'traws-adweithedd' yng ngwaed cleifion â diabetes math 1, sy'n awgrymu y gallai'r hyn a welwyd mewn arbrofion labordy fod wedi sbarduno'r afiechyd.
Yr Athro Andrew Sewell Professor

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn The Journal of Clinical Investigation, yn cynnig y dystiolaeth gyntaf o sut y gall proteinau o germau bacteriol sbarduno'r math o gelloedd T sy'n lladd a welir mewn cleifion â diabetes math-1. Mae'r tîm yn gobeithio y bydd gwybod mwy am y broses yn caniatáu ffyrdd newydd o wneud diagnosis, rhwystro, neu hyd yn oed atal datblygiad diabetes math-1.

Drwy deall sut mae celloedd T yn sbarduno clefydau fel diabetes math-1 rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu gwneud diagnosis a thrin afiechyd cyn i’r symptomau ddechrau. Mae’n hysbys fod triniaeth gynnar yn arwain at well prognosis oherwydd bydd modd amddiffyn y celloedd beta pancreatig iach sydd dan ymosodiad cyn iddyn nhw gael eu dinistrio.
Garry Dolton Research Fellow

Meddai’r arweinydd clinigol ar gyfer yr astudiaeth hon, Dr Lucy Jones: “Diolch i’r cleifion a’r staff gofal iechyd sydd wedi cymryd rhan, mae’r ymchwil gadarn hon ar y cyd rhwng bwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd wedi gwella ein dealltwriaeth o ddiabetes.”

Cyhoeddir yr ymchwil, HLA A*24:02-restricted T-cell receptors cross recognise bacterial and 2 preproinsulin peptides in type 1 diabetes, yn The Journal of Clinical Investigation.

Ariannwyd yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Wellcome ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan ddefnyddio cyfleusterau gan Diamond Light Source.