Nid yw canolbwyntio ar ffosffad yn “fwled arian” i ymdrin â phroblemau ansawdd y dŵr yn afon Gwy, yn ôl adroddiad
5 Medi 2024
Ni fydd ansawdd dŵr yn nalgylch afon Gwy yn gwella drwy ganolbwyntio ar reoli lefel y ffosffad yn y dŵr yn unig, yn ôl astudiaeth newydd.
Cysylltwyd y cemegyn, sy'n mynd i mewn i'r afon o ystod o ffynonellau, â chynnydd canfyddedig yn amlder a difrifoldeb blŵm algaidd sy'n niweidiol i ecoleg yr afon, bywyd gwyllt, a'r rheini sy'n defnyddio'r afon i bysgota a nofio.
Ond mae’r adroddiad newydd, a baratowyd dros gyfnod o ddwy flynedd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd dros Sefydliad Afon Gwy ac Wysg (WUF), yn dangos bod lefelau cyfredol ffosffad yn Afon Gwy yn digwydd yn bennaf o fewn targedau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), eu bod yn is na’r cofnodion hanesyddol ac yn annhebygol o fod yn brif achos blŵm algaidd yn yr afon.
Yn lle hynny, daeth yr ymchwilwyr o hyd i gymuned hynod amrywiol a newidiol o ddiatomau , algâu gwyrdd a cyanobacteria - y cyfeirir atyn nhw yn aml yn algâu glaswyrdd. Hefyd, canfuwyd amrywiadau yn lefelau ffosfforws a nitrogen ledled y dalgylch yn yr astudiaeth.
Mae lefelau cynyddol o amoniwm a nitrad, newidiadau tymhorol yn llif yr afon a thymheredd uchel yn yr haf oll yn cyfuno â’i gilydd i effeithio ar iechyd Afon Gwy, yn ôl casgliad yr adroddiad.
Mae ei awduron yn dweud bod dull rheoli cyfannol sy'n mynd i'r afael â chyfradd llif yr afon, tymheredd y dŵr, ac yn lleihau'r holl faetholion o bob ffynhonnell yn hollbwysig i wrthdroi'r dirywiad yn iechyd yr afon.
Dyma a ddywedodd yr Athro Rupert Perkins o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o awduron yr adroddiad: “Mae ffosffad yn cael ei ystyried yn “fwch dihangol”, sef mae’n hawdd dod i’r casgliad ei fod yn achosi ansawdd gwael y dŵr. Ond dim ond un darn yn y jig-so yw’r ffosfad.
“Drwy astudio’r fioleg ar y cyd â’r DNA amgylcheddol, ochr yn ochr â mesuriadau ansawdd y dŵr, gallwn ni ddeall ystod yr achosion y tu ôl i’r problemau yn yr afon yn llawer gwell.”
Rhwng Mehefin a Thachwedd yn 2022 a 2023, bu’r tîm yn casglu 365 o samplau o 14 o safleoedd gwahanol ar hyd 200km yr afon – pumed afon fwyaf y DU – sy’n rhychwantu rhannau o Gymru a Lloegr.
Dadansoddwyd y samplau mewn labordai ym Mhrifysgol Caerdydd i greu ôl bys biolegol a elwir yn DNA amgylcheddol (eDNA) o'r cyanobacteria yn y dŵr.
Dyma a ychwanegodd Thom Bellamy, un arall o awduron yr adroddiad a myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r broses hon o echdynnu’r eDNA yn bwysig oherwydd ei bod yn rhoi dealltwriaeth inni o sut mae’r rhywogaethau gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd yn yr afon.
“Dangosodd ein dadansoddiad nad oedd yr un rhywogaeth yn drech na’r llall ond yn hytrach bod cyfansoddiad amrywiol sy’n cynnwys diatomau, algâu gwyrdd a lefel isel o cyanobacteria. Mae data’r eDNA hefyd yn cyd-fynd ag arolygon hanesyddol o algâu a gynhaliwyd ar afon Gwy, gan awgrymu, yn unol â’r mesur hwn o leiaf, nad oes newid arwyddocaol wedi bod.
“Dydyn ni ddim yn dweud y gallwn ni anghofio am ffosfforws yn gyfan gwbl,” rhybuddia'r Athro Perkins.
“Mae’n rhaid inni edrych ar yr holl faetholion yn ogystal â chyfraddau llif, tymheredd a bioleg Afon Gwy, gan weithio yn y dalgylch a defnyddio dulliau rhagofalus ac ataliol.
“Dyma afon hardd â llawer o fywyd gwyllt gwych ond mae gofyn inni edrych ar y darlun ehangach ac nid atebion cyflym y bwled arian.”
Yr adroddiad yw’r datblygiad diweddaraf mewn partneriaeth hirsefydlog rhwng Prifysgol Caerdydd a WUF a ddechreuodd yn 2018 yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion a oedd wedi ennill sawl gwobr.
Dyma a ychwanegodd Simon Evans, Prif Weithredwr Sefydliad Afon Gwy ac Wysg: “Er bod lefelau ffosffad yn afon Gwy wedi bod yn gostwng yn rhannol oherwydd buddsoddiad gan Dŵr Cymru, roedd aelodau'r cyhoedd yn rhoi gwybod inni o hyd fod blŵm algaidd i’w weld a'i fod yn gwaethygu yn y dalgylch. Doedd hyn ddim yn gwneud synnwyr. Ac felly, er mwyn deall yn well beth oedd yn digwydd aethon ni ati i greu ac ariannu'r astudiaeth hon.