Consortiwm lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rownd derfynol ar gyfer gwobr fawreddog
13 Medi 2024
CSconnected wedi’i enwi yn rownd derfynol Gwobr fawreddog Bhattacharyya sy’n dathlu partneriaethau mwyaf dylanwadol rhwng y byd academaidd a diwydiant y DU.
Mae CSconnected, sy'n cynrychioli clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, ymhlith y pump sydd yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Bhattacharyya eleni. Mae’r wobr fawreddog hon, wedi’i chefnogi gan lywodraeth y DU, yn dathlu’r cyfraniadau sylweddol y mae partneriaethau hirdymor rhwng prifysgolion a diwydiant yn eu rhoi i faes arloesi a’r economi.
Mae CSconnected, sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru a’r cyffiniau, yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a phartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol IQE plc, KLA Corp, Microchip Technology, Vishay Intertechnology, a Microlink.
Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi tyfu i gefnogi dros 2,660 o swyddi â chynhyrchiant uchel a chyfrannu £381 miliwn o werth ychwanegol gros bob blwyddyn. Mae’r clwstwr hefyd wedi denu mwy na £82 miliwn mewn prosiectau ymchwil a datblygu diwydiannol a mwy na £500 miliwn o fuddsoddiad rhanbarthol mewn seilwaith, ymchwil a datblygu a chapasiti gweithgynhyrchu.
Dywedodd Wyn Meredith, Cadeirydd CSconnected: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Bhattacharyya yn dyst i lwyddiant y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru."
Mae'r clwstwr CSconnected wedi manteisio ar arbenigedd ei bartneriaid academaidd i ddatblygu ymchwil mewn meysydd megis ffotoneg, electroneg pŵer, a thechnolegau cwantwm. Mae’r datblygiadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys telathrebu, gofal iechyd, a moduro, gan gadarnhau De Cymru ymhellach yn ganolbwynt ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion arloesol.
Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter y Brifysgol: “Mae gwaith ar y cyd CSconnected rhwng Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe a’r diwydiant yn helpu i sbarduno adfywiad economaidd De Cymru."
Mae Gwobr Bhattacharyya, sydd wedi’i henwi er anrhydedd i’r Athro Arglwydd Kumar Bhattacharyya, yn dathlu manteision cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant, sy’n cynnwys nodi llwybr ar gyfer talent, datblygu ymchwil, a chreu effaith economaidd sylweddol.
Bydd enillydd Gwobr Bhattacharyya 2024 yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 26 Medi 2024 mewn seremoni arbennig yn yr Academi Beirianneg Frenhinol yn Llundain.
Darllenwch y cyhoeddiad llawn gan yr Academi Beirianneg Frenhinol yma.