Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £106 miliwn mewn canolfannau cwantwm newydd

14 Awst 2024

Uned gyfrifiadurol cwantwm disglair ddyfodolaidd. Mae'n debyg i rwydwaith o wifrau rhyng-gysylltiedig sy'n ymestyn i lawr o gydran silindrog.

Mae arbenigwyr Prifysgol Caerdydd yn cefnogi dwy ganolfan ymchwil newydd sy'n ceisio harneisio technoleg cwantwm i wella gofal iechyd a chyfrifiadureg.

Bydd y canolfannau yn dod ag ymchwilwyr a busnesau o bob rhan o'r DU ynghyd i ddefnyddio eu harbenigedd a'u talent wyddonol ochr yn ochr â'r wybodaeth a'r adnoddau masnachol i ddatblygu technolegau cwantwm arloesol a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, a hynny mewn meysydd megis gofal iechyd, diogelwch ac ynni glân.

Bydd arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwarae rhan allweddol dwy ganolfan - Canolfan Ymchwil Synhwyro Biofeddygol Cwantwm y DU (Q-BIOMED), a'r Ganolfan ar gyfer Cyfrifiadura Cwantwm trwy Weithredu Integredig a Rhyng-gysylltiedig (QC13).

Yr Athro Oliver Williams, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth  a phrif ymchwilydd Ffowndri Diemwnt Caerdydd, fydd yn cefnogi canolfan Q-BIOMED, sy'n cael ei harwain gan UCL a Phrifysgol Caergrawnt. Bydd y ganolfan yn ymchwilio i synwyryddion cwantwm i’w defnyddio er mwyn rhoi diagnosis hynod sensitif o glefydau, gan gynnwys profion gwaed cyflym, a sganwyr biofeddygol i hwyluso diagnosis a thriniaeth gynharach o glefydau megis canser a chlefyd Alzheimer.

Bydd yr Athro Williams a'i dîm yn Ffowndri Diemwnt Caerdydd yn ffugio'r diemwntau bach a fydd yn cael eu defnyddio’n synwyryddion hynod sensitif yng nghanolfan Q-BIOMED.

Dyma a ddywedodd yr Athro Williams: "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o Q-BIOMED ynghyd â chwe ymddiriedolaeth y GIG, 17 o bartneriaid diwydiannol a phump o’r prifysgolion gorau."

Bydd natur y ganolfan, sy’n canolbwyntio ar heriau’n ymwneud ag iechyd, yn sianelu technolegau cwantwm i broblemau'r byd go iawn, megis profion cost isel ar gyfer rhoi diagnosis o glefydau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y diagnosis cynnar y mae profion o'r fath yn eu galluogi yn cael effaith fawr ar iechyd y cyhoedd a chost triniaeth yn y dyfodol.
Yr Athro Oliver Williams

Yr Athro Anthony Bennett, o'r Ysgol Peirianneg  ac arweinydd y grŵp ar gyfer QLab Caerdydd, fydd yn cefnogi canolfan QCI3, sy'n cael ei harwain gan Brifysgol Rhydychen. Yn y ganolfan, bydd ymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant i nodi a datblygu cymwysiadau cyfrifiadura cwantwm yn y byd go iawn, gan gynnwys canolbwyntio ar ddylunio deunyddiau newydd, cemegau, technegau efelychu hylif, a dysgu peirianyddol.

Bydd yr Athro Bennett yn arwain grŵp a fydd yn datblygu ffynonellau golau cwantwm lled-ddargludyddion datblygedig, gan ddefnyddio cyfleusterau ystafell lân y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y Ganolfan Ymchwil Drosi i wneud dyfeisiau, a'n labordai o'r radd flaenaf i'w nodweddu.

Dywedodd yr Athro Bennett: "Mae'n wych bod yn rhan o ganolfan QCI3 dros y pum mlynedd nesaf."

Byddwn ni’n gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU i fynd i'r afael â'r heriau er mwyn adeiladu a chysylltu systemau cwantwm gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau gwahanol. Bydd QCI3 hefyd yn gweithio gyda Chanolfan Cyfrifiadura Cwantwm Genedlaethol y DU a thua 20 o gwmnïau i roi ein hymchwil ar waith.
Yr Athro Anthony Bennett Reader

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, Peter Kyle AS: “Rydyn ni eisiau gweld dyfodol lle mae gwyddoniaeth flaengar yn gwella bywydau bob dydd. Dyna’r weledigaeth y tu ôl i’n buddsoddiad yn y canolfannau technoleg cwantwm newydd hyn, drwy gefnogi’r defnydd o dechnoleg a fydd yn golygu diagnosis cyflymach ar gyfer clefydau, seilwaith hanfodol sy’n ddiogel rhag bygythiadau peryglus, ac ynni glanach i bob un ohonon ni.

“Nid mater o ymchwil yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â rhoi'r ymchwil honno ar waith. Bydd y canolfannau hyn yn pontio'r bwlch rhwng syniadau gwych ac atebion ymarferol. Byddan nhw nid yn unig yn trawsnewid sectorau megis gofal iechyd a diogelwch, ond hefyd yn creu diwylliant o arloesi cyflym sy’n helpu i dyfu ein heconomi.”

Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Roger Whitaker , Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter y Brifysgol: "Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu ei harbenigedd sylweddol at ddatblygu technolegau cwantwm, yn enwedig mewn meysydd sydd â'r potensial i chwyldroi gofal iechyd a chyfrifiadureg."

Gallai datblygiadau arloesol oherwydd y dechnoleg hon helpu i ailddiffinio sut rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn deall y byd o’n cwmpas, a’n bwriad yw bod ar flaen y gad o ran y newid sylweddol hwn.
Yr Athro Roger Whitaker Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter

Cewch ragor o wybodaeth am y canolfannau newydd ar wefan UKRI.

Rhannu’r stori hon

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.