Ewch i’r prif gynnwys

Rhannu profiadau a rhoi’r grym yn nwylo ein gilydd

5 Medi 2024

Two women wearing graduation gowns

Mae grŵp o ferched a oedd wedi cyfarfod drwy fenter ysgol haf Prifysgol Caerdydd yn dweud ei fod wedi agor drysau newydd i addysg uwch.

Mae’r ffrindiau wedi cwblhau Ysgol Haf Aspire, sydd â’r nod o ddangos i ffoaduriaid pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer eu datblygiad yn y Brifysgol.

Roedden nhw ymhlith 33 o bobl a gymerodd ran yn y seremoni ddathlu, yn dilyn wyth diwrnod o ddarlithoedd mewn meysydd yn ymdrin â gyrfaoedd mewn gofal iechyd, gwersi Saesneg, rheoli prosiectau, ymchwil cymdeithasol a chyngor ar sut i ddechrau eich busnes eich hun.

Bydd Onyinye Tete, a ddaeth i'r DU o Nigeria gyda'i thri o blant, nawr yn ymrestru ar Lwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol. Dywedodd hi: “Pan ddes i i Gymru doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. O ble ydw i'n dechrau? Ond ers y cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd, mae wedi bod fel pe bai popeth amdana i wedi dod yn fyw eto.

Mae’r darlithwyr yn fendigedig. Rwyf wedi dysgu mewn ffordd wahanol, ffordd hwyliog. Mae wedi bod yn ddylanwadol iawn, yn rhyngweithiol iawn. Rwyf nawr yn gwybod beth rwy'n anelu ato. Rwy’n gallu byw. Rwy’n gallu canolbwyntio a gwybod i ble rwy'n mynd. Mae wedi bod yn anhygoel. Gwneud ffrindiau, rhannu profiadau a rhoi’r grym yn nwylo ein gilydd.
Onyinye Tete

Yn fam i ddau o blant, daeth Akeila Bermudez i'r DU o Trinidad a Tobago. Ar ôl cwblhau  Rhaglen Aspire, mae hi nawr yn edrych i ddilyn Llwybr at Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

“Ar ôl cyrraedd y DU, doeddwn i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad roeddwn i’n mynd i’w gymryd,” meddai. “Roedd delio â’r broses ceisio lloches wedi fy ngadael yn flinedig yn feddyliol ac yn ynysig. Roedd cael y cyfle i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi newid fy mywyd.

“Dechreuais yn gyntaf gyda chwrs cymunedol yn astudio gyrfaoedd yn y sector cyfreithiol. Ar ôl cael fy ngwahodd i ddiwrnod agored a chwrdd â’r holl ddarlithwyr arweiniodd hynny ata i’n mynd i Ysgol Haf Aspire. Roedd mynd i bob un o’r cyrsiau, cwrdd â ffrindiau newydd, a chael yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen arna i wir yn gwneud i mi deimlo’n ddiogel ac yn hyderus yn fy ngallu i astudio yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae’r profiad hwn wedi bod o gymorth mawr i mi fel rhywun sy’n ceisio noddfa yng Nghaerdydd. Mae wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi ac ymdeimlad o falchder o bwy ydw i a beth hoffwn i ei wneud yn y dyfodol. Mae Ysgol Haf Aspire wedi gwneud fy mreuddwydion o raddio yn fwy o realiti oherwydd y bobl, yr wybodaeth, a’r cyfleoedd y mae’r ysgol hon wedi’u rhoi i mi.”

Dywedodd Fatumata Kaba, o Guinea, Gorllewin Affrica, sy’n edrych ymlaen at astudio Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol: “Dydy fy nhaith ddim wedi bod yn hawdd. Mae gallu dod yma wedi fy helpu yn fawr. Rwyf wedi gwneud ffrindiau ac wedi dysgu pethau newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at raddio - alla i ddim aros i wisgo fy ngwisg graddio. Rydych chi'n dechrau o le bach ac yn dringo’r ysgol, gam wrth gam."

Gadawodd Storay, a ddaeth i'r DU o Afghanistan gyda'i gŵr a dau o blant,   swydd dda iawn yn y Cenhedloedd Unedig i geisio noddfa yng Nghaerdydd. Mae hi nawr yn bwriadu cael mynediad at Lwybr at y Gyfraith.

Dywedodd hi: “Ers dod yma rwyf wedi gorfod dechrau o'r dechrau a sefydlu bywyd newydd. Cefais fy BA yn Afghanistan, ond doeddwn i ddim wedi gallu dod ag unrhyw ddogfennau gyda fi i brofi hyn. Mae pob prifysgol yno bellach ar gau i ferched.

Clywais i am y cwrs hwn drwy Gyngor Ffoaduriaid Cymru – o’r fan honno mae fy nhaith wedi dechrau. Mae dod yma wedi newid fy mywyd yn llwyr. Bob dydd rwy'n mynd adref i drafod yr hyn rwy wedi bod yn ei wneud gyda fy mhlant. Rwy’n teimlo y galla i wneud unrhyw beth.
Storay

Mae Ysgol Haf Aspire yn brosiect ar y cyd rhwng y Tîm Ehangu Cyfranogiad, Dysgu Gydol Oes a Rhaglenni Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd ei chynnal yn adeilad Rhaglenni Saesneg a Dysgu Gydol Oes a gafodd ei agor yn ddiweddar yn 50/51 Plas y Parc.

I ddysgu rhagor am Ysgol Haf Aspire, cysylltwch ag: allgymorth@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon