Ewch i’r prif gynnwys

BioFAIR yn barod i drawsnewid gwaith rheoli data ym maes ymchwil gwyddorau bywyd

5 Awst 2024

A woman uses a computer to look at data

Mae academyddion yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau a’r Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol yn cefnogi prosiect newydd sy’n ceisio democrateiddio mynediad i ddata, llif gwaith a chymunedau gwyddorau bywyd.

Bydd BioFAIR yn creu seilwaith ar gyfer rhannu data a meddalwedd rhwng prosiectau a sefydliadau, gan greu rhagor o gyfleoedd i ailddefnyddio a chydweithio. Drwy hyrwyddo egwyddorion data FAIR, sy’n mynnu bod data’n ganfyddadwy, yn hygyrch, yn rhyngweithredol ac yn ailddefnyddiadwy, bydd y gymuned ymchwil gwyddorau bywyd yn gallu cyflymu’r broses o greu gwybodaeth bwysig. Mae Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) wedi cyhoeddi buddsoddiad o £34 miliwn dros bum mlynedd.

Bydd y prosiect hefyd yn rhoi cyfleoedd i hyfforddi a datblygu er mwyn helpu ymchwilwyr ac ymarferwyr ar bob lefel i ymgorffori sgiliau data a meithrin gallu yn y DU.

Un o gysyniadau ELIXIR-UK ar y cyd ag ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o’r DU oedd BioFAIR. Cynhaliwyd naw sioe deithiol, gan gynnwys yng Nghaerdydd lle cafodd academyddion eu croesawu gan y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol a’r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau.

Bydd hyn yn newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n darganfod, yn gweld ac yn ailddefnyddio data a seilweithiau dadansoddi ledled y DU. Bydd hyn yn cael effaith hirdymor ar ymchwil, gan leihau costau ac achosion o ddyblygu ymdrech yn y pen draw wrth i rannu ddod yn rhan o’n gweithgareddau.
Robert Andrews

Bydd BioFAIR yn ysgogi arloesi a darganfod. Dros bum mlynedd, bydd yn:

  • cyflymu’r broses o fabwysiadu egwyddorion data FAIR ym maes gwyddorau bywyd y DU, gan wneud y data’n fwy defnyddiol a gwerthfawr i ymchwilwyr nag erioed o’r blaen
  • uno tirwedd ymchwil ddigidol y DU sy’n dameidiog ar hyn o bryd, gan feithrin cyfleoedd cwbl arbennig i gydweithio a chydlynu yn y gymuned gwyddorau bywyd genedlaethol
  • chwalu rhwystrau i ddemocrateiddio hygyrchedd data, gan roi i ymchwilwyr y DU yr ymreolaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i arloesi a darganfod ffynnu
  • cydlynu a rhoi hyfforddiant a chymorth helaeth i ymarferwyr ar bob lefel, gan feithrin gallu hollbwysig yn y gweithlu a sicrhau statws y DU yn arweinydd byd-eang ym maes gwyddorau bywyd