Ewch i’r prif gynnwys

Perimenopos yn gysylltiedig â risg uwch o anhwylder deubegynol ac iselder mawr

15 Awst 2024

Tri ffrind benywaidd yn cerdded gyda'i gilydd mewn natur

Mae menywod sy’n profi’r perimenopos yn fwy tebygol o brofi anhwylder deubegynol ac anhwylderau iselder mawr, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Yn rhan o astudiaeth o 128,294 o gyfranogwyr benywaidd ledled y DU, ymchwiliodd tîm o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol a Bipolar UK i weld a yw’r perimenopos - y blynyddoedd o amgylch cyfnod y mislif terfynol - yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu anhwylderau seiciatrig am y tro cyntaf.

Deilliodd yr astudiaeth o brofiadau uniongyrchol menywod yr oedd yr Athro Arianna Di Florio wedi eu gweld yn ei chlinig iechyd meddwl.

“Yn ystod y perimenopos mae tua 80% o bobl yn datblygu symptomau, ond doedd yr effaith ar gamau cychwynnol salwch meddwl difrifol ddim yn hysbys,” meddai’r Athro Di Florio.

“Yn fy nghlinig, canfyddais i fod rhai menywod, a oedd yn byw bywydau heb unrhyw brofiad o broblemau iechyd meddwl difrifol o’r blaen, wedi datblygu salwch meddwl difrifol adeg y menopos.

Rwy’n teimlo dyletswydd tuag at y menywod rwy’n gweithio gyda nhw. roeddwn i eisiau rhoi’r atebion iddyn nhw a menywod eraill pam y digwyddodd y peth ofnadwy hwn iddyn nhw.
Yr Athro Arianna Di Florio Athro, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Yr astudiaeth yw'r ymchwiliad cyntaf rydyn ni’n gwybod amdano i'r cysylltiad rhwng anhwylderau seiciatrig sy'n dechrau am y tro cyntaf yn y blynyddoedd o gwmpas y menopos.

Canolbwyntiodd y tîm ar y pedair blynedd o amgylch cyfnod y mislif terfynol a chanfod bod cyfraddau nifer yr achosion o anhwylderau seiciatrig wedi cynyddu'n sylweddol o gymharu â'r cynfod cyn y menopos. Roedd cynnydd o 112% yn nifer yr achosion o anhwylder deubegynol yn y perimenopos - y mwyaf o'r anhwylderau a oedd yn rhan o’r gwaith ymchwil. Roedd achosion o anhwylder iselder difrifol wedi cynyddu 30%.

Mae ymchwil fel hon yn hanfodol, gan fod menywod yn profi’r newidiadau dwys hyn yn eu bywydau a’u cyrff ac yn cael eu siomi ar hyn o bryd gan ddiffyg dealltwriaeth fanwl ohonyn nhw.
Yr Athro Arianna Di Florio Athro, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

“Rydyn ni wedi gallu ehangu ein gwybodaeth am y newidiadau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’r perimenopos, a all helpu i roi esboniadau, diagnosis a chefnogaeth i fenywod sydd wedi cael eu gadael yn y tywyllwch yn flaenorol am yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw.”

Dyma a ddywedodd Clare Dolman, Llysgennad Bipolar UK ac Arweinydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ar y prosiect: “Mae’r astudiaeth hon yn hynod o bwysig gan ei bod yn dangos am y tro cyntaf mewn sampl fawr iawn bod gan gyfnod pontio’r menopos effaith fesuradwy ar iechyd meddwl menywod.

I mi, mae hyn yn cadarnhau’r hyn rydyn ni wedi’i weld a’i glywed gan fenywod ag anhwylder deubegynol, sef bod newid hormonaidd yn ffactor pwysig iawn mewn anhwylderau hwyliau ac yn un sy'n haeddu ymchwil drylwyr arno.
Clare Dolman, Llysgennad ar gyfer Bipolar UK

“A minnau’n fenyw ag anhwylder deubegynol sydd wedi mynd drwy’r menopos, rwy’n edrych ymlaen at weld y gymuned ymchwil yn cydnabod pwysigrwydd y cyllid hwn. Bydd yr astudiaethau yn ein caniatáu i ragfynegi’r risg y bydd menyw unigol yn mynd yn annisgwyl o sâl ar yr adeg hon o'i bywyd.  Gallai’r wybodaeth honno achub bywydau.”

Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar brofiadau cyntaf o anhwylderau seiciatrig yn ystod y perimenopos ond ni ymchwiliodd i gysylltiadau ag anhwylderau seiciatrig a oedd yn bodoli eisoes yn codi eto yn ystod y perimenopos. Mae angen ymchwil bellach sy'n canolbwyntio ar bobl â hanes blaenorol o salwch meddwl.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil, gan fod eu cyfraniadau wedi ein galluogi i ehangu ein dealltwriaeth, ac wedi helpu i ateb cwestiynau sy’n egluro profiadau bywyd menywod,” ychwanegodd yr Athro Arianna Di Florio.

Cafodd yr ymchwil, ‘Exploration of first onsets of mania, schizophrenia spectrum disorders, and major depressive disorder in the perimenopause’, ei chyhoeddi yn Nature Mental Health, a chafodd ei chyllido gan Gyngor Ymchwil Ewrop (ERC). Cafodd yr ymchwil ei chynnal ar y cyd â Bipolar UK a UK Biobank.

Rhannu’r stori hon