Ewch i’r prif gynnwys

Pontio iaith a diwylliant

20 Awst 2024

Cystadleuaeth Pont Tseiniaidd - Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cystadleuaeth Pont Tseiniaidd - Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Myfyrwyr a disgyblion yn cymryd rhan yn llu yng nghystadlaethau’r Bont Tsieinëeg yn 2024

Ar ôl llwyddiant cystadlaethau’r Bont Tsieinëeg y llynedd, roedd hyd yn oed mwy o bobl sy’n gysylltiedig â Sefydliad Confucius Caerdydd wedi cymryd rhan yn y cystadlaethau eleni nag erioed o'r blaen.

Sioe’r Bont Tsieinëeg i ysgolion cynradd

Daeth nifer uchel iawn o geisiadau i law ar gyfer sioe’r Bont Tsieinëeg i ysgolion cynradd eleni, gyda 91 o ddisgyblion o saith ysgol yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad:

  • Maes Y Coed Primary School, Pontypridd
  • Stacey Primary School, Cardiff
  • Sully Primary School, Sully
  • Ysgol Garth Olwg, Pontypridd
  • Ysgol Pencae, Cardiff
  • Ysgol Aberconwy, Conwy
  • Ysgol Capelulo, Dwygyfylchi

Cyflwynodd y disgyblion 13 fideo a oedd yn cynnwys caneuon, adroddiadau cerdd a hyd yn oed berfformiad Kung Fu, a chyrhaeddodd tair o’r ysgolion – Ysgol Gynradd Maes-y-Coed, Ysgol Gynradd Sili ac Ysgol Garth Olwg – y rownd derfynol.

Y gystadleuaeth i fyfyrwyr prifysgol ac ysgolion uwchradd

Yn ogystal â’r sioe i blant bach, cymerodd dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ran yng nghystadleuaeth y Bont Tsieinëeg i fyfyrwyr prifysgol eleni: Yves Brown ac Thomas Joshua Ronald Eddie. Roedd tri disgybl sy'n gysylltiedig â Sefydliad Confucius Cymreig hefyd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth i ysgolion uwchradd eleni, gan gynnwys Meghan Johnson o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Dyma a ddywedodd Guoxiang Xia, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Caerdydd, am y cystadlaethau eleni:

“Roedd yn anhygoel gweld cymaint o ddisgyblion yn mwynhau’r sioe Tsieinëeg. Gweithiodd y tiwtoriaid a’r disgyblion mor galed ac fe wnaethon nhw ffilmio fideos dysgu Tsieinëeg bendigedig. Rwy'n gwerthfawrogi eu gwaith caled. Yn ogystal, hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i’r mentoriaid a’r ysgolion sy’n cefnogi’r gystadleuaeth hon.”

Cystadleuaeth ryngwladol yw’r Bont Tsieinëeg lle gall disgyblion ysgol a myfyrwyr prifysgol ddangos eu gwybodaeth am iaith a diwylliant Tsieina. Mae’n cael ei threfnu gan Ganolfan Addysg a Chydweithrediad Ieithyddol (CLEC) y DU ac yn cael ei chefnogi gan British Council.

Rhannu’r stori hon