Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Mymi’n Dychwelyd

5 Medi 2024

Ar ôl degawdau o gadwraeth ofalus ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd arch hynafol o'r Aifft sydd wedi teithio ar hyd Cymru yn cael ei harddangos yn gyhoeddus.

Daethpwyd ag arch y 26ain llinach, sy'n dyddio’n ôl i 650CC, i'r DU wedi iddi gael ei phrynu yn rhan o gasgliad cyn cael ei rhoi i Ganolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe gan Brifysgol Aberystwyth.

Gall Eifftolegwyr ddysgu am hanes y gwrthrychau hyn drwy astudio arddull eu haddurniadau a’u hieroglyffau.

Maen nhw wedi darganfod mai’r arch hon, sydd wedi’i haddurno’n gelfydd, oedd man gorffwys olaf nid un ond dau o bobl.

Fe'i gwnaed yn gyntaf ar gyfer Ankh-pa-khered, cyn cael ei hailddefnyddio ar gyfer Djedhor - yn arch ar gyfer dau ddyn. Ond nid dyna ddiwedd y stori.

Pan laniodd yr arch ym Mhrydain, cafodd ei harchwilio gan arbenigwyr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Cafodd yr arch ei phrynu yn rhan o Gasgliad Wellcome ac roedd bellach fymi benywaidd ynddi!

Cafodd yr arch ei chreu o bren, plastr a thecstilau, ac mae amodau sych yr Aifft yn golygu ei bod wedi goroesi am fwy na 2000 o flynyddoedd. Ond roedd yr arch mewn cyflwr gwael pan gyrhaeddodd ym Mhrydain i gael gwaith cadwraeth 25 mlynedd yn ôl.

Mae arbenigwyr cadwraeth wedi defnyddio’r arteffact hardd hwn i hyfforddi graddedigion cadwraeth dros y chwarter canrif diwethaf. Mae dros 50 o’r cyn-fyfyrwyr hynny o Brifysgol Caerdydd bellach yn gweithio mewn amgueddfeydd ac yn gweithio gyda chasgliadau ledled y byd.

Gwyliwch y fideo hwn sy’n cynnig eglurhad ohono

Meddai’r Darllenydd ym maes Cadwraeth, Phil Parkes:

“Ac yntau nawr yn dychwelyd i’r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe lle bydd y cyhoedd yn cael ei weld, rydyn ni’n falch o fod wedi cyfrannu at gadwraeth y darn enigmatig hwn sy'n dod â gwareiddiad hynafol yn fyw.”

Ar ôl bod ar sawl taith, bydd yr arch hynafol hon yn helpu i adrodd hanes yr hen Aifft yn oriel y Tŷ Marwolaeth yn y Ganolfan Eifftaidd.

Rhannu’r stori hon