Ewch i’r prif gynnwys

Darllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn ymddangos ar Radio’r BBC i drafod sgrinio cynenedigol

9 Awst 2024

Photo of woman looking through microscope

Fe ymddangosodd Ddarllenydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ar Radio’r BBC i drafod sgrinio genetig a phrofi yn ystod beichiogrwydd.

Ymddangosodd Dr Gareth Thomas, sy’n gymdeithasegydd, ar gyfres 'Child' BBC Radio 4, gan gynnig sylwadau ar sgrinio genetig a phrofi yn ystod beichiogrwydd.

Mae'r darn yn mynd i’r afael â pha gyflyrau genetig a brofir amdanyn nhw, pam, a’r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ein dealltwriaethau o risg, magu plant ac anabledd.

Meddai Dr Thomas:

Mae fy ymchwil yn dangos sut mae sgrinio am syndrom Down yn cael ei dderbyn yn rhan 'arferol' o feichiogrwydd, a’r modd y mae hyn yn cael ei ddwysau’n systematig trwy ystyried anabledd i fod yn ganlyniad negyddol.
Dr Gareth Thomas Research Associate

“Trwy drin a thrafod y berthynas gymhleth rhwng gweithwyr proffesiynol, rhieni, technoleg, polisi ac ymarfer clinigol, rwy'n nodi sut mae sgrinio'n rhan o drafodaethau newydd a chyfarwydd ynghylch beichiogrwydd, moeseg, dewis, diagnosis, gofal, anabledd a magu plant.”

Mae'r ymchwil yn ffrwyth dros 10 mlynedd o waith, er bod ei astudiaeth ethnograffig o ddau ysbyty wedi canolbwyntio'n bennaf ar sgrinio cynenedigol ar gyfer syndrom Down. Mae ei ymchwil hefyd yn bersonol, gan i Dr Thomas drafod ei brofiad o gael ei fagu gyda chymydog, Brittany, sydd â syndrom Down.

Canolbwyntiodd Dr Thomas ar sut a pham fod gennyn ni gymaint o ddiddordeb mewn sgrinio, gan gyfeirio at adroddiadau am amwysedd a phrofiadau problematig achlysurol menywod.

Aeth ymlaen i ddweud, “Gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol oedd fy ymchwil, a fy mwriad oedd i rhoi golwg rheng flaen ar batrymau cyffredin bywydau gwaith gweithwyr proffesiynol a sut maen nhw'n sgrinio am syndrom Down.

“Mae hyn yn gwyro oddi wrth ymchwil arall ar y pwnc hwn, sy'n aml yn canolbwyntio ar benderfyniadau rhieni sy’n disgwyl. Hynny yw, pam eu bod nhw'n penderfynu sgrinio ai peidio.”

I gloi, meddai Dr Thomas, “Yn hytrach na hynny, mae fy ymchwil yn amlygu’r modd y mae sgrinio syndrom Down yn chwarae rhan ganolog mewn gwleidyddiaeth atgenhedlu, sut mae'n cynyddu disgwyliadau rhieni, a’r modd y mae'n cyfrannu at ystyriaethau ynghylch pa fywydau sy'n cael eu gwerthfawrogi (neu beidio).

“O ystyried datblygiadau diweddar mewn sgrinio cynenedigol, y mae disgwyl iddo gael effeithiau dwys yn ein cymdeithas, mae'n bwysig ein bod ni’n parhau i roi sylw ysgolheigaidd beirniadol iddo.”

Dyma ragor o wybodaeth am Dr Thomas a'i waith.

Rhannu’r stori hon