Dyfais microdon i fonitro diabetes
6 Mai 2016
Gallai dyfais anymwthiol sy'n monitro glwcos yn y gwaed wneud bywyd yn haws i filiynau o bobl sydd â diabetes ledled y byd
Mae tîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Peirianneg wedi datblygu dyfais monitro glwcos heb fod angen tynnu gwaed.
Yn hytrach na chymryd mesuriadau drwy bigo'r croen, mae'r ddyfais yn cael ei ludo ar y corff ac yn defnyddio microdonnau i fesur lefelau glwcos. Anfonir y data a fesurir i gyfrifiadur neu ap symudol.
Arweinir y tîm gan yr Athro Adrian Porch a Dr Heungjae Choi, ac maent yn credu y gallai'r ddyfais wneud bywyd yn haws i filiynau o bobl ledled y byd sydd â diabetes ac y gallai fod ar y farchnad ymhen pum mlynedd.
Mae'r prosiect wedi cael £1m gan Ymddiriedolaeth Wellcome hyd yma, ac mae eisoes wedi'i ddefnyddio mewn treialon clinigol gyda chleifion.
Wrth siarad â'r BBC, dywedodd yr Athro Porch y bydd y ddyfais yn helpu cleifion i reoli eu diabetes yn y pen draw.
"Fel arfer, mae angen tynnu gwaed er mwyn monitro glwcos yn y gwaed. Mae ein dyfais yn anymwthiol sy'n golygu nad oes angen tynnu gwaed ar ôl y broses calibro gychwynnol," meddai'r Athro Porch.
"Mae'n defnyddio microdonnau, ond mae'r lefelau'n isel iawn, iawn. Nid yw ddim byd tebyg i'r lefelau a ddefnyddir wrth goginio gartref. O'i chymharu â ffôn symudol, rydym tua mil gwaith yn is na'r lefel honno."
Mae 3.5 miliwn o bobl wedi cael diagnosis o ddiabetes yn y DU, ac amcangyfrifir bod gan 549,000 yn rhagor y clefyd, ond heb fod yn gwybod hynny.
Rhaid i'r 10% sydd â diabetes Math 1 fonitro lefel y glwcos yn y gwaed yn fwy rheolaidd - hyd at chwe gwaith y dydd, neu 20,000 gwaith dros ddegawd.