Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Sefydliad Arloesi Sero Net wedi bod yn cyflwyno ymchwil ym Mhrifysgol Taylor

23 Awst 2024

Mae Dr Marco Jano Ito wedi bod yn cyflwyno.

Mae Dr Marco Jano Ito, Arweinydd Thema Techno-economaidd a Chylch Oes y Sefydliad Arloesi Net Zero wedi bod yn cyflwyno ymchwil yn 21ain Gynhadledd Peirianneg Ryngwladol EURECA ym Mhrifysgol Taylor's ym Maleisia.

Mae'r gynhadledd yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth a rhannu profiad ar ymchwil ar dechnolegau glân, ynni adnewyddadwy a phrosiectau sy’n arloesi ym myd diwydiant.

Cymerodd Dr Ito ran mewn trafodaeth banel am brosiect Ocean REFuel, sef rhaglen pum mlynedd sy’n ymchwilio i botensial harneisio gwynt ar y môr ac ynni morol adnewyddadwy i gynhyrchu hydrogen a thanwydd amonia di-garbon.
Wedyn, cafwyd trafodaeth ar y bylchau posibl rhwng byd diwydiant ac ymchwil mewn prifysgolion ac arferion cynaliadwyedd mewn gwaith bob dydd.

Traddododd Dr Ito brif araith, gan gyflwyno’r Sefydliad Arloesi Sero Net, nodau’r sefydliad a Phrifysgol Caerdydd. Canolbwyntiodd hefyd ar arloesi sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, gan edrych yn benodol ar ei waith ar economeg dechnegol a chyfuno'r wybodaeth hon yn rhan o ddadansoddi systemau ac ystyr hyn i ymchwilwyr sydd eisiau gwneud gwaith tebyg ym Maleisia. Gorffennodd y cyflwyniad drwy sôn am y ffyrdd posibl o ddefnyddio’r ymchwil i ateb materion cynaliadwyedd ym Maleisia a'r rhanbarth.

Mae gan Brifysgol Caerdydd rwydwaith gweithgar o gyn-fyfyrwyr ym Maleisia a chymdeithas hynod weithgar a brwdfrydig o myfyrwyr o Faleisia. Peth gwych yw gweld bod yr ymweliad hwn gan Dr Ito yn cyd-fynd â’n nod, sef cysylltu’r blaenoriaethau strategol hyn ym Maleisia â’n partneriaid ym Maleisia – Prifysgol Taylor’s a Phrifysgol Xiamen Maleisia – i ddod o hyd i gyfleoedd ym maes datblygu cynaliadwy a thechnolegau sero net
Yr Athro Omer Rana Professor of Performance Engineering

Bydd Dr Ito yn teithio i Shanghai yn nes ymlaen yn 2024 i gyflwyno gwaith ar economeg dechnegol yn y Symposiwm ar Ynni Amonia.

Rhannu’r stori hon