Ewch i’r prif gynnwys

Bydd technoleg newydd sy'n hawdd ei defnyddio yn chwyldroi’r diagnosis cyflym o TB

12 Medi 2024

Delwedd microsgopeg electron o M.bovis yr organeb sy'n achosi TB mewn gwartheg. Credyd delwedd: Solstice Wilson-Garner - myfyriwr PhD mewn Ysgolion Fferylliaeth a Pheirianneg.

Mae tîm o ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth wedi cael cyllid gwerth bron i £1.2 miliwn gan UKRI i ddatblygu synhwyrydd mycobacterium twbercwlosis (TB) newydd yn y man lle y ceir gofal ar gyfer pobl ac anifeiliaid, a all roi canlyniad ymhen yr awr.

Bydd y dechnoleg yn gwbl drawsnewidiol wrth wneud diagnosis cyflym o TB a bydd yn ddigon syml i unrhyw weithiwr gofal iechyd neu ffermwr ei ddefnyddio. Bydd yn gwella ar ddulliau o'r radd flaenaf o ran penodolrwydd, sensitifrwydd a’r amser mae’n ei gymryd i gael canlyniad, gan ei bod yn sylweddol gyflymach na phrofion PCR a microsgopeg.

Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd arbenigwyr ym maes meddygaeth filfeddygol, microbioleg, a pheirianneg microdon a ffotoneg, i ddatblygu ateb newydd a heriol i broblem gofal iechyd byd-eang.

Dywedodd prif ymchwilydd y prosiect, Yr Athro Adrian Porch  o'r Ysgol Peirianneg: "Mae atebion newydd i heriau mawr ein cymdeithas heddiw yn debygol o godi o ymchwil ryngddisgyblaethol."

Gyda chymorth cyllid UKRI, mae gennyn ni gyfle i fanteisio ar arbenigedd unigryw ein tîm i helpu'r frwydr fyd-eang yn erbyn TB a lleddfu’r dioddefaint enfawr y mae’n ei achosi i fodau dynol ac anifeiliaid, a hynny drwy ddiagnosis cynnar a chywir.
Yr Athro Adrian Porch Professor

Mae TB yn un o brif achosion dioddefaint a marwolaeth mewn pobl ac anifeiliaid ledled y byd a dyma'r ail brif haint sy’n lladd pobl ar ôl COVID-19. Ar hyn o bryd mae tua 10 miliwn o heintiau TB dynol yn cael eu cofnodi bob blwyddyn, gyda chyfradd marwolaeth o 1.8 miliwn y flwyddyn. Mae diffyg offer diagnostig datblygedig mewn labordai, yn enwedig mewn gwledydd tlotach, yn aml yn arwain at ddiagnosis anghywir a thriniaeth aneffeithiol, gan darfu’n ddifrifol ar allu adfer cleifion.

Mae yna hefyd drosglwyddiad dwy ffordd rhwng gwartheg ac anifeiliaid gwyllt (er enghraifft, moch daear yn y DU). Mae nifer uchel yr achosion o’r clefyd mewn rhannau o'r DU, ynghyd â'r strategaeth profi a lladd ar gyfer rheoli clefydau, yn cael effaith fawr ar fywoliaeth a lles ffermwyr. Mae goruchwyliaeth, profion diagnostig, difa moch daear a brechu yn costio cyfanswm o £100 miliwn y flwyddyn i lywodraeth y DU yn unig.

Dywedodd cyd-arweinydd y prosiect, Yr Athro Les Baillie, Athro Microbioleg yn yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol : "Mae twbercwlosis yn broblem benodol i ffermwyr yng Nghymru sydd wedi colli gwartheg o ganlyniad i TB buchol ledled y wlad. Mae diagnosis o gamau cynnar yr haint yn heriol oherwydd diffyg profion cyflym a chywir.

"Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth i ddatblygu prawf mewn amser real sy'n gallu canfod presenoldeb y pathogen mewn samplau clinigol ac amgylcheddol."

Bydd buddsoddiad pellach yn y prosiect yn caniatáu lleihau ei faint a’i gost i greu synhwyrydd syml, cost isel. Bydd gwledydd sy'n datblygu yn elwa ar hyn yn arbennig. Mae modd addasu'r platfform yn hawdd i ganfod y rhan fwyaf o bathogenau eraill, gan gynnwys SARS-CoV-2, MRSA, ac ati, felly gallai ddod yn offeryn pwysig i helpu i reoli lledaeniad pandemig arall yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi’i ariannu gan gynllun peilot dull ymatebol cyngor ymchwil UKRI (CRCRM), sy'n cefnogi syniadau rhyngddisgyblaethol newydd a chreadigol sy'n dod i'r amlwg o gymuned ymchwil y DU. Mae'r prosiect wedi derbyn £1,199,669 ac mae'n un o 36 prosiect sydd wedi’i ariannu gan gynllun CRCRM UKRI gwerth £32.4 miliwn.

Gan groesawu’r buddsoddiad, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter y Brifysgol: "Mae dod â'r epidemig TB dynol i ben erbyn 2050 yn un o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae datblygu profion diagnostig cyflym mwy effeithiol yn un o argymhellion allweddol Sefydliad Iechyd y Byd."

Mae'r prosiect hwn yn wirioneddol ryngddisgyblaethol ac mae'n ymgorffori nod Caerdydd o fod yn sefydliad angor i Gymru a'r byd ehangach, yn ogystal ag arloeswr ar gyfer ymchwil i heriau mawr. Ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydyn ni’n helpu i greu dyfodol byd-eang gwell yn rhydd rhag effeithiau dinistriol TB.
Yr Athro Roger Whitaker Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter