Ewch i’r prif gynnwys

RemakerSpace yn ysbrydoli'r gymuned gyda’u gweithdai atgyweirio electronig

8 Awst 2024

A persons hand using electronics

Mae RemakerSpace yn gyfleuster arloesol ac ymroddgar i'r economi gylchol ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi datgelu offer newydd yn ddiweddar sy’n galluogi aelodau o’r gymuned i atgyweirio offer electronig.

Gyda chymorth ariannol gan Gronfa Offer Cyfalaf SMART Llywodraeth Cymru, mae RemakerSpace wedi buddsoddi mewn ystod o offer ac adnoddau, gan greu man pwrpasol ar gyfer atgyweirio offer trydanol ac electronig. Mae'r twf hwn yn golygu bod RemakerSpace yn gallu cynnig gweithdai sy'n datblygu sgiliau atgyweirio ymarferol

Mae’r gweithdai hyn, yn cael eu harwain gan Steve Lloyd, Rheolwr Rhaglen Dechnegol TG sydd bellach wedi ymddeol o Brifysgol Caerdydd, ac yn cynnig hyfforddiant ymarferol i’r rhai sy’n cymryd rhan gan ddefnyddio offer atgyweirio hanfodol, gan gynnwys gweithfan sodro ac ail-weithio ac offer profi.

Meddai Steve: "Bydd y rhai sy'n cymryd rhan nid yn unig yn cael y cyfle i ddysgu technegau atgyweirio ymarferol ond hefyd i gyfrannu at drafodaethau am ddiagnosteg electronig gyffredinol ac ystyriaethau o ran diogelwch. Mae’r ymateb gan y gymuned wedi bod yn hynod o gadarnhaol, gyda grŵp o ddysgwyr awyddus yn mynd i nifer o weithdai. P'un a yw hynny’n atgyweirio offer sydd wedi torri, neu ymestyn oes dillad drwy ddefnyddio peiriannau gwnïo diwydiannol, neu ddefnyddio systemau realiti rhithiwr i edrych ar waith atgyweirio, mae RemakerSpace yn ysbrydoli unigolion i gyfrannu at economi sy’n fwy cynaliadwy a chylchol.

Mae’r byd cyfredol yn prysur ddod yn 'economi taflu i ffwrdd' gan arwain at dwmpath cynyddol o wastraff electronig. Sut mae modd i ni barhau i fyw fel hyn, a’r effaith mae hyn wedyn yn cael ar ein byd yn rhywbeth sydd y tu hwnt i’r dychymyg - ac yn destun pryder i bob un ohonon ni.

Ers ymddeol rydw i wedi cael amser i ymgymryd â sesiynau hyfforddi RemakerSpace ac i rannu fy ngwybodaeth a’m harbenigedd, tra ar yr un pryd, annog eraill i rannu a thrwsio’r hyn sydd gennyn ni eisoes, yn hytrach na phrynu mwy.  Bydda i’n dangos faint o’r dyfeisiau electronig/trydanol rydyn ni’n eu taflu i ffwrdd ar hyn o bryd, a sut mae modd eu trwsio nhw drwy ddilyn gweithdrefn ddiagnostig benodol, ynghyd â pheth ymchwil ar-lein.

Mae hyn oll yn golygu, er rhan fach yw hyn, o bawb yn ‘gwneud ein rhan’ i leihau’r twmpath o wastraff electronig.

Mae atgyweirio yn rhan allweddol yn yr economi gylchol. Mae gweithdai RemakerSpace yn amlygu'r cysylltiad hwn, gan annog arferion cynaliadwy a chadwraeth adnoddau."

An electric repair station

Dywedodd y sawl sy’n cymryd rhan yn y gweithdy, N. Blakeman: “Transistorau, gwrthyddion, amlfesuryddion, sodro, mae’n anodd dychmygu’r fath beth. Os fel fi, nad yw’r geiriau hyn yn golygu llawer i chi, yna mae angen i chi wneud y cwrs hwn. Pam? Oherwydd o fewn ambell sesiwn, ro’n i’n rhoi cynnig ar amnewid sgrîn iPad oedd wedi torri, yr hyn sydd wrth wraidd y cwrs. Mae'n magu'r hyder i chi roi cynnig ar atgyweirio rhywbeth hwyrach a fyddai fod wedi cael ei daflu i ffwrdd o'r blaen. Defnydd da o amser yn fy marn i."

Cyfleuster gwerth £1 miliwn wedi'i leoli yn sbarc|spark, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yw RemakerSpace. Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y modd y mae’r Ganolfan yn cynorthwyo grwpiau cymunedol, sefydliadau addysgol a busnesau, cysylltwch â Rebecca Travers, rheolwr y ganolfan RemakerSpace.

Picture of Rebecca Travers

Mrs Rebecca Travers

Rheolwr y Ganolfan, RemakerSpace

Telephone
+44 29208 79611
Email
TraversR@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon