Ewch i’r prif gynnwys

Gwerth ymgysylltu â'r cyhoedd: safbwynt ymchwilydd

6 Awst 2024

Mae Dr Ioanna Katzourou, Ymchwil Ôl-ddoethurol sy'n gweithio ar Gydweithredol Ymchwil Amlafiachedd Bywyd (LINC), yn rhannu ei phrofiadau o waith ymgysylltu â chleifion a'r cyhoedd hyd yn hyn.

Mae barn wedi bod ers tro bod gwyddonwyr dan glo yn eu tyrau ifori ac nad oes ganddyn nhw afael ar broblemau'r byd go iawn. Er mai barn sy’n perthyn i’r gorffennol yw hon i raddau helaeth, gall hyd yn oed yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf barhau i deimlo'n bell oddi wrth y cymunedau fydd yn elwa arnyn nhw gobeithio.

A finnau’n ymchwilydd meintiol, rwy'n gweithio gyda data a rhifau, sy'n aml yn ynysig ac yn eithaf cras. Mae fy ngwaith yn cael ei fesur drwy nifer y cyhoeddiadau rwy'n eu cynhyrchu, a metrigau sydd ddim bob amser yn adlewyrchu gwir effaith yr ymchwil hon. Er mai'r nod, i mi, yw gwella bywydau pobl, yn aml mae'r bobl hyn yn teimlo fel rhyw freuddwyd pell.

Dros y ddwy flynedd rydw i wedi bod yn gweithio ar brosiect LINC. Rwy’ wedi bod yn ffodus i gael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â'r cyhoedd am fy ngwaith, o chwarae gemau gwyddoniaeth gyda phlant mewn gwyliau a siarad â phobl sydd â phrofiad bywyd am ein hymchwil ddiweddaraf, i geisio cyfarwyddyd uniongyrchol ar gyfer fy ngwaith gan grŵp Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd LINC.

Bob tro rwy’ wedi gweithio gyda'r cyhoedd, mae wedi bod yn brofiad gostyngedig ac yn hynod ysbrydoledig ar yr un pryd.

Mae gallu siarad â'r bobl fydd yn elwa o ganlyniadau fy ngwaith gobeithio, i ddysgu am eu bywydau a chlywed am eu gobeithion ar gyfer y dyfodol, yn fy helpu i gofio beth dw i’n canolbwyntio arno yn fy ymchwil mewn gwirionedd.

Mae gweld plant wedi eu cyfareddu gan gysyniad yr helics dwbl DNA yn fy atgoffa o’m brwdfrydedd dros wyddoniaeth yn ystod fy ieuenctid sy'n aml yn cael ei gladdu dan bwysau gwaith bob dydd. Er fy mod yn mwynhau fy ngwaith sy'n canolbwyntio ar ddata yn fawr, rwy'n gwerthfawrogi'r atgofion a'r cyfleoedd hyn i siarad am ymchwil gyda phobl sy'n malio amdani ac yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol ganddi.

Darllenwch fwy am grŵp ymgysylltu cleifion a chyhoeddus LINC.