Lansio llyfr uwch-ddarlithydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol
19 Awst 2024
Mae un o uwch-ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi lansio ei lyfr newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Cynhaliwyd lansiad ‘Trawsffurfio’r Seintiau’ gan Dr David Callander fore Iau 8 Awst ar stondin Gwasg Prifysgol Cymru, cyhoeddwyr y llyfr. Daeth cynulleidfa o bobl i’r lansiad lle ddysgon nhw fwy am y llyfr wrth i Dr Callander drafod ei gynnwys gydag un o uwch-ddarlithwyr eraill yr Ysgol, Dr Iwan Wyn Rees.
Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, y seintiau yw prif ffocws ‘Trawsffurfio’r Seintiau’ ac mae’r llyfr yn ymwneud ag un llawysgrif bwysig iawn a oedd wedi aros yn anhysbys hyd yn hyn ym maes astudiaethau Celtaidd.
Mae’r llyfr yn cynnwys casgliad o fucheddau’r saint a gopïwyd gan yr ysgrifydd ac ysgolhaig amryddawn Robert Davies II o Wysanau, Sir y Fflint, yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Yn y llyfr, mae Dr Callander yn golygu sawl testun hagiograffaidd o’r llawysgrif, yn Gymraeg, Lladin a Saesneg, gan hefyd olygu buchedd Cybi, fersiwn hollol unigryw o hanes bywyd y sant sy’n cael ei gysylltu ag Ynys Môn.
Dyma’r ail lyfr i Dr Callander ei gyhoeddi a dechreuodd weithio ar y llyfr nôl yn 2018 wedi iddo ddod ar draws y llawysgrif yng nghatalog Llyfrgell Beinecke yn Unol Daleithiau America.
Wrth sôn am y broses o ysgrifennu’r llyfr, meddai Dr Callander: “Mwynheais ysgrifennu’r llyfr yn fawr. Amheuthun yw cael golygu testun, yn enwedig testun megis buchedd Cybi, nad oedd yn hysbys o’r blaen ar y ffurf hon.
“Mae golygu yn eich gorfodi i ymwneud yn uniongyrchol â’r llawysgrif yn ei holl hagrwch gogoneddus. Ac yna ceisio cyfryngu rhwng y llawysgrif a darllenydd heddiw. Mae’n gofyn am eich holl sgiliau beirniadol a’ch holl wybodaeth wrth ichi feddwl am ystyr gair diarth neu gyfeiriad tywyll a cheisio dehongli'r cyfan. Mae dod wyneb yn wyneb â’r gorffennol fel hyn bob tro’n wefr.”
Yn dilyn y lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd Dr Callander nawr yn troi ei sylw at gyhoeddi’r gyfrol ‘Early Welsh Poetry’ ar y cyd â Dr Rebecca Thomas o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. Mae’r gyfrol, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol, wedi’i chomisiynu gan Wasg Prifysgol Lerpwl ar gyfer eu cyfres ‘Translated Texts for Historians’.