Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Blynyddol Heritage Crafts 2024

2 Medi 2024

Cyrraedd rhestr fer gwobrau pwysig ddwywaith

Mewn dathliad crefftau, mae dau ddarlithydd sy’n ymarfer crefftau treftadaeth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Heritage Crafts.

Mae’r darlithydd Archaeoleg, Ian Dennis, a’r Darllenydd ym maes Cadwraeth, Phil Parkes, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Silverlining Gwneuthurwr Cymru Heritage Crafts.

Mae'r ddau gyn-fyfyriwr, sydd â 50 mlynedd o wasanaeth cyfun yn hyfforddi archaeolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol, ymhlith y tri sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori newydd hwn.

Dyma ail enwebiad yr arbenigwr mewn creu mael, Phil Parkes (Cadwraeth Archaeolegol, BSc 1992) sydd wedi dilyn ei ddiddordeb mewn sgiliau ymarferol a chrefft, gan ymchwilio a chynhyrchu arfwisgoedd mael drwy ddefnyddio technegau traddodiadol.  Mae nifer fawr o bobl yn ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae'n dogfennu prosiectau fel gwneud copïau o eitemau oedd yn gyffredin yn y 15fed ganrif.

Wedi’i enwebu am ei arbenigedd mewn gwaith cyrn ceirw a’i ymrwymiad i adfywio’r grefft gynaliadwy goll hon, mae’r darlithydd Archaeoleg, Ian Dennis, yn defnyddio darlunio archaeolegol ac archaeoleg arbrofol i edrych ar dechnegau gweithgynhyrchu crefftau o’r Brydain Fesolithig, Neolithig, yr Oes Efydd a’r cyfnod Llychlynnaidd.

Gan ddangos y lefel uchaf o sgil o ran crefft, mae'r rheini ar y rhestr fer yn uchel eu parch ymhlith crefftwyr eraill yn y maes, boed y rheini’n grefftwyr gwerinol a syml neu'r crefftwyr mwyaf cain.

Mae gwobrau pwysig Heritage Crafts, a sefydlwyd yn 2012, yn rhoi sylw i grefftau byw traddodiadol yn y DU, gan amrywio o Wobr y Llywydd am Grefftau Sydd Mewn Perygl o Fynd yn Angof, Gwneuthurwr y Flwyddyn, a’r Wobr Cynaliadwyedd, i wobrau ar gyfer hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chrefftwyr ifanc.

Mae’r darlithydd Archaeoleg, Ian Dennis (Archeoleg, BA 1992) yn addysgu cyrsiau archaeoleg israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, gan gynnwys Darlunio Archeolegol, Ffotograffiaeth a Darlunio Arteffactau.

Mae’r darllenydd ym maes Cadwraeth, Phil Parkes ACR, FIIC (Cadwraeth Archaeolegol, BSc 1992) yn addysgu cyrsiau cadwraeth israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Cefnogir Gwobrau Heritage Craft 2024 gan Gronfa Elusennol y Brenin Charles III, Sefydliad Maxwell/Hanrahan, Sefydliad William Grant, Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh a Silverlining Furniture.

Caiff rhestrau byrion pellach eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Cydnabyddir llwyddiant y rheini sydd wedi cyrraedd rhestr fer pob categori gwobrau yn Nerbyniad Enillwyr Heritage Craft ym Mhalas Eltham ym mis Tachwedd, gyda chefnogaeth y Bathdy Brenhinol ac English Heritage.

Rhannu’r stori hon