Ewch i’r prif gynnwys

Edrych yn ôl ar fy wythnos yn Ysgol Haf CNGG 2024

8 Awst 2024

Daeth ein 14eg Ysgol Haf Flynyddol mewn Ymchwil Anhwylderau’r Ymennydd i ben fis diwethaf, a rhannodd Isabella Parker, a fu’n astudio biofeddygaeth yn flaenorol, ei phrofiad gyda ni.

Roeddwn i wrth fy modd o fynd i Ysgol Haf y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig mewn Ymchwil Anhwylderau'r Ymennydd eleni. Dros bedwar diwrnod, mynychais gyfres o sgyrsiau a gyflwynodd gyfoeth o wybodaeth yn ymwneud â graddfa’r ymchwil niwroseiciatrig a genomig sy’n digwydd yng Nghaerdydd. Roedd hi mor gyffrous clywed sut mae defnyddio genomeg a’i datblygiadau technolegol cysylltiedig yn helpu i egluro achosion clefydau ac anhwylderau’r ymennydd dynol.

Ysgol Haf mewn Anhwylderau Ymennydd Dosbarth Ymchwil 2024

Teimlais yn falch fod yr ymchwil flaengar hon yn cael ei datblygu yng Nghymru yn benodol, fel un o raddedigion gwyddoniaeth diweddar Prifysgol Caerdydd sy’n gweithio ym maes genomeg, ac yn obeithiol ynglŷn â rhagolygon y gwaith hwn wrth helpu i drin a diagnosio unigolion y mae cyflyrau niwrogenetig yn effeithio arnynt yn y dyfodol.

Roedd agenda drawiadol yr ysgol haf yn golygu bod ystod eang o bynciau wedi cael sylw, ac nid oedd gen i fawr o wybodaeth am lawer ohonyn nhw cyn mynychu. Roedd y rhain yn cynnwys Sgitsoffrenia, Clefyd Huntington, Epilepsi, Clefyd Alzheimer, Sglerosis Ymledol ac anhwylderau iechyd meddwl.

Roedd sesiwn nodedig ar Fesur Risg ar gyfer Clefyd Alzheimer gan Dr Emily Simmonds o'r Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) yn arbennig o ddiddorol, nid yn unig oherwydd yr esboniad clir o fynegiant cywrain genynnau sy'n peri risg o Glefyd Alzheimer, ond hefyd gasgliad Dr Simmonds a fynegodd, er mwyn cynyddu rhagweladwyedd Clefyd Alzheimer yn y dyfodol, fod angen i ymchwilwyr nid yn unig ganolbwyntio ar genomeg y clefyd yn annibynnol, ond hefyd gyfuno'r wybodaeth genomig hon gyda mesur ffactorau eraill (e.e. biofarcwyr).

The impressive agenda of the summer school meant that a wide breadth of topics was covered, many of which I had little knowledge of beforehand. These included Schizophrenia, Huntington’s Disease, Epilepsy, Alzheimer’s Disease, Multiple Sclerosis and mental health disorders.

A standout session on Measuring Risk for Alzheimer’s Disease by Dr Emily Simmonds from The Dementia Research Institute (DRI) was particularly insightful, not only due to the clear explanation of the intricate expression of genes that confer risk of Alzheimer’s, but also Dr Simmond’s conclusion that to increase the predictability of Alzheimer’s in the future, researchers need to not only to focus on the genomics of the disease in isolation, but combine this genomic knowledge with measuring other factors (e.g. biomarkers).

Yr Athro Stephan Collishaw

In addition to hearing the critical work of the Neuropsychiatric Genomics group, the organisers were kind enough to give tours around the labs where their forward-thinking research happens in real time. We were showed robotic machines in the DRI lab, and the multitude of brain imaging facilities at the state-of-the-art CUBRIC Centre. Whilst professors shared their insights of using innovative brain scanners, the inspiration in the room was palpable. Whether you were a neuropsychiatry or genomics specialist - everyone was enthralled to get a behind the scenes look of this research.

Cyfleusterau niwroddelweddu yn CUBRIC

Yn ogystal â chlywed am waith hanfodol y grŵp Genomeg Niwroseiciatrig, roedd y trefnwyr yn ddigon caredig i roi teithiau o amgylch y labordai lle mae eu hymchwil flaengar yn digwydd mewn amser real. Dangoswyd peiriannau robotig i ni yn y labordy DRI, a’r llu o gyfleusterau delweddu’r ymennydd yn y Ganolfan CUBRIC fodern. Wrth i’r athrawon rannu eu dirnadaeth o ddefnyddio sganwyr ymennydd arloesol, gallwn i deimlo’r ysbrydoliaeth yn yr ystafell. O arbenigwyr niwroseiciatreg i genomeg - roedd pawb yn llawn cyffro o gael cip y tu ôl i’r llenni mewn perthynas â’r ymchwil hon.

Fel rhywun ar ddechrau eu cyfnod yn gweithio ym maes genomeg, rwy’n hynod ddiolchgar o fod wedi cael mynd i’r ysgol haf. Mae wedi ehangu fy ymwybyddiaeth o genomeg niwrolegol a’m galluogi i gwrdd â staff ymchwil ysbrydoledig. Allwn i ddim ei hargymell yn fwy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn genomeg neu ymchwil niwrolegol.

Ysgol Haf 2025

Bydd ysgol haf nesaf y CNGG yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf 2025.

Bydd dyddiadau a manylion sut i wneud cais yn cael eu cwblhau yn ddiweddarach eleni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, ewch i dudalen Ysgol Haf y ganolfan ddechrau mis Chwefror pan fydd manylion am sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi.