Crefftwyr yn dod ynghyd: RemakerSpace yn llewyrchu yn ystod Pythefnos PHEW
31 Gorffennaf 2024
Yn rhan o Bythefnos Iechyd, yr Amgylchedd a Lles Cadarnhaol (PHEW) Prifysgol Caerdydd 2024, gwnaeth RemakerSpace gynnal gweithgareddau am yr ail flwyddyn yn olynol, gan ddathlu creadigrwydd a mentrau’r economi gylchol.
Yn rhan o Bythefnos PHEW, cynhaliodd RemakerSpace sesiynau diddorol ar ddylunio ac argraffu 3D, lle roedd cyfle i staff gael blas ar weithgareddau newydd ac ehangu eu gwybodaeth ym maes iechyd, lles a’r amgylchedd. Gan adeiladu ar boblogrwydd eu digwyddiadau 'Gwau, Sgwrsio, Crefftau, a Chloncian' rheolaidd, fe drefnon nhw hefyd sesiwn arbennig i groesawu wynebau newydd a rhai mwy cyfarwydd yn ôl.
Bu’r digwyddiadau hyn dynnu sylw at y labordy argraffu 3D o'r radd flaenaf, y gweithdy traddodiadol, a’r ystafell waith atgyweirio electronig newydd. Yn ystod y pythefnos, cynhaliwyd Ffair Crefftau RemakerSpace am y tro cyntaf yn sbarc|spark. Gan ddathlu creadigrwydd a chrefftwaith, daeth crefftwyr o bob rhan o’r brifysgol at ei gilydd i roi cyhoeddusrwydd i’w heitemau wedi’u gwneud â llaw, gan gynnwys gemwaith, dillad plant hyfryd, cardiau cyfarch, gwaith celf a thecstilau cywrain.
Fe wnaeth Cathy Williams, Swyddog Lleoliadau gwaith i Israddedigion a Stondinwr yn y Ffair, rannu ei llawenydd: “Roedd cymryd rhan yn y Ffair Crefftau yn bleser; peth gwych oedd cwrdd â chymaint o grefftwyr o’r un anian, yn ogystal â gweld yr amryw o dalent sydd ar gynnig gan aelodau’r Brifysgol Gwnes i fwynhau’r cyfle i arddangos fy nghlustdlysau clai polymer wedi’u gwneud â llaw, a chael adborth gwerthfawr iawn gan y rheini a ddaeth draw i weld fy stondin (yn ogystal ag ambell i gwsmer hapus yn gadael â phâr newydd o glustlysau). Rwy’n gobeithio y galla’ i gymryd rhan mewn mwy o gyfleoedd yng nghwmni crefftwyr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd; cymuned fach ddirgel ond bendigedig yw hi!”
Mynegodd Rebecca Travers, Rheolwr Canolfan RemakerSpace, yr un cyffro: “Rydyn ni wrth ein bodd â'r adborth cadarnhaol a gawson ni gan y cydweithwyr hynny a ddaeth i’n sesiynau PHEW i gael blas ar ein cyfleusterau! Pleser mawr oedd gweld yr holl grefftwyr talentog a brwdfrydig o ledled y brifysgol yn arddangos eu heitemau wedi’u gwneud â llaw yn y Ffair Crefftau!”
Ac yntau wedi’i leoli yng Nghanolfan Flaenllaw’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, sef sbarc|spark, mae RemakerSpace wedi’i ymroi i fentrau’r economi gylchol. Cafodd ei sefydlu drwy ddyfarniad Cronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, gyda chymorth sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae tîm RemakerSpace hefyd yn cynnwys Yr Athro Aris Syntetos (Cyfarwyddwr), Dr Daniel Eyers (Cyd-gyfarwyddwr), a Dr Franck Lacan (Rheolwr Technegol). I gael rhagor o fanylion am sut mae RemakerSpace yn cefnogi grwpiau cymunedol, darparwyr addysg a busnesau, cysylltwch â Rebecca Travers.