Ysgol haf ryngwladol mewn ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc yn cyrraedd dros 100 o gyfranogwyr
12 Awst 2024
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2835199/Wolfson-Summer-School-2024-holding-screens-2.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Ym mis Gorffennaf 2024, cynhaliodd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ei thrydedd Ysgol Haf rithwir mewn Ymchwil i Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, gan ddenu dros 100 o gyfranogwyr o dros 20 o wahanol wledydd ledled y byd.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen ar-lein amrywiol a deinamig dros dri diwrnod, gyda sesiynau dan arweiniad arbenigwyr sy'n gysylltiedig â Chanolfan Wolfson. Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn sgyrsiau a gweithdai i ysgogi'r meddwl ar bynciau amrywiol, gan gynnwys heriau cyfredol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc, agweddau byd-eang at raglenni a pholisïau iechyd meddwl, strategaethau ar gyfer atal iselder mewn pobl ifanc, iechyd meddwl mewn cyd-destunau addysgol, gwerthuso ymyriadau cymhleth, a materion yn ymwneud â hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc.
Hefyd sbardunodd y digwyddiad weithgaredd sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #WolfsonSummer24 yn cynhyrchu dros 26,000 argraff. Rhannodd mynychwyr luniau o'u lleoliadau, cafwyd adborth ar y sesiynau, a buont yn rhwydweithio â'i gilydd.
"Roedd yn wych gweld pŵer y cyfryngau cymdeithasol yn dod â myfyrwyr o bob cwr o'r byd i'r Ysgol Haf. Fel swyddog cyfathrebu Canolfan Wolfson, yr uchafbwynt i mi oedd gweld trydar brwdfrydig a dathliadol y myfyrwyr a gafodd eu derbyn i'r Ysgol Haf."
Mae'r adborth gan fynychwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Canmolodd y cyfranogwyr yr ysgol haf am yr amrywiaeth eang o bynciau ac roeddent yn arbennig o hoff o'r sesiynau grŵp bach lle cawsant ddewis pwnc i weddu i'w meysydd diddordeb.
Cafodd trefniadau'r ysgol adborth cadarnhaol iawn hefyd, yn enwedig y Palet, platfform a ddarparwyd i'r mynychwyr i'w galluogi i weld sleidiau'r siaradwyr, gofyn cwestiynau pellach, gweld cyfleoedd eraill sydd gan y Ganolfan, a rhyngweithio â'i gilydd.
Mae clywed disgrifiad o'r Ysgol Haf fel profiad ysbrydoledig a buddiol yn rhoi boddhad mawr. Rydyn ni'n gwneud ein gorau i drefnu ysgol haf fydd yn cyfrannu at yrfa a nodau'r mynychwyr. Mae'r adborth a gawn bob blwyddyn nid yn unig yn foddhaol ond hefyd yn ddefnyddiol iawn i ni barhau i wella fersiynau o'r ysgol haf yn y dyfodol.
Nododd un o'r mynychwyr, Debbie, sy’n fyfyriwr ôl-raddedig mewn Iechyd Meddwl a Lles Plant a'r Glasoed ac yn feddyg, y cyfleoedd unigryw a ddaw yn sgil cymryd rhan yn yr Ysgol Haf.
"Roedd yr ysgol haf ar-lein dros dri diwrnod yn darparu ymchwil helaeth ar iechyd meddwl pobl ifanc. Fe’i cyflwynwyd gan ymarferwyr ac ymchwilwyr profiadol, gyda phawb, gan gynnwys y cyfranogwyr, yn trafod yn ystod y sesiynau. Ymhlith yr uchafbwyntiau i mi oedd y cyfle i rwydweithio gydag arbenigwyr na fyddai gen i gysylltiad â nhw o bosibl y tu allan i'r ysgol."
Ychwanegodd Mariona Perez Anton, a ddaeth i'r ysgol o Sbaen: "Roedd yn fuddiol iawn gweld yr astudiaethau sy'n cael eu cynnal yn y maes ar hyn o bryd. Roedd cael enghreifftiau o'r radd flaenaf i gyd-fynd â'r hyn yr oeddem yn sôn amdano yn arbennig o addysgiadol."
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2835217/Wolfson-Summer-School-2024-holding-screens-3.png?w=575&ar=16:9)
"Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran ac i'r siaradwyr rhagorol o Ganolfan Wolfson, yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, a DECIPHer."
"Edrychwn ymlaen at gynnal pumed flwyddyn yr Ysgol Haf y flwyddyn nesaf. Gobeithio y bydd #WolfonSummer25 yn parhau i ddenu cynulleidfa ryngwladol o fyfyrwyr sy'n awyddus i ddysgu mwy am bwnc mor bwysig: ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc."
Cymerwch ran yn 2025
Hoffech chi ymuno â ni yn Ysgol Haf Wolfson 2025?
Bydd ceisiadau'n agor fis Mawrth nesaf a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Tan hynny, gallwch gofrestru ar ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae'r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn hysbysebu #WolfsonSummer25
Darllenwch fwy am brofiadau myfyrwyr yn Ysgol Haf Wolfson ar ein blog: