Ewch i’r prif gynnwys

Mwy na 10,000 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn hacathon seiberddiogelwch

20 Awst 2024

Tynnu lluniau o bobl ifanc o flaen eu gliniaduron.
Bydd mwy na 10,000 o bobl yn meithrin sgiliau ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch apiau mewn amgylchedd tebyg i chwarae gêm yn rhan o Great AppSec Hackathon 2024.

Mae’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch wedi profi eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn erbyn cyfres o heriau ar-lein, a hynny mewn cystadleuaeth ryngwladol llawn perygl.

Nod Great AppSec Hackathon 2024, dan arweiniad Cyngor Diogelwch Data India yn rhan o bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Chanolfan Astudiaethau Strategol yr Hag, oedd codi ymwybyddiaeth o fygythiadau diogelwch, meithrin sgiliau, darparu cyfleoedd gwaith, a chryfhau capasiti seiberddiogelwch yn rhyngwladol.

Cymerodd fwy na 10,000 o fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd ran yn y digwyddiad byd-eang, a gafodd ei gynnal dros ddwy rownd – prawf cwestiynau amlddewis ac yna her 24 awr i ‘gipio’r faner’.

Roedd y gystadleuaeth, a gafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2021, yn cynnig cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan feithrin sgiliau ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch apiau mewn amgylchedd tebyg i chwarae gêm o dan reolau a chanllawiau llym.

Dywedodd Dr Amir Javed, darlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd a arweiniodd gwaith y Brifysgol o noddi’r hacathon: “Mae diogelwch apiau yn faes hollbwysig i ddatblygwyr ac arbenigwyr seilwaith fel ei gilydd.

“Rydyn ni’n gwybod er enghraifft bod cyfradd fethiant uchel – hyd at 55% – mewn apiau i ddyfeisiau symudol oherwydd nad yw diogelwch yn cael ei oruchwylio’n ddigonol, ac hefyd mae risgiau sylweddol o ran tor ddiogelwch ar gyfer apiau i’r we – 70% – mewn sectorau megis manwerthu.

Mae cymryd rhan yn Great AppSec Hackathon 2024 wedi rhoi cipolwg i gyfranogwyr ar y maes sylfaenol hwn o seiberddiogelwch mewn ffordd ddiogel ac, wrth gwrs, cystadleuol, gan roi hwb pellach i’w setiau sgiliau unigol a’r rhagolygon ar gyfer eu gyrfaoedd ar hyd y ffordd.

Dr Amir Javed Research Fellow/Associate

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan arddangos eu doniau i bartneriaid y diwydiant, sef Securein, JPMC, TCPWave a Telangana State Cybersecurity Bureau a fydd yn defnyddio'r digwyddiad i ddod o hyd i interniaid.

Cafodd cyfres o weminarau dan arweiniad arbenigwyr hefyd eu cynnal yn rhan o'r digwyddiad.

Ychwanegodd yr Athro Omer Rana, hefyd o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: “Dechreuodd ein cefnogaeth i’r hacathon i gyd gyda grant sbarduno o £5,000 gan Gymru Fyd-eang a llawer o frwdfrydedd yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn rhyngwladol yn Hyderabad yn nhalaith Telengana yn India.

Mae’n wych gweld y cydweithio hwn yn cyrraedd ei anterth gyda Great AppSec Hackathon 2024, lle roedd mwy na 10,000 o fyfyrwyr yn cystadlu yn erbyn heriau seiber anodd wrth feithrin y sgiliau i ddatblygu technoleg ac arferion diogelwch ledled India a’r byd.

Yr Athro Omer Rana Professor of Performance Engineering

Cafodd seremoni wobrwyo ei chynnal ddydd Sadwrn 17 Awst 2024 yn cynnwys gwobrau ac interniaethau ar gyfer y cyfranogwyr buddugol.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Academi Feddalwedd Genedlaethol yn rhan o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.