Ewch i’r prif gynnwys

Cyfranogwyr o bedwar ban byd yn dysgu am ymchwil flaengar yn y 14eg Ysgol Haf Flynyddol mewn Ymchwil Anhwylderau'r Ymennydd

8 Awst 2024

Ysgol Haf mewn Anhwylderau Ymennydd Dosbarth Ymchwil 2024

Croesawodd y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) ym Mhrifysgol Caerdydd 48 o fynychwyr o bob cwr o'r byd i'w 14eg ysgol haf flynyddol mewn Ymchwil Anhwylderau'r Ymennydd.

Cynhelir yr ysgol o ddydd Llun 8 Gorffennaf i ddydd Iau 12 Gorffennaf yn Adeilad Hadyn Ellis. Nod y rhaglen, sy’n bedwar diwrnod o hyd, yw dysgu hyfforddeion ac ymchwilwyr meddygol am ymchwil anhwylderau'r ymennydd, gyda’r gobaith o ysbrydoli a hysbysu ymchwilwyr y dyfodol. Eleni denodd yr ysgol ei charfan fwyaf o fynychwyr, a theithiodd cynrychiolwyr yn rhyngwladol o Tsieina, India a ledled Ewrop.

Roedd y rhaglen eleni’n cynnwys sgyrsiau ar bynciau’n amrywio o ymchwil genetig, fel gwaith yr Athro Anthony Isles gyda modelau llygod cyn-glinigol ar gyfer sgitsoffrenia, ac ymchwil seiciatreg atgenhedlol ac iechyd meddwl yr Athro Arianna Di Florio.

Roedd y ganolfan yn falch o groesawu Dr Mathew Hoskins yn ôl i'r ysgol haf i rannu diweddariadau hanfodol ar ei ymchwil ar ddefnyddio cyffuriau seicedelig wrth drin anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Dr Mathew Hoskins yn cyflwyno ei ymchwil

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i fynd ar daith o’r cyfleusterau technolegol modern sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, fel y cyfleusterau niwro-ddelweddu yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Gwnaeth y sawl a ddaeth hefyd gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a roddodd fewnwelediad gwerthfawr a chyngor personoledig ar lwybrau gyrfa a chyfleoedd ariannu ar gyfer gweithwyr proffesiynol clinigol ac anghlinigol, a gynhaliwyd gan Dr Kimberley Kendall a Dr William Davies.

Mynychwyr yn profi efelychydd MRI yn CUBRIC

Dywedodd Dr Pradeep Dheerendra, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg a Niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Glasgow, wrth edrych yn ôl ar yr wythnos:

"Rwy'n ddiolchgar i'r CNGG, Prifysgol Caerdydd am drefnu digwyddiad mor wych a rhoi cyfle i mi gymryd rhan yn yr ysgol haf hon lle dysgais gymaint am bynciau mor amrywiol. Rwy'n gobeithio mynd â'r gwersi o'r ysgol haf i'm helpu i ddatblygu fy ymchwil."

“Os hoffech ddysgu am eneteg anhwylderau seiciatrig a niwrolegol a bod y cyfle’n codi i gymryd rhan yn yr ysgol haf flynyddol hon ar Ymchwil Anhwylderau’r Ymennydd, peidiwch â’i golli gan ei fod yn gyfle gwych i ddysgu.”

Darllenwch fwy am brofiad Dr Dheerendra yn yr ysgol haf mewn blogbost sy'n trafod y rhaglen.

Ysgol Haf 2025

Bydd ysgol haf nesaf y CNGG yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf 2025.

Bydd y dyddiadau a'r manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cwblhau yn ddiweddarach eleni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod, ewch i dudalen Ysgol Haf y ganolfan ddechrau mis Chwefror pan fydd manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi.

Rhannu’r stori hon