Ewch i’r prif gynnwys

Yr Academi Brydeinig yn ethol Athro Cyfraith Eglwysig yn Gymrawd

5 Awst 2024

Athro Norman Doe
Athro Norman Doe

Mae Athro yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn un o bedwar academydd ym Mhrifysgol Caerdydd i gael eu hethol yn Gymrodyr gan yr Academi Brydeinig ym mis Gorffennaf eleni.

Mae’r Athro Norman Doe, sy’n Athro’r Gyfraith, wedi’i ethol yn Gymrawd am sicrhau rhagoriaeth yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Bydd yn ymuno â chymuned o fwy na 1,700 o academyddion nodedig.

Yr Athro Doe, sydd wedi addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd ers 1985, yw Cyfarwyddwr sefydledig Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, ac mae ganddo CV academaidd helaeth a thoreithiog.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Athro Doe wedi dod yn un o Gwnsleriaid y Brenin er Anrhydedd (KC Honoris Causa) oherwydd ei waith ar adfywio’r broses o astudio cyfraith eglwysig yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys mynd â drama a ysgrifennwyd ganddo, Thrice to Rome, ar daith i safleoedd eglwysig arwyddocaol yn y DU, gyda pherfformiad wedi'i gynllunio yn Rhufain ym mis Medi.

Mae cyhoeddiadau’r Athro Doe ar gyfraith eglwysig wedi bod yn hynod ddylanwadol, gan gael eu dyfynnu wrth wneud penderfyniadau ynghylch rôl gyfansoddiadol yr Eglwys yn Lloegr a chyfrannu at y gwaith o adolygu gweithdrefnau disgyblu clerigwyr.

Wrth sôn am ei Gymrodoriaeth, dywedodd yr Athro Doe: “Dw i wedi synnu ond yn falch iawn o gael fy ethol yn un o Gymrodyr yr Academi Brydeinig. Mae’r etholiad hwn gan yr Academi Brydeinig, sy’n dod dim ond pedwar mis ar ôl i mi ddod yn un o Gwnsleriaid y Brenin er Anrhydedd, yn gydnabyddiaeth bellach i’w chroesawu’n fawr o’r holl bethau y mae Canolfan y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – sefydliad y mae’n anrhydedd bod yn Gyfarwyddwr arno – wedi’u cyflawni dros nifer o flynyddoedd. Bydd bod yn un o Gymrodyr yr Academi Brydeinig hefyd yn fy ngalluogi i wella ymhellach fy arbenigedd fy hun, sef hanes cyfraith eglwysig a chyfraith eglwysig gymharol fodern. Dw i’n hynod ddiolchgar i'r Academi Brydeinig, ac i fy nghydweithwyr yn y Ganolfan am eu holl waith caled am gyfnod mor hir”.

Rhannu’r stori hon