Mae ymgyrchoedd camwybodaeth o dan y chwyddwydr mewn prosiect ymchwil ar y cyd rhwng y DU ac UDA
9 Awst 2024
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd sy’n ymchwilio i ymgyrchoedd twyllwybodaeth gan wladwriaethau tramor.
Mae “Influence, Manipulation and Information Threats as Adversarial Techniques:Events, Evolution and Effects (IMITATE3)”, yn cael ei arwain gan yr Athro Martin Innes o Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd a Dr Jacob Shapiro o Brifysgol Princeton.
Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), mewn partneriaeth ag Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau (DoD), yn buddsoddi tua £6M yn y prosiect hwn sy’n rhan o gyllid Menter Ymchwil Minerva.
Dyma’r prosiect ymchwil cyntaf a gyllidir gan Raglen Gwyddorau Cymdeithasol Menter Ymchwil Academaidd Ddwyochrog yr Unol Daleithiau a’r DU (BARI). Mae'n canolbwyntio ar ymchwil sylfaenol risg uchel drwy gydweithio’n rhyngwladol, gan gefnogi timau academaidd yn UDA a'r DU wrth iddyn nhw gyfuno eu setiau sgiliau a'u methodolegau unigryw.
Dyma a ddywedodd yr Athro Innes: “Mae’r defnydd o ymgyrchoedd gwybodaeth a thwyllwybodaeth, pan fydd gwladwriaethau tramor yn ceisio defnyddio sïon, propaganda, cynllwynion a chamddefnyddio gwybodaeth i roi twyllwybodaeth, llurgunio a thwyllo, yn broblem fyd-eang ddybryd, ac nid yw effaith hyn yn cael ei deall yn llawn o hyd.”
Dyma a ddywed Stian Westlake, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Bellach, cymaint ag ar unrhyw adeg mewn hanes, mae gofyn inni ddeall a gwrthsefyll y gamwybodaeth a'r camddefnyddio gwybodaeth sydd ar waith gan wladwriaethau gelyniaethus i ansefydlogi democratiaethau'r byd. Yn dilyn sefydlu Rhaglen y Gwyddorau Cymdeithasol gan BARI, mae grymoedd dau o wledydd mwyaf pwerus y byd ym maes y gwyddorau cymdeithasol wedi uno er budd y ddwy wlad a phobl ym mhob man.”
Dyma a ddywedodd Dr David Montgomery, Cyfarwyddwr y gwyddorau cymdeithasol yn Swyddfa’r Is-ysgrifennydd Amddiffyn er Ymchwil a Pheirianneg (OUSD(R&E)): “Mae Rhaglen y Gwyddorau Cymdeithasol BARI yn amlygu’r potensial rhyfeddol sydd gan gydweithio rhyngwladol. Drwy ddod â gwyddonwyr blaenllaw o’r Unol Daleithiau a’r DU ynghyd, mae’r cynllun hwn ar fin sicrhau datblygiadau mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, gan amlygu’r cryfder ynghlwm wrth gyfuno safbwyntiau ac arbenigedd amrywiol.”