Mae gwyddonwyr yn galw am gymorth i achub gwenyn Cymreig mewn perygl
9 Medi 2024

Mae gwyddonwyr wedi gofyn i’r cyhoedd i helpu i achub gwenyn Cymreig mewn perygl drwy gofrestru achosion o ble maen nhw’n eu gweld, gan helpu i ddiogelu peillwyr hynod werthfawr yng Nghymru.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn recriwtio cymorth y cyhoedd yng Nghymru i ddeall yn well y cynefinoedd sy’n cael eu colli a nifer y rhywogaethau gwenyn sydd mewn perygl yng Nghymru – gan ofyn i’r cyhoedd roi gwybod i’r ymchwilwyr mewn ap pan fyddan nhw’n gweld gwenynen yng Nghymru.
Gan ddefnyddio ap Spotabee, gall y gwyddonwyr greu map o rywogaethau gwenyn a phlanhigion ledled Cymru, a hynny ar ôl i aelodau’r cyhoedd gyflwyno lluniau o wenyn a phlanhigion yn eu hardal leol.
Datblygwyd yr ap gan dîm o ymchwilwyr sy’n gweithio ar brosiect Pharmabees sy’n ymchwilio i’r ffordd y gallwn ni ddefnyddio gwenyn, mêl a chwyr gwenyn mewn meddygaeth ac yn y frwydr yn erbyn archfygiau.
Dyma a ddywedodd yr Athro Les Baillie, Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweinydd prosiect Pharmabees: “Mae gwenyn gwyllt a chacwn yn dirywio’n fawr yng Nghymru ac mae nifer o rywogaethau o wenyn mewn perygl o gael eu colli am byth oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd. Mae colli gwenyn Cymreig yn gysylltiedig â cholli 97% o ddolydd blodau gwyllt Cymru ers 1930, y cynnydd yn y defnydd o blaladdwyr yn ogystal â newid hinsawdd.
“Mae gwenyn yn chwarae rhan bwysig yn ein hecosystemau drwy beillio planhigion a chnydau. Ond hefyd mae gwenyn yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hymchwil, gan ein helpu i chwilio am feddyginiaethau newydd i drin clefydau sy'n peryglu bywyd yn ogystal â mynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau ac archfygiau."
Mae’n rhaid inni sicrhau dyfodol gwenyn yng Nghymru. Rydyn ni’n gofyn am gymorth y cyhoedd yng Nghymru i wybod maint y broblem drwy ddod o hyd i’r planhigion a’r cynefinoedd sydd fwyaf deniadol i wenyn.

Mae ap Spotabee (ar gael ar iOS ac Android) yn mapio dosbarthiad gwenyn ledled Cymru ac yn cofnodi’r planhigion y mae gwenyn yn bwydo arnynt nhw.
Hyd yn hyn, mae mwy na 4000 o bobl wedi anfon lluniau o ble maen nhw wedi gweld gwenyn i’r ymchwilwyr, gan ganiatáu iddyn nhw ddefnyddio’r wybodaeth hon i fonitro effaith newid hinsawdd ar niferoedd ac amrywiaeth gwenyn. Bydd hyn yn helpu gwyddonwyr i gynllunio sut byddan nhw’n cefnogi cynefinoedd i wenyn Cymreig.
Pan fyddwch chi'n eistedd yn eich gardd neu'n mynd â'r ci am dro, a gwelwch chi wenynen yn swnian o gwmpas planhigyn, tynnwch lun a'i uwchlwytho i ap Spotabee. Drwy wneud hyn byddwch chi’n helpu i sicrhau dyfodol gwenyn yng Nghymru.