Cymdeithas y Gyfraith yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau’r Cymdeithasau, Gwirfoddoli a Chyfryngau
1 Awst 2024
Yn dilyn blwyddyn wych, enillodd Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Caerdydd lu o wobrau yng Ngwobrau'r Cymdeithasau, Gwirfoddoli a Chyfryngau 2024.
Cafodd y noson wobrwyo, sy’n cael ei chynnal gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ei chynnal ym mis Mai, ac mae’n cydnabod gwaith caled ac ymdrech ein myfyrwyr y tu hwnt i’w hastudiaethau i wirfoddoli a chynnal sawl cymdeithas a grŵp ar gyfer eu cyd-fyfyrwyr.
Gyda mwy na 200 o gymdeithasau ar y campws, mae'r gystadleuaeth yn un ffyrnig. Er hynny, llwyddodd Cymdeithas y Gyfraith i ennill y wobr Cymdeithas Gwrs y Flwyddyn a’r wobr Cymdeithas y Flwyddyn (Mawr).
Yn y categori Cymdeithasau Cwrs, clodforwyd y gymdeithas am hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ac am sicrhau cynnydd o fwy na 25% yn nifer yr aelodau.
Mae’r wobr Cymdeithas y Flwyddyn (Mawr) yn cael ei rhoi i’r gymdeithas sydd wedi mynd ymhell uwchlaw’r disgwyl, gan ddangos blaengaredd a natur benderfynol, ynghyd ag ymddwyn mewn ffordd eithriadol ym mhopeth y mae’n ei wneud. Cafodd Cymdeithas y Gyfraith ei chydnabod yn y categori hwn am fod â mwy na 600 o aelodau a phwyllgor hynod ymrwymedig sy’n trefnu digwyddiadau o bob math yn aml. Mae nifer fawr o bobl yn mynd i’w digwyddiadau ac mae lleoedd ynddyn nhw’n diflannu’n chwim. Gwnaeth Dawns y Gwanwyn wneud dros £15,000 mewn 24 awr! Cafodd Llywydd y Gymdeithas, Winky Yu, hefyd ei chydnabod yn allanol, gan sicrhau’r teitl Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Gorau yn y DU yng Ngwobrau Cymdeithasau’r Gyfraith Myfyrwyr LawCareers.Net.
Ynghyd â chategorïau Gwobrau’r Cymdeithasau, Gwirfoddoli a Chyfryngau, caiff cymdeithasau eu hannog i weithio tuag at ennill medalau o fewn system haenau. Enillodd Cymdeithas y Gyfraith y nifer uchaf o bwyntiau, a derbyniodd y wobr Platinwm eleni.
Dywedodd y Llywydd, Winky Yu: “Rwy’ ar ben fy nigon bod Cymdeithas y Gyfraith wedi cael ei chydnabod yn y fath ffordd. Rydyn ni wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod ein cymdeithas yn un groesawgar a chynhwysol i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio’r gyfraith. Felly, mae’n wych bod eraill yn cydnabod hynny.”