“Ymrwymiad dwfn i gynhwysiant a chreadigrwydd”
8 Awst 2024
Mae academydd cerdd sy'n meithrin cymunedau dysgu creadigol, cynhwysol o fewn carfannau amrywiol o fyfyrwyr wedi'i gydnabod â gwobr genedlaethol fawreddog.
Mae Dr Daniel Bickerton o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan Advance HE – y wobr flaenllaw yn y sector.
Rhoddir y Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol bob blwyddyn i nifer fach o academyddion sydd wedi cael effaith ragorol ar ddeilliannau myfyrwyr a’r proffesiwn addysgu yn y DU.
Mae Dr Bickerton wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei fyfyrwyr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu gydol oes ac yn cael cyfleoedd cyffrous i gydweithio mewn gweithdai a pherfformiadau creadigol, yn ogystal â datblygu sgiliau arwain ac ymgysylltu dychmygus i hwyluso heriau ysgolheictod rhyngddisgyblaethol ar draws y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae wedi ennill gwobrau am ei allgymorth helaeth a’i waith ehangu cyfranogiad sydd, mewn tro, wedi cynnig cyfleoedd cyfoethogi a lleoliadau gwaith i fyfyrwyr AU fel cyd-arweinwyr cynhwysol.
Mae gwaith Daniel nid yn unig wedi arwain at dderbyn mwy o fyfyrwyr i’r ysgol ond hefyd wedi gwella deilliannau myfyrwyr trwy arferion dysgu, addysgu a chymorth sydd wedi’u gyrru gan sgiliau. Mae’n uchel ei barch am ei arferion asesu cynhwysol a digidol trwy ddigwyddiadau arddangos a chynadleddau myfyrwyr. Mae ei waith wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn boddhad myfyrwyr ac asesu ac adborth dros y deng mlynedd diwethaf.
Wedi’i gydnabod yn rhyngwladol fel mentor i staff a myfyrwyr AU fel ei gilydd, mae Dr Bickerton yn hyrwyddo arfer gorau a dysgu cynhwysol dramor, a mawr yw’r galw amdano fel ymgynghorydd i bwyllgorau cwricwlwm AU, gan gynnwys gwaith adolygu cymheiriaid ar gyfer Music Quality Enhancement Ewrop, gan gyfrannu at welliant parhaus mewn dysgu ac addysgu AU yn rhyngwladol.
Dywedodd Claire Morgan, Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr: “Mae addysgu Daniel yn seiliedig ar ymrwymiad dwfn i gynhwysiant a chreadigrwydd. Mae’n cydnabod amrywiaeth eang ei fyfyrwyr ac mae wedi datblygu darpariaeth gerddoriaeth fywiog ac amlochrog sy’n cynnwys lleoliadau, gweithdai sy’n canolbwyntio ar sgiliau a gweithgareddau cyfoethog. Mae ei fyfyrwyr yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau cenedlaethol a rhyngwladol hynod gofiadwy ar draws genres lluosog ac yn elwa ar ethos lle mae pawb yn cael eu cefnogi i gyflawni.”
Wrth sôn am ei wobr, dywedodd Dr Bickerton: “Mae wir yn anrhydedd derbyn y wobr hon. Rwy’n ymwybodol bod bri cenedlaethol a rhyngwladol i’r Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd trawsnewidiol rydw i wedi’u cael i wneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr o bob math o gefndiroedd yn ystod fy ngyrfa hyd yn hyn.”
“Gobeithio y bydd y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn tynnu sylw at yr addysgu a’r ysgolheictod rhagorol amlwg yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, ac o fewn y ddisgyblaeth Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yn ehangach, ar adeg heriol iawn i’r rhai sy’n gweithio ym maes Addysg Uwch.”
Dyfarnwyd cyfanswm o 55 o Gymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol gan Advance HE eleni. Mae’r gwobrau’n hynod gystadleuol ac mae panel annibynnol o uwch arweinwyr addysg uwch, sy’n cynrychioli pedair gwlad y DU, yn sicrhau eu hansawdd.