Ewch i’r prif gynnwys

Y gydnabyddiaeth ddiweddaraf am ysgrifennu creadigol

14 Awst 2024

Cydnabod awdur yng ngwobrau llyfrau'r DU sy'n dathlu awduron LHDTC+ sy’n dod i’r amlwg a’r rheiny sydd wedi ennill eu plwyf

Yng Ngwobrau Polari 2024, mae Rachel Dawson (BA Llenyddiaeth Saesneg 2010) wedi cyrraedd y rhestr hir yn y categori Llyfr Cyntaf am ei llyfr Neon Roses.

Caiff y gwobrau hyn eu cynnal gan y salon llenyddol, Polari, sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i enillwyr y gwobrau, yn y gorffennol a’r presennol, ynghyd â’r enwebeion ar hyd hanes 14-mlynedd y gwobrau, a hynny ar daith yn y DU.​​

A hithau wedi’i sefydlu yn 2011, gwnaeth 10 o lyfrau gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr y llyfr cyntaf eleni.

Rhestr Hir Gwobr Polari 2024 am y Llyfr Cyntaf

Neon Roses gan Rachel Dawson (John Murray)

Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books)

Sunburn gan Chloe Michelle (Verve Books)

A Trans Man Walks into a Gay Bar gan Harry Nicholas (JKP)

Patterflash gan Adam Lowe (Peepal Press)

Bellies gan Nicola Dinan (Penguin)

Greekling gan Kostya Tsolakis (Nine Arches Press)

Transitional: In One Way or Another, We All Transition gan Munroe Bergdorf (Bloomsbury)

Last Dance at the Discotheque for Deviants gan Paul David Gould (Unbound)

Rosewater gan Liv Little (Dialogue)

Dros y misoedd diwethaf, gwnaeth ei nofel gyntaf gyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru [Gwobr Ymddiriedolaeth Rhys Davies am Ffuglen] a Gwobrau’r Society of Authors [Gwobr Betty Trask am y nofel gyntaf].

Mae Neon Roses yn adrodd stori dwymgalon am ferch ifanc o’r enw Eluned Hughes sy’n dod i oed yn un o gymoedd y de yn 1984. Mae'r stori wedi'i gosod yn ystod streic y glowyr. Pan ddaw grŵp codi arian Lesbians and Gays Support the Miners i'r cwm o Lundain, mae bywyd Eluned yn cael ei droi ar ei ben yn ddisymwth.

Mae’r awdur a’r darlithydd Rachel Dawson yn hynod falch bod ei llyfr cyntaf wedi cael ei chroesawu’n gynnes gan ddarllenwyr:

“Peth hyfryd yw bod ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Polari! Mae’n gyffrous, ac yn eithaf swreal, i weld Neon Roses wedi’i gynnwys ochr yn ochr â rhai o’m hoff lyfrau dros y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd, rwy’n falch iawn o weld Joshua Jones, awdur arall o Gymru ar y rhestr."

Eleni, bydd Rachel yn addysgu cyrsiau Ysgrifennu Nofel ac Ysgrifennu Rhamant yn Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd.

Ac yntau’n siarad ar ran y beirniaid, dyma a ddywedodd Jon Ransom:

“Dyma restr hir gyffrous ac amrywiol, sy’n cynrychioli’r goreuon o blith ysgrifennu LHDTC+ heddiw.”

Eleni, mae yna dair gwobr Polari – un am y llyfr cyntaf, yr ail am lyfr y flwyddyn (ac eithrio gwaith cyntaf), a’r drydedd am lyfr i Blant/Oedolion Ifanc.

Caiff Arddangosfa Genedlaethol Gwobrau Polari ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Noddwr Gwobr Polari am y Llyfr Cyntaf (£1,000) yw FMcM Associates.

Bydd enillwyr Gwobrau Polari yn cael eu cyhoeddi’n hwyrach eleni.

Rhannu’r stori hon