Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn croesawu myfyrwyr UDA i ysgol haf cyn y gyfraith

13 Awst 2024

Myfyrwyr Prifysgol Florida (UF) yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Myfyrwyr Prifysgol Florida (UF) yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Tra bod llawer o ysgolion yn croesawu’r amser segur dros yr haf, agorodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ei drysau fis Gorffennaf eleni i grŵp o fyfyrwyr Americanaidd, a deithiodd i Gaerdydd ar gyfer haf o astudio.

Mewn partneriaeth â Learn International, mae 24 o fyfyrwyr o Brifysgol Florida (UF) wedi treulio 5 wythnos yn y brifddinas, gyda’u darlithydd Dr Matthew C Jones a chyd-Bennaeth Pro Bono ac Addysg Gyfreithiol Glinigol, yr Athro Julie Price, yn profi’r hyn ydyw i fod yn rhan o glinig y gyfraith yn yr ysgol. Yn UDA, dim ond ar lefel ôl-raddedig y mae’r gyfraith ar gael yn gyffredinol, felly roedd yr ysgol haf yn gyfle unigryw i fyfyrwyr gael blas ar y gyfraith yn y byd go iawn.

Mae’r myfyrwyr, y mae Jones yn eu disgrifio fel rhai “trawiadol a rhagweithiol”, yn mynd trwy broses ymgeisio tra yn UDA ac mae lleoedd ar gyfer y cynllun yn cael eu llenwi’n gyflym iawn.

Tra yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen astudio yn cynnwys modiwl ysgrifennu ar gyfer materion rhyngwladol lle mae myfyrwyr yn cael y dasg o ysgrifennu papurau safbwynt a chynadledda yn seiliedig ar friff polisi, gwibdeithiau i Big Pit a dyffryn Gwy, a gwneud gwaith i glinig cyfraith amgylcheddol yr Ysgol. Cawsant hefyd brofiad o gyfnod o wirfoddoli gydag elusen gyfreithiol, Support Through Court, ac ysgrifennu am gyfraith a chyfiawnder ar gyfer y cylchgrawn ar-lein, The Justice Gap.

Yn ogystal â’u profiadau cyfreithiol, roedd Jones yn awyddus i hyrwyddo Cymru i’w fyfyrwyr ar ôl cwblhau cwrs meistr ym Mhrifysgol Caerdydd ei hun yn 2015.

Meddai, “Roeddwn i eisiau cyflwyno fy myfyrwyr i'r diwylliant, yr iaith a Chymru gyfan a wnaeth fy ysbrydoli gymaint. Mae’r elfen Gymraeg yr un mor bwysig i mi ag yw dysgu drwy brofiad. Fy nod yw eu bod yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau gyda sensitifrwydd dyfnach i’r ddau.”

Mae myfyrwyr Giuliana a Nithisha wedi mwynhau bod yng Nghaerdydd yn fawr yn ystod yr haf. Dywedodd Giuliana, “Rwyf wedi caru fy amser yng Nghaerdydd. Rwy'n mwynhau'r cyfleustra o allu cerdded i bobman, ac yn rhyfeddol, rwyf hyd yn oed wrth fy modd â'r tywydd - dyna'n union fy hoff fath. Y rhan fwyaf gwerth chweil o'r profiad hwn yw faint rydw i wedi'i ddysgu a'r bobl anhygoel rydw i wedi cwrdd â nhw ar hyd y ffordd.”

Ategodd cyd-ddisgybl Giuliana, Nithisha, ei theimlad trwy ddweud, “Rwyf wedi cael y cyfle gwych i gysylltu ag aelodau Senedd Cymru ac intern yn Support Through Court yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd. Rwy'n gweld Caerdydd yn brydferth, ac mae'r bobl yma wedi bod mor groesawgar i ni. Fy hoff ran fu bondio gyda’r myfyrwyr eraill a gwneud cysylltiadau â phobl na fyddwn i wedi gallu cwrdd â nhw fel arall.”

Wrth fyfyrio ar yr ysgol haf, dywedodd yr Athro Price, “Mae wedi bod yn bleser agor ein drysau clinig y gyfraith i’n hymwelwyr o Brifysgol Florida. Ar ôl gweld y gyfraith sifil ar waith drwy helpu ymgyfreithwyr drostynt eu hunain ac ysgrifennu straeon newyddion am faterion cyfiawnder cymdeithasol yn ehangach ar gyfer The Justice Gap, byddant wedi ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Mae’n siŵr y bydd yn gwella eu ceisiadau am le ar raglen gyfraith JD (Juris Doctor) pan fyddant yn dychwelyd adref i’r Unol Daleithiau.”

Rhannu’r stori hon