Un o bob pedwar yng Nghymru wedi wynebu stigma tlodi ‘bob amser, yn aml neu weithiau’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
15 Awst 2024
Mae un o bob pedwar o bobl yng Nghymru wedi wynebu stigma sy'n gysylltiedig â thlodi ‘bob amser’, ‘yn aml’ neu ‘weithiau’ yn y flwyddyn ddiweddaf, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi ymchwilio i ba raddau y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu stereoteipio’n negyddol, eu hallgáu'n gymdeithasol neu eu trin yn annheg gan eraill am eu bod ar incwm isel. Gall hyn gael effaith ar iechyd meddwl ac arwain at amharodrwydd i gael gafael ar gymorth hanfodol.
Bydd canlyniadau'r arolwg, a gynhaliwyd gan YouGov gyda chymorth partner WCPP, yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), yn helpu’r ganolfan i gynorthwyo'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddeall ac osgoi creu stigma tlodi yn ei bolisïau a'i wasanaethau.
Mae canfyddiadau pwysig eraill yn cynnwys:
- Mae pobl iau yn wynebu lefelau uwch o stigma tlodi na phobl hŷn;
- Mae pobl sy'n wynebu ansicrwydd o ran bwyd yn cael tair gwaith cymaint o stigma â'r rhai nad ydynt yn wynebu ansicrwydd o’r fath;
- Y math mwyaf cyffredin o stigma tlodi a wynebwyd gan y rhai a gymerodd ran oedd 'pan mae pobl yn gwneud rhagdybiaethau negyddol amdana i gan nad oes gen i lawer o arian';
- Mae pobl ag anableddau, y rhai sy'n byw mewn eiddo rhent a’r rhai sy’n cael budd-daliadau, yn fwy tebygol o wynebu stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
- Mae naw o bob deg oedolyn yn teimlo bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfryngau yn cyfrannu at stigma tlodi.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Comisiynydd y Gwirionedd am Dlodi Abertawe, Karen Berrell: “Mae stigma tlodi yn cael effaith andwyol ar y potensial sydd ar gael ar draws ein cymunedau. Fel rhywun sy'n dod wyneb yn wyneb â phrofiadau go iawn, rwy’n credu ei bod yn hynod bwysig i'n llunwyr polisïau a'n cyrff cyhoeddus ddeall effaith stigma tlodi i allu mynd i'r afael ag ef.”
Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, Uwch-gymrawd Ymchwil WCPP, Amanda Hill-Dixon: “Yn ogystal â chael trafferth o ganlyniad i incwm annigonol a chostau uchel, mae gormod o bobl yn gorfod delio â stigma tlodi hefyd yn ogystal â’r baich ar iechyd meddwl a’r allgáu cymdeithasol y gall hyn ei achosi.”
“Mae’n galonogol gweld cymaint o frwdfrydedd ymhlith gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda ni ac eraill i fynd i'r afael â'r mater hwn i wella bywydau'r rhai sy'n wynebu caledi materol.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony: “Rydym yn awyddus i ddeall rôl stigma yn well o ran sut mae’n rhwystro ein preswylwyr rhag manteisio ar wasanaethau a budd-daliadau a chwarae rhan yn y gymuned. Bydd ein partneriaeth â Chomisiynwyr Gwirionedd WCPP ac Abertawe yn helpu i lywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.”
Ychwanegodd Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, Steffan Evans: “Mae adroddiad WCPP yn rhoi cipolwg ar elfen o dlodi nad ydym yn ei thrafod yn ddigonol, ac mae’n ein helpu i ddeall pa gamau y dylid eu blaenoriaethu i fynd i'r afael ag ef.
“Tlodi, yn amlwg, yw prif achos stigma tlodi, ond gall stigma waethygu effaith tlodi. Er enghraifft, os bydd dirywiad yn iechyd meddwl unigolyn yn arwain at orfod cwtogi ar ei oriau gwaith, bydd hynny’n cynyddu ei risg o fyw mewn tlodi dyfnach. Bydd rhywun sy'n dewis peidio â hawlio'r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo yn wynebu hyn yn oed rhagor o caledi ariannol. Bydd plant sy'n absennol o'r ysgol oherwydd stigma ynghylch gwisg ysgol, bwyd neu adnoddau, yn ei chael hi'n anoddach cael y graddau gorau, gan gynyddu eu risg o fyw mewn tlodi pan fyddant yn oedolion.
“Dylai'r camau a gymerir i fynd i'r afael â stigma ganolbwyntio ar feysydd fel y rhain, a all, ochr yn ochr ag ymyriadau eraill fel buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol a gwella mynediad at ofal plant, helpu i gael effaith hirdymor ar dlodi a lleihau ei stigma.”