Gall dewisiadau yn ein deiet helpu i leihau nwyon tŷ gwydr
27 Awst 2024
Gallai allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cynhesu’r blaned o gadwyni cyflenwi bwyd byd-eang ostwng 17% pe byddai pobl yn dewis bwyta mwy o blanhigion yn rhan o’u deiet, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae mwy na hanner poblogaeth y byd (56.9%) yn bwyta gormod ar hyn o bryd. Wrth newid i ddeiet wedi’i gynnig gan Gomisiwn EAT-Lancet sy’n canolbwyntio ar fwyta planhigion, byddai hyn yn golygu gostyngiad o bron i draean (32.4%) o ran allyriadau ac yn helpu lles y blaned, yn ôl yr ymchwil.
Mae'r tîm, dan arweiniad Prifysgol Groningen gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd, yn dweud y gall cyflwyno cymhellion, megis prisio carbon, eco-labelu, ac ehangu argaeledd cynhyrchion sy’n llai dwys o ran eu hallyriadau fel bwydydd llysieuol, annog defnyddwyr i wneud newidiadau i’w deiet,
Mae eu hastudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi yn Nature Climate Change, yn nodi y byddai'r newid hefyd yn cydbwyso cynnydd o 15.4% mewn allyriadau deietegol byd-eang o boblogaethau sydd ddim yn bwyta digon wrth iddyn nhw symud tuag at ddeiet sy’n cynnig manteision o ran iechyd ac i’r hinsawdd.
Mae'r astudiaeth yn dangos bod gan wledydd cefnog ddeiet sy’n uchel o ran allyriadau, ond maen nhw’n arddangos lefelau cymharol is o anghydraddoldeb, tra bod gan lawer o wledydd tlawd ddeiet sy’n is o a ran allyriadau, ond mae ganddyn nhw lefelau uwch o anghydraddoldeb.
Dywedodd yr awdur arweiniol Yanxian Li, sy’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Groningen: “Amcan y senario hwn i newid deiet pobl yw asesu goblygiadau posibl lliniaru allyriadau'r system fwyd sy'n deillio o newid dewisiadau defnyddwyr yn lle gorfodi pawb i fabwysiadu'r un deiet.”
Yn ôl yr ymchwilwyr, gall amgylchedd bwyd sydd wedi'i ddylunio'n dda ail-lunio patrymau deietegol trigolion a gall datblygiad cyfochrog o gynllunio trefol a seilwaith helpu i leihau'r amser a'r rhwystrau ariannol sy'n atal pobl rhag mabwysiadu deiet iachach a mwy cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol.
Dywedodd un o awduron yr astudiaeth, Dr Pan He, Darlithydd mewn Gwyddor Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Dylai gwledydd flaenoriaethu mesurau penodol sy'n addasu i'w statws economaidd-gymdeithasol er mwyn gwneud y mwyaf o unrhyw ddylunio polisi bwyd.
“Dydy hyn ddim bob amser yn syml serch hynny, yn enwedig ar gyfer gwledydd sy'n profi trawsnewid economaidd-gymdeithasol cyflym lle mae angen mwy o ymchwil ar yr hyn sy'n creu’r mesurau mwyaf effeithiol.”
Yn ôl y tîm, er efallai na fydd newid yn ymarferol mewn gwledydd megis Mongolia, lle mae’r deiet yn dibynnu'n fawr ar gig coch a chynhyrchion llaeth oherwydd ffyrdd traddodiadol o fyw crwydrol, mae angen gwella addysg genedlaethol ynghylch maeth o hyd.
Mae eu hymchwil yn dangos bod poblogaethau tlawd yn aml yn dewis bwydydd sy’n costio llai ac yn llawn calorïau, ac sydd â llai o fudd maethol.
Er mwyn brwydro yn erbyn hyn, rhaid i lunwyr polisi ganolbwyntio ar wneud bwyd iach a maethlon yn fwy fforddiadwy a hygyrch, yn enwedig ar gyfer grwpiau sydd â llai o allu gwario lle mae costau uchel a fforddiadwyedd isel yn parhau i fod y rhwystrau mwyaf i ddeiet iachach, meddai'r tîm.
Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu maint anghydraddoldeb allyriadau deietegol mewn gwledydd yn seiliedig ar ddata manwl arolwg gwariant cartrefi a gafodd eu casglu o ffynonellau amrywiol.
Yn ôl yr ymchwilwyr, byddai angen i gyfansoddiad cynhyrchu bwyd byd-eang newid yn sylweddol er mwyn addasu i'r newidiadau sylweddol yn y galw os bydd gofyn i bobl newid o fwyta cig i fwyta planhigion.
Er mwyn newid deiet pobl, byddai angen i gyflenwad byd-eang cynnwys calorïau cig coch ostwng 81%, pob siwgr 72%, cloron (llysiau â gwreiddiau tebyg i datws) 76%, a grawn 50%, tra y byddai angen cynnydd o 438% o ran codlysiau a chnau, 62% o ran brasterau ychwanegol 62%, a 28% o ran llysiau a ffrwythau.
Gallai'r math yma o newidiadau yn y galw am fwyd achosi prisiau cynhyrchion amaethyddol a thir mewn marchnadoedd byd-eang i newid, gan sbarduno effeithiau sy’n cyffwrdd â gwahanol gategorïau bwyd neu sectorau eraill sydd ddim yn ymwneud â bwyd — megis ysgogi cynhyrchu biodanwydd.
Gallai mesurau o'r fath wrthbwyso’n rhannol fanteision newid deiet, yn ôl rhybuddion yr ymchwilwyr.
Dywedodd yr awdur cyfatebol, yr Athro Klaus Hubacek o Brifysgol Groningen: “Mae angen bwyta mwy o fwyd er mwyn creu newid o ran deiet, ond mae effeithlonrwydd cynhyrchu’r byd amaethyddol yn Affrica Is-Sahara, yn ogystal â De a De-ddwyrain Asia, wedi bod yn farwaidd ers degawdau a does dim modd iddyn nhw gynhyrchu na fforddio mewnforio'r bwyd sydd ei angen arnyn nhw.
“Rhaid i effeithlonrwydd amaethyddol gynyddu drwy fesurau amrywiol megis technegau rheoli cnydau a phridd a chyflwyno mathau o gnydau sy'n cynhyrchu llawer. Ond mae'n rhaid i gyfrannau cynhyrchion sy'n llawn maetholion yn y bwyd a gaiff ei fewnforio gynyddu - ochr yn ochr â gostyngiad o ran polisïau masnach cyfyngol sy'n tueddu i godi prisiau bwyd.”
Mae eu papur, ‘Reducing climate change impacts from the global food system through diet shifts,’ wedi’i gyhoeddi yn Nature Climate Change.