Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd gan GW4 yn galw ar y llywodraeth i fynd i’r afael â’r diffyg o ran cymorth gofal plant i fyfyrwyr ôl-raddedig

1 Awst 2024

Mae’r GW4 (prifysgol Bryste, Caerdydd, Caerfaddon a Chaerwysg) wedi cyhoeddi adroddiad gan y Sefydliad Polisïau Addysg Uwch (HEPI) o'r enw 'Who cares? How postgraduate parents fall through the gap for government childcare grants, and how to fix it’.

Mae'r adroddiad yn dadlau bod llywodraethau blaenorol wedi anghofio am fyfyrwyr ôl-raddedig sydd hefyd yn rhieni. Ar hyn o bryd nid ydynt yn gymwys ar gyfer y grantiau gofal plant sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig nac ar gyfer yr un hawliau oriau am ddim sydd ar gael i weithwyr.

Mae Cynghrair GW4 yn galw ar y Llywodraeth i ymestyn y Grant Gofal Plant israddedig presennol i fyfyrwyr ôl-raddedig. Yn unol â'r grantiau gofal plant presennol i fyfyrwyr israddedig, byddai hyn yn darparu cymorth at gostau gofal plant os yw incwm y cartref yn is na £19,795. Byddai hyn yn helpu i sicrhau nad yw'r rhai sydd â phlant, ac o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn economaidd, yn cael eu hatal rhag astudio ar gyfer cymwysterau uwch.

Mae’r diffyg hwn mewn darpariaeth deg yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a’r rheini o gymunedau incwm is, ac yn llesteirio ymdrechion i gynyddu amrywiaeth yn y gweithlu addysg uwch a sgiliau uchel. Mae astudiaethau ôl-raddedig yn hanfodol ar gyfer swyddi sgiliau uchel y dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd i uwchsgilio/ailsgilio ar gyfer llawer o lwybrau gyrfa a chyflawni uchelgais y DU i fod yn uwchbŵer gwyddonol.

Nid yw myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer graddau Meistr a PhD yn gymwys ar gyfer Grantiau Gofal Plant, sydd ar gael i israddedigion amser llawn i helpu gyda chostau gofal i blant o dan 15 oed. Maent hefyd yn anghymwys ar gyfer budd-daliadau gofal plant i weithwyr oni bai eu bod mewn cyflogaeth sylweddol â thâl yn ogystal â'u hastudiaethau.

I'r rhan fwyaf o rieni, mae cyfuno astudiaethau ôl-raddedig, gwaith allanol sylweddol, a chyfrifoldebau gofal plant yn anghydnaws. Mae'r rhan fwyaf o raglenni PhD yn disgwyl i'w myfyrwyr ôl-raddedig astudio'n llawn amser ac nid yw rhai yn caniatáu gwaith allanol rheolaidd. Yn gyfnewid, mae myfyrwyr PhD fel arfer yn cael cynnig cyflog (swm penodol o arian) i dalu costau tai a chostau byw eraill. Fodd bynnag, gyda chyflog nodweddiadol ar gyfer myfyriwr PhD rhwng £15,000 a £19,000 y flwyddyn a chost gyfartalog gofal amser llawn i blentyn dan 2 oed dros £14,000 y flwyddyn, nid yw cyflogau’n darparu digon o arian i dalu costau byw a gofal plant.

Mae GW4 yn pryderu bod diffyg cymorth gofal plant yn atal rhieni rhag ymgymryd â chymwysterau ôl-raddedig. Mae’r diffyg darpariaeth hefyd yn cyfyngu ar gydraddoldeb ac amrywiaeth y gweithlu addysg uwch a sgiliau uchel, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol fod gweithleoedd mwy amrywiol, yn enwedig yn y sectorau Ymchwil a Datblygu, yn fwy arloesol.

Mae sefyllfa ymchwilwyr ôl-raddedig yng Nghymru ychydig yn well, ond mae adroddiad y GW4 yn annog llywodraeth San Steffan a’r gwledydd datganoledig i ystyried sut y gallan nhw gefnogi ymchwilwyr ôl-raddedig yn well.

Fel rhan o'r adroddiad, bu GW4 yn cyfweld â myfyrwyr PhD yn y prifysgolion partner a fu'n egluro sut mae diffyg cyllid gofal plant wedi effeithio ar eu bywydau proffesiynol a phersonol. Pwysleisiodd y cyfweleion bwysigrwydd ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig nid yn unig er eu mwyn eu hunain ond hefyd i gymdeithas, gan gynnwys un myfyriwr sy'n dilyn gyrfa mewn ymchwil canser. Fodd bynnag, roedd pob un yn cael trafferth talu ffioedd gofal plant wrth astudio, gyda'r cyflogau a dalwyd iddynt yn annigonol ar gyfer costau gofal plant.

Dywedodd yr Athro Wendy Larner FAcSS, PFHEA, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae’r ymchwil orau’n adlewyrchu’r byd rydyn ni’n byw ynddo, ac mae cymuned ymchwil amrywiol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau ymchwil arloesol sy’n cael effaith. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ehangu’r Cynnig Gofal Plant i gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig, sy’n golygu bod modd i rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o ofal plant yr wythnos am blant tair a phedair oed. Fodd bynnag, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch GW4 sy’n galw ar y llywodraeth i ymestyn y Grant Gofal Plant i fyfyrwyr ôl-raddedig ar ben hynny, gan wella mynediad i rieni dan anfantais economaidd a helpu i amrywio’r gymuned ymchwil er budd pawb.”

Dywedodd Dr Joanna Jenkinson MBE, Cyfarwyddwr Cynghrair GW4: “Mae ymchwilwyr ôl-raddedig wedi’u dal yn y bylchau yn narpariaeth gofal plant y llywodraeth, ac fel arfer yn methu â bodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer cynlluniau’r llywodraeth neu gymorth i fyfyrwyr. Mae GW4 yn pryderu bod y polisi grant gofal plant presennol yn cael effaith negyddol ar amrywiaeth a chynwysoldeb ymchwil ôl-raddedig ac yn cyfyngu ar gyfleoedd i rieni sydd o dan anfantais economaidd. Rydym ni'n awyddus i weithio gyda'r llywodraeth i sicrhau nad oes diffyg cymhelliant i rieni plant ifanc uwchsgilio neu ailsgilio ac ymgymryd â chymwysterau ôl-raddedig, ac yna fanteisio ar swyddi sgiliau uchel sy'n gofyn am y cymwysterau hyn.”

Ar ran Is-Gangellorion y pedair prifysgol, mae GW4 hefyd wedi ysgrifennu llythyr agored am yr adroddiad at weinidogion y llywodraethau i alw am gamau gweithredu.

Rhannu’r stori hon